Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol | Cwestiynau Cyffredi

19 Mehefin 2023

Sgrinio am ganser ceg y groth yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag canser ceg y groth — ond nid yw 1 o bob 4 o bobl yn mynychu eu hapwyntiad.

Bydd menywod ac unigolion â cheg y groth rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob pum mlynedd o leiaf unwaith y byddant wedi profi’n negyddol i HPV. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dod i’ch apwyntiad oherwydd sgrinio serfigol yw un o’r ffyrdd gorau o atal canser ceg y groth.

Prif nodau sgrinio serfigol yw lleihau:

  • Nifer yr achosion o ganser ceg y groth (amlder) drwy nodi newidiadau yn y celloedd cyn iddynt droi’n ganser
  • Nifer sy’n marw o ganser ceg y groth (marwolaethau) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar
  • Effeithiau canser neu driniaethau canser ar iechyd (afiachedd) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar pan fydd yn llawer haws ei drin

I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol, rydym wedi ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio serfigol yng Nghymru, ewch i phw.nhs.wales.

 

Dilynwch ni