Rhwng 18-24 Tachwedd, bydd unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau yn dod at ei gilydd ar gyfer Wythnos Profi HIV Cymru: ymgyrch i annog pobl yng Nghymru i gael prawf am HIV.
Mae'r ymgyrch yn annog pobl yng Nghymru i fanteisio ar y pecyn prawf cartref cyfrinachol, am ddim, y mae’n ei alw “y parsel pwysicaf i gyrraedd eich cartref”.
Gyda thriniaeth, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw mor hir ac iach ag unrhyw un arall. Mae triniaeth hefyd yn eich atal rhag trosglwyddo'r feirws i eraill. Ond ni allwch gael eich trin os na chewch eich profi.
Cael eich profi yw'r unig ffordd o wybod a oes gennych HIV – ac, yng Nghymru, ni fu erioed yn haws. Ers ei gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020, mae'r gwasanaeth profi drwy'r post ledled Cymru wedi cynyddu profion drwy ei gwneud yn haws: mae'r pecyn prawf cyfrinachol bellach am ddim a gellir ei ddanfon i'ch drws.
Wedi'i sefydlu gan wirfoddolwyr yn 2021, mae Wythnos Profi HIV Cymru wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel dull defnyddiol o gynyddu profion a mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar waith arloesol dan arweiniad gwirfoddolwyr a gyflawnwyd yn lleol cyn 2021.
Dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Fast Track Cymru a gwirfoddolwyr cymunedol, mae’r ymgyrch yn ysgogi unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau i ddangos y gall pawb yng Nghymru chwarae eu rhan i ddileu achosion newydd o HIV erbyn 2030.