13 Mai 2024
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yr wythnos hon —digwyddiad blynyddol sy’n ein hannog ni i gyd i feddwl am ein lles meddwl, mynd i’r afael â stigma a chynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.
O bryd i'w gilydd mae angen cefnogaeth arnom ni i gyd ond weithiau gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Er mwyn ei gwneud hi’n haws llywio’r cymorth sydd ar gael, rydym wedi creu catalog defnyddiol o’r gwahanol sefydliadau cymorth ac elusennau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r sefydliadau a’r elusennau wedi’u rhannu yn ôl categori oedran yn oedolion, plant a phobl ifanc a phobl hŷn, ac fe’u rhestrir yn nhrefn yr wyddor er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i gael gafael ar y sefydliad iawn.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau ac adnoddau sydd wedi’u datblygu gan ein timau i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles.
Stepiau yw ein hadnodd digidol a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae gwefan Stepiau ar gael i bobl o bob oed ledled Caerdydd a Bro Morgannwg ac mae’n cynnig cyngor iechyd meddwl am ddim, adnoddau hunangymorth a gwybodaeth am y cyrsiau mynediad agored a’r grwpiau therapiwtig sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth, ewch i stepiau.org
Mae ein gwefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl wedi’i chyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynnig gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar les emosiynol ac iechyd meddwl.
Mae’r wefan, a ddatblygwyd gan ein Gwasanaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cavyoungwellbeing.wales/
At hynny, mae gan bawb ledled Cymru fynediad i raglenni ar-lein SilverCloud.
Mae SilverCloud yn blatfform therapi ar-lein sy'n defnyddio dulliau profedig fel Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) i helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn.
Mae 17 o raglenni ar gael sy’n ymdrin â gwahanol bynciau, fel gorbryder, iselder, ffobia a lles rhieni.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: cavuhb.nhs.wales/our-services/mental-health/silvercloud