Neidio i'r prif gynnwy

Walkie Talkie: y grŵp cerdded wythnosol newydd a gynlluniwyd i helpu pobl i siarad am eu hiechyd meddwl

11 Mehefin 2024

Dispatch, PC Baggett sydd yma, over.

Dispatch sydd yma, ewch ymlaen.

Anfonwch yr uned ar eu hegwyl. Mae'n amser cerdded a siarad, over.

Roger that, PC Baggett. Walkie Talkie ar y gweill.

 

Croeso i'ch egwyl ginio Walkie Talkie newydd.

Bob dydd Mercher, bydd swyddogion cyswllt yr heddlu yn mynd i Barc y Mynydd Bychan i gynnal man diogel i gydweithwyr a’r gymuned gymryd eiliad yn ystod eu hamserlenni prysur i gerdded a siarad.

P’un a yw’r sgwrs yn ymwneud â gwaith, bywyd cartref, pryderon, straen, neu hapusrwydd, pwrpas yr amser hwn yw gwella iechyd meddwl a lles a mwynhau bod allan yn yr awyr iach.

Lansiwyd y fenter gan PC Martin Baggett o Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Bydd y sesiynau’n dechrau ddydd Mercher, 3 Gorffennaf am 1pm, gyda’r bwriad o gyfarfod ym maes parcio Parc y Mynydd Bychan cyn cychwyn ar lwybr drwy’r parc. Bydd y llwybrau'n cymryd hyd at awr, a bydd angen dillad ac esgidiau cyfforddus arnoch. Mae faint o amser a dreulir yn y sesiynau hyn yn dibynnu ar y cyfranogwyr, a’r galw sydd ar y gwasanaeth.

“Rydym am annog pobl i ddod allan o'u hamgylchedd gwaith a chael seibiant yn yr awyr iach yn ardal wyrdd agored Parc y Mynydd Bychan,” esboniodd PC Baggett. “P'un a ydych yn nyrs yn yr uned achosion brys, yn weithiwr swyddfa neu efallai'n rhywun nad yw'n cael y cyfle i fynd allan ar eu hegwyl mor aml â hynny - byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan.

“Mae'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun: byddwn yn cerdded ac yn siarad. Os bydd rhywun eisiau bod yn agored am rywbeth yn eu bywyd cartref, gallwn wneud hynny. Os bydd rhywun dim ond eisiau trafod eu diwrnod gwaith a rhyddhau emosiynau, fe allwn ni wneud hynny hefyd. Gobeithio y gall pobl ddadlwytho yn ystod y daith gerdded a theimlo'n llawer gwell erbyn diwedd y daith.”

Mae’r teithiau cerdded wythnosol hefyd yn cael eu cefnogi gan Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dywedodd: “Mae'n wych gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru ar fenter mor syml ond pwysig. Mae llawer o fanteision corfforol a meddyliol i gerdded, o gryfhau'r galon, i leddfu poen yn y cymalau i wella ein hwyliau.

“Bydd Walkie Talkie yn caniatáu i bobl nid yn unig gwblhau eu camau dyddiol, ond i siarad yn rhydd ac yn agored mewn amgylchedd diogel. Rydym yn ffodus iawn i gael Parc y Mynydd Bychan ar garreg ein drws, felly beth am ei fwynhau yn ystod eich egwyl ginio gyda chydweithwyr yr haf hwn?”

Mae MRS Communications Limited, un o brif ddarparwyr setiau radio dwy ffordd a systemau radio diogelwch yn y DU, yn noddi laniardiau pwrpasol a fydd ar gael i gyfranogwyr yn y sesiynau. 

Ymunwch â PC Baggett ddydd Mercher, 3 Gorffennaf i gychwyn yr ymgyrch Walkie Talkie hon. Am fwy o fanylion e-bostiwch martin.baggett2@south-wales.police.uk neu Onsite.police@nhs.wales.uk 

 

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Walkie Talkie?

Mae Walkie Talkie yn fenter newydd gan Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Y nod yw cael cydweithwyr i symud yn ystod eu hegwyl ginio a chymryd amser i drafod beth sydd ar eu meddwl mewn lle niwtral.

Gwelaf fod hyn yn digwydd ym Mharc y Mynydd Bychan. A yw hynny'n golygu mai dim ond cydweithwyr o Ysbyty Athrofaol Cymru all fynychu?

Na, mae'r sesiynau hyn yn cynnwys pawb. Mae hwn yn gyfnod prawf, ac yn dibynnu ar y galw a'r llwyddiant efallai y bydd mwy o gyfleoedd i gyflwyno sesiynau yn Ysbyty Athrofaol Llandochau a safleoedd eraill yn y dyfodol.

Pam fod yr Heddlu yn gysylltiedig?

Pwrpas y sesiynau hyn yw helpu i godi ymwybyddiaeth o'r Swyddogion Cyswllt yr Heddlu penodedig sydd ar gael ar y safle.

A allaf wisgo fy esgidiau ymarfer i’r gwaith?

Gallwch, fel rhan o'r ymgyrch Active Soles rydym eisoes yn annog cydweithwyr i wisgo esgidiau cyfforddus lle bo modd.

A gaf i gymryd awr fel egwyl cinio ar gyfer hyn?

Mae llawer ohonom yn cael egwyl cinio 30 munud, ond rydym yn eich annog i siarad â'ch rheolwr llinell/arweinydd adran i weld a yw hyn yn rhywbeth y gellir ei ymestyn y tro hwn.

Pa mor rheolaidd fydd y sesiynau Walkie Talkie hyn yn digwydd?

Cynhelir y sesiynau hyn bob dydd Mercher rhwng 1-2pm hyd nes y clywir yn wahanol.

Dilynwch ni