Neidio i'r prif gynnwy

Versha Sood Mahindra yn derbyn BEM am wasanaethau i gydlyniant cymunedol a phobl â dementia

Mae Versha Sood Mahindra, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Dementia ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, wedi derbyn Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am ei gwasanaethau i gydlyniant cymunedol a phobl â dementia yng Nghaerdydd.

Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y maes, mae Versha wedi hyrwyddo gwaith partneriaeth a chyd-gynhyrchu yn gyson gyda phobl sy'n byw gyda dementia, eu rhoddwyr gofal a chydweithwyr gofal iechyd.

Yn ei rôl bresennol gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, mae Versha yn goruchwylio rhaglen sylweddol o waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ei hymdrechion yn trosi strategaeth dementia yn ganlyniadau diriaethol, gan arddangos ei hymroddiad i feithrin newid cadarnhaol.

Daw'r gydnabyddiaeth fel tyst i arweinyddiaeth ac ymroddiad rhyfeddol Versha, i wella canlyniadau gofal iechyd a meithrin lles cymunedol. Mae Versha eisoes wedi ennill Gwobr Ymarferydd Gofal Preswyl yng Ngwobrau Gofal Cymru a chyrhaeddodd rownd derfynol y Gwobrau Gofal Cenedlaethol am ei gwaith ym maes gofal dementia.

Wrth siarad am ei gwobr, dywedodd Versha: "Pan ddaeth yr amlen o Swyddfa'r Cabinet, roedd yn foment wirioneddol syfrdanol a chymerodd dipyn o amser i suddo i mewn.

"Mae cael fy nghydnabod gan Ei Fawrhydi yn anrhydedd llwyr ac rwyf wrth fy modd. Mae hyn yn gwneud i mi ymroi o’r newydd i helpu'r rhai llai ffodus, p'un ai trwy fy mhroffesiwn neu drwy weithgareddau elusennol a gwaith cymdeithasol."

Cyn ymuno â'r RPB, bu Versha yn Arweinydd Gofal Dementia Cenedlaethol yn BUPA, lle bu'n rheoli portffolio amrywiol o gyfleusterau gofal gan gynnwys pentrefi dementia a chartrefi gofal.

Mae ymrwymiad Versha i wasanaeth cymunedol yn mynd y tu hwnt i'w chyflawniadau proffesiynol. Mae Versha yn aelod gweithgar o nifer o sefydliadau elusennol, gan gynnwys bod yn Llysgennad y Gymdeithas Alzheimer, yn Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Eastern High a Chymorth i Fenywod Caerdydd, lle mae'n gwasanaethu fel ymddiriedolwr sy'n arwain ar ymdrechion diogelu ac ar lesiant. Mae ei hymrwymiad i wasanaeth cymunedol yn cyd-fynd â'i gwerthoedd craidd. Mae Versha hefyd yn gyd-arweinydd Grŵp Cynghori Ymchwil Lleiafrifoedd Ethnig (EMRAG) ym Mhrifysgol De Cymru lle mae'n gymrawd gwadd hefyd. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp cynghori annibynnol Heddlu De Cymru (Lleiafrifoedd Ethnig) ac yn Aelod Annibynnol o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cymorth Tai.

Mae Versha hefyd yn helpu i drefnu digwyddiadau amlddiwylliannol a rhyngddiwylliannol fel partneriaeth rhwng y Gymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd ac amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, i enwi ond ychydig.

Yn 2018, enillodd Versha Wobr Point of Light y Prif Weinidog am ei gwaith i drefnu digwyddiadau amlddiwylliannol gyda'r nod o ddod â chymunedau o wahanol grefyddau a chefndiroedd ynghyd. Yn 2017, cyd-ddyfarnwyd y wobr Hunanddatblygiad iddi, yng Ngwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, a gynhelir bob dwy flynedd i nodi modelau rôl benywaidd.

Yn ei bywyd personol, mae Versha yn trysori'r amser a dreulir gyda'i gŵr, brodyr a chwiorydd, ei mam a’i rhieni-yng-nghyfraith, gan greu amgylchedd teuluol cynnes a chefnogol.

Meddai Versha: "Yn y cartref, mae fy ngŵr Aditya Mahindra wedi bod yn gefnogaeth gadarn wrth wneud y gwaith elusennol. Byddai wedi bod yn amhosibl jyglo'r holl weithgareddau hyn heb ei

gyfranogiad gweithredol iawn. Yn y gwaith, mae fy rheolwr llinell Chris Ball wedi bod yn arweinydd anhygoel yn fy ngrymuso."

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Suzanne Rankin, a’r Cadeirydd Charles ‘Jan’ Janczewski: "Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rydym yn estyn llongyfarchiadau mawr i Versha am dderbyn BEM.

"Rydym yn hynod falch o Versha am ei hangerdd a'i hymroddiad i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, gwella canlyniadau gofal iechyd a meithrin cydlyniant cymunedol.

"Mae hyn yn dyst i’w chyfraniadau i'r GIG a chymunedau ledled Cymru."

Dilynwch ni