2 Gorffennaf 2025
Daeth cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at ei gilydd i gefnogi Tîm Paralympaidd Prydain Fawr gyda'r broses ddosbarthu ar gyfer athletwyr cyn Gemau Paralympaidd yr Haf ym Mharis 2025.
Ar 14 Mehefin 2025, cynhaliodd yr adran offthalmoleg ei hail ddigwyddiad dosbarthu Paralympaidd llwyddiannus ar gyfer athletwyr â nam ar eu golwg yn Uned Llygaid Caerdydd.
Cafodd pump o ymgeiswyr talentog o bob cwr o'r DU eu hasesu a'u dosbarthu o ran cymhwysedd mewn chwaraeon fel nofio, marchogaeth ac athletau. Dosbarthu yw'r broses lle mae athletwyr Paralympaidd yn cael eu rhoi yn y grŵp mwyaf priodol ar gyfer cystadlu, yn dilyn asesiad manwl o'u nam, sy'n sicrhau cystadleuaeth deg ar draws pob digwyddiad.
Roedd y tîm dosbarthu arbenigol yn cynnwys:
Dywedodd Ms Wai Siene Ng: “Fel rhan o’r Tîm Dosbarthu Paralympaidd Cenedlaethol ar gyfer Nam ar y Golwg, mae’r Athro Myint a minnau’n ddiolchgar am y gefnogaeth amhrisiadwy barhaus y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi’i darparu wrth helpu Cymdeithas Baralympaidd Prydain i gynnal dosbarthiadau. Dewiswyd Uned Llygaid Caerdydd am ei chyfleusterau offthalmig rhagorol a'i lleoliad cyfleus.