3 Mehefin 2024
Yr wythnos hon mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, ac yn dweud diolch i’r cannoedd o bobl sy’n rhoi o’u hamser i wneud cymaint o wahaniaeth i gleifion, gwasanaethau a staff.
Yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn, mae rhwng 400-500 o bobl yn cefnogi dros 35 o brosiectau a rolau gwirfoddol yn Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty'r Barri ac mewn lleoliadau cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gyfeillio â chleifion, yn helpu ymwelwyr i fynd y ffordd iawn, yn mynd â trolïau llyfrgell o amgylch wardiau, yn helpu i arwain gweithgareddau fel celf a chrefft a llawer mwy.
Yn ystod pum mis cyntaf 2024 mae dros 5,100 o oriau wedi’u rhoi gan wirfoddolwyr yn amrywio mewn oedran o 13 oed i 86 oed.
O fewn mannau aros yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth pwysig drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion am eu hamseroedd aros, yn rhoi cwmni i gleifion sydd ar eu pen eu hunain, a’u helpu i ddod o hyd i gadeiriau olwyn. Dywedodd yr Uwch Nyrs Ellie Gerrard: Diolch gan bob un ohonom yn yr Adran Achosion Brys am yr holl waith yr ydych yn ei wneud dros ein cleifion a’r gefnogaeth yr ydych yn ei rhoi i’r staff yn ddyddiol. Rydym yn cydnabod cyfraniadau pob un ohonoch. Rydych chi’n rhan werthfawr o’n tîm”.