Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos y Deietegwyr: Pam dewisais i ddeieteg fel gyrfa

Yn ystod Wythnos y Deietegwyr, sy’n cael ei chynnal rhwng 3-7 Mehefin, rydym yn dathlu deieteg fel gyrfa.

I rai mae’r diddordeb yn dechrau yn yr ysgol, efallai o gael profiad yn gweithio gyda deietegydd neu’n syml o gael eu cyffroi gan fwyd. I eraill mae’n dod yn fwy amlwg yn ddiweddarach mewn bywyd, fel ail ddewis gyrfa - neu ar hap hyd yn oed.

Serch hynny, mae’n yrfa amrywiol sy’n helpu pobl, yn datblygu’n barhaus gyda rolau ac arbenigeddau newydd ac yn rhoi cyfle i bobl symud ymlaen.

Yma mae Laura Sherman, Deietegydd Arweiniol Tîm y Blynyddoedd Cynnar, yn esbonio sut y dewisodd deieteg fel gyrfa…

Pam dewisoch chi weithio ym maes deieteg?

Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn bwyd a maeth erioed. Roeddwn i eisiau gyrfa lle gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles pobl.

Pryd wnaethoch chi benderfynu eich bod chi eisiau bod yn ddeietegydd?

Penderfynais fy mod eisiau dilyn gyrfa fel deietegydd yn fy ugeiniau canol. Dychwelais i fyd addysg i gwblhau cwrs mynediad mewn Gwyddoniaeth ac ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, cefais le ar gwrs gradd Maeth a Deieteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i hyfforddi fel deietegydd?

Roeddwn wedi gweithio mewn swyddi amrywiol ym maes manwerthu, lletygarwch a threuliais beth amser yn teithio dramor. Mwynheais bob un o’r rhain, ond roeddwn i eisiau her newydd a gyrfa lle gallwn ddefnyddio fy angerdd am fwyd a maeth.

Rwy’n cofio chwilio am swyddi yn ymwneud â maeth ar-lein a darllen am y posibiliadau gyrfaol amrywiol i ddeietegwyr ar wefan Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA), gyda chyfleoedd i weithio mewn lleoliadau clinigol, cymunedol ac ym maes iechyd y cyhoedd.

Yn ogystal, mynychais Ddiwrnod Profiad Maeth a Deieteg lle cefais gyfle i gwrdd â deietegwyr sy’n gweithio mewn llawer o wahanol feysydd arbenigol, a oedd wedi fy ysbrydoli’n fawr.

Beth sy’n parhau i’ch ysgogi?

Rwy’n cael fy ysgogi gan y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir ar gyfer y teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi mynychu ein cyrsiau Dechrau Coginio Sgiliau Maeth am Oes. Maent yn magu hyder cynyddol i goginio prydau fforddiadwy, iach a chytbwys a gwneud dewisiadau bwyd iachach o ganlyniad i fynychu’r cwrs.

Fel deietegydd arweiniol y tîm, mae gweld fy nhîm yn datblygu ac yn cyflawni eu nodau yn fy ysgogi’n fawr hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos y Deietegwyr, ewch i wefan BDA yma

Dilynwch ni