Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos y Lluoedd Arfog 2025

I nodi Wythnos y Lluoedd Arfog 2025, rydym yn taflu goleuni ar rai o’n cydweithwyr anhygoel sydd â rolau o fewn y Lluoedd Arfog ochr yn ochr â’u swyddi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, naill ai fel swyddogion rheolaidd, milwyr wrth gefn neu gyn-filwyr.

Eleni, mae wythnos y Lluoedd Arfog yn rhedeg o 22 - 28 Mehefin ac mae'n ddathliad o gyfraniadau, blaenorol a phresennol, y rhai sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog ac yn falch o fod yn rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Cwrdd â Justin

Mae Justin yn Ymarferydd Anesthetig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi'i leoli'n bennaf mewn theatrau brys. Mae hefyd yn aelod hanfodol o'r Tîm Argyfwng Meddygol, gan ymateb i drawma ac argyfyngau critigol ar draws yr ysbyty.

Ochr yn ochr â'i rôl yn y GIG, mae Justin yn gwasanaethu fel Nyrs Hedfan mewn Sgwadron Gwacáu mewn Argyfwng Awyrfeddygol gyda'r Llu Awyr Brenhinol. Mae'r rôl unigryw hon yn cyfuno nyrsio traddodiadol â gofal milwrol rheng flaen, gan ddarparu triniaeth feddygol uwch yn ystod hediad i bersonél sydd wedi'u hanafu – yn aml mewn amgylcheddau heriol a llawn straen.

Beth yw dy rôl o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro?

Rwy'n Ymarferydd Anesthetig sy'n gweithio'n bennaf mewn theatrau brys, lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath. Rwyf hefyd yn rhan o'r Tîm Argyfwng Meddygol (Anestheteg) sy'n ymateb i argyfyngau meddygol a thrawma ar draws yr ysbyty. Mae'n rôl llawn straen, sy’n symud yn gyflym ac sy'n gofyn am aros yn ddigynnwrf o dan straen a meddwl yn gritigol, ac rwy'n ffynnu ar y cyfan. P'un a ydw i'n cefnogi achos trawma cymhleth neu'n rhuthro tuag at yr anhysbys yn ystod galwad frys, allwn i ddim dychmygu fy hun yn gwneud unrhyw beth arall, a dweud y gwir.

Beth yw dy rôl o fewn y Lluoedd Arfog?

Rwy'n gwasanaethu fel Nyrs Hedfan yn y Llu Awyr Brenhinol (RAF) ar gyfer sgwadron gwacáu mewn argyfwng awyrfeddygol, rôl sy'n cyfuno nyrsio traddodiadol â gofal milwrol rheng flaen yn ddi-dor. Ein prif genhadaeth yw darparu gofal meddygol uwch yn ystod hediadau i bersonél gwasanaeth sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol, yn aml mewn amgylcheddau dan bwysau uchel. Boed yn gwagio personél o barthau lleoli, symud achosion meddygol cymhleth rhwng gwledydd neu gludo cleifion i gyfleusterau gwell.

Sut olwg sydd ar ddiwrnod nodweddiadol yn y rolau hyn?

A dweud y gwir, does dim byd tebyg i ddiwrnod nodweddiadol, a dyna beth rwy'n ei fwynhau amdano. Fel Ymarferydd Anesthetig, un diwrnod gallwn fod yn cynorthwyo ar gyfer llawdriniaeth ddewisol neu frys, diwrnod arall gallwn fod yn cynorthwyo claf sy'n dirywio ar y ward, yna’n cefnogi trawma cod coch yn yr Adran Dadebru.

Yn yr RAF, gallwn i fod yn helpu i lwytho cit meddygol ar awyren, codi pebyll triniaeth allan ar sesiwn ymarfer, neu’n gofalu am gleifion sy'n wael iawn filoedd o droedfeddi yn yr awyr.

Mae'r ddwy rôl yn galw am hyblygrwydd, gwydnwch a gwneud penderfyniadau cyflym, ac yn sicr ni fyddwn i eisiau gwneud unrhyw beth arall.

Oes unrhyw beth am dy rôl yn y Lluoedd Arfog rwyt ti’n teimlo sydd wedi dy helpu yn dy rôl o fewn y Bwrdd Iechyd?

Yn sicr, mae'r fyddin yn eich dysgu i aros yn dawel o dan bwysau, i arwain pan fo angen, a bod yn barod am unrhyw beth. Mae'r meddylfryd hwnnw'n sicr wedi trosglwyddo i'm rôl yn y GIG, yn enwedig yn ystod argyfyngau, pan fydd gofyn i chi feddwl yn glir a chyfathrebu'n effeithlon o fewn eich tîm.

Mae gweithio yn y maes Gwacáu mewn Argyfwng Awyrfeddygol hefyd wedi gwella fy ngallu i asesu cleifion yn gyflym a gweithio'n effeithiol mewn amgylcheddau bach, sydd â chyfyngiadau adnoddau, sydd wedi gwella sut rwy'n gweithredu mewn Theatrau ac mewn sefyllfaoedd brys.

Pam wyt ti’n meddwl ei bod hi'n bwysig dathlu/hyrwyddo Rhwydwaith y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd a'r Fro?

I fi, nid dim ond swydd yw bod yn rhan o'r GIG a'r Lluoedd Arfog, mae'n rhan o bwy ydw i fel person. Mae Rhwydwaith y Lluoedd Arfog yn bwysig oherwydd ei fod yn creu lle i bobl fel fi a llawer o rai eraill, sy'n gwasanaethu yn y ddwy swyddogaeth, ac yn eu cydnabod.

Gall fod yn hawdd i bobl beidio â bod yn ymwybodol o ochr filwrol ein bywydau, yn enwedig pan fyddwn yn dychwelyd o leoliadau, ymarferion neu ddyletswyddau dramor a rhoi ein gwisgoedd sgryb amdanom unwaith eto. Yn aml, efallai eich bod chi'n adnabod rhywun neu'n gweithio ochr yn ochr â rhywun heb wybod am yr ochr arall hon iddyn nhw.

Cwrdd â Neil 

Neil yw Arweinydd Clinigol Ymgynghorol GIG Cymru i Gyn-filwyr a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cyn-filwyr Cymru Gyfan. Mae Neil yn defnyddio ei brofiad personol yn y Lluoedd Wrth Gefn i lywio’r gwaith o oruchwylio ei gydweithwyr a'i waith gyda chleifion sy'n gyn-filwyr.

 
Dilynwch ni