Wrth i 2024 ddod i ben, mae'r Cadeirydd Charles 'Jan' Janczewski a'r Prif Weithredwr Suzanne Rankin wedi rhannu eu negeseuon Nadoligaidd, gan fyfyrio ar lwyddiannau a heriau'r flwyddyn.
Yn eu fideos, mae Jan a Suzanne yn canmol ymroddiad, tosturi a gwaith tîm diwyro cydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd ac yn diolch i bartneriaid awdurdodau lleol ac asiantaethau trydydd sector am eu brwdfrydedd, eu hegni a'u gwasanaeth.
Maent yn dathlu cyflawniadau allweddol fel y Cynllun Amcanion Cydraddoldeb Strategol, cyflwyno'r rhaglen Diogel yn y Cartref a datblygiadau arloesol mewn genomeg a datblygu'r gweithlu. Maent hefyd yn tynnu sylw at gyfraniadau sylweddol tîm iechyd y cyhoedd, yn enwedig gyda brechiadau ac atal diabetes, a'r gydnabyddiaeth genedlaethol a gafwyd drwy raglen ddogfen BBC One Wales, Saving Lives in Cardiff.