Er mai dim ond ychydig dros 1,500 awr o haul y flwyddyn y bydd Caerdydd a Bro Morgannwg yn ei brofi, mae’n dal yn bwysig aros yn ddiogel yn yr haul.
Mae’r haul a thywydd braf yn rhoi cyfleoedd gwych i fwynhau teithiau cerdded arfordirol y Fro neu rai o’r mannau gwyrdd o fewn y ddinas, ond mae’n bwysig cofio, nodi a gweithredu ar beryglon llosgi, cael gormod o liw haul a’r risgiau ychwanegol a all godi ar ddiwrnodau heulog a chynnes.
Dyma rai awgrymiadau a chyngor ar sut i gadw'n ddiogel yn yr haul yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul a Mis Ymwybyddiaeth Canser y Croen…
Canser y croen yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU ac mae’r rhan fwyaf o ganser y croen yn cael ei achosi gan olau uwchfioled (UV) sy’n niweidio’r celloedd DNA.
Mae'n bwysig eich bod yn archwilio eich croen yn rheolaidd, oherwydd gall canfod canser y croen yn gynnar leihau'r risg o ddatblygu canser croen mwy difrifol. I gael gwybodaeth am sut i wirio'ch croen, ewch i'r dudalen we hon gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain.
Mae eli haul yn helpu i amddiffyn eich croen rhag llosgi. Gall defnyddio eli haul ag amddiffyniad uchel o SPF 30 o leiaf, ond hefyd ag amddiffyniad UVA uchel, eich helpu i gadw'n ddiogel yn yr haul.
Sicrhewch eich bod yn rhoi eli haul dros bob rhan o’ch croen yn aml; gall chwysu, sychu eich hun â thywel a gwneud gweithgareddau yn yr haul achosi i'r eli haul rwbio i ffwrdd, felly sicrhewch eich bod yn rhoi eli haul yn aml ar y rhannau o’ch corff sy’n gweld yr haul.
Mae pedwar math o niwed gan yr haul; llosg haul, croen yn heneiddio, gorbigmentiad a chanser y croen a gall hyn effeithio ar bob math o groen.
Er bod croen mwy golau yn debygol o losgi'n gyflymach, mae'r rhai â chroen tywyllach yn dal i fod mewn perygl o gael niwed gan yr haul. Mae'r daflen ffeithiau hon wedi'i datblygu i gynnig cyngor haul ar gyfer croen o liw, cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Wrth fwynhau'r haul mae'n bwysig yfed digon o ddŵr. Gall yfed digon o hylifau helpu i sicrhau bod eich corff yn aros yn ddiogel ac yn iach ar ddiwrnodau poeth. Ceisiwch osgoi diodydd â chaffein, alcohol a chyfnodau estynedig yn yr haul oherwydd gall yr holl bethau hyn arwain at ddadhydradu.
Gall yfed digon o ddŵr a bwyta ffrwythau a llysiau sy'n cynnwys llawer o ddŵr helpu i'ch cadw wedi’ch hydradu ac yn ddiogel.
Gall yr haul achosi cyfres o gyflyrau meddygol gwahanol os nad ydych yn ofalus wrth fwynhau diwrnodau cynnes. Mae gorludded gwres yn gyflwr sy'n datblygu oherwydd dadhydradu a achosir gan amlygiad i dymheredd uchel. Ymhlith y symptomau mae pen tost, croen oer a llaith, pendro a chyfog.
Mae trawiad haul yn broblem fawr arall a all godi o ganlyniad i'r corff yn gorboethi ar ddiwrnodau poeth. Mae symptomau’r cyflwr hwn yn cynnwys tymheredd, newid mewn cyflwr meddwl, cyfog a phendro.
Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr o'ch symptomau, ffoniwch 111 a byddwch yn cael eich asesu gan swyddog galwadau a fydd yn eich helpu i gael y cymorth iawn, y tro cyntaf.
Wrth i fisoedd yr haf agosáu, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r effeithiau y gall yr haul eu cael ar ein croen a’n hiechyd. Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn a gofalu am eich croen, gallwch chi helpu i gadw'n ddiogel yn yr haul yr haf hwn.