25 Mehefin 2024
Mae heddiw yn nodi dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Archwilio Clinigol, ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo a dathlu manteision ac effaith gwaith archwilio clinigol a gwella ansawdd mewn gofal iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn mynd ati’n rhagweithiol, gyda chydweithwyr a phartneriaid o bob rhan o’r sefydliad, i sicrhau bod yr wythnos yn effeithiol wrth hyrwyddo archwilio clinigol fel adnodd gwella ansawdd ar gyfer gwella gofal cleifion a dathlu ac ysbrydoli timau a chydweithwyr eraill i gymryd rhan.
I ddweud mwy wrthym, dyma Alison Short, Rheolwr Archwilio Clinigol.