Mae Tai Ffordd y Parc, uned adsefydlu gymunedol 14 gwely, wedi derbyn grant yn ddiweddar gan Cadwch Gymru’n Daclus i ddatblygu Gardd Tyfu Bwyd.
Wedi’i ysbrydoli gan ymrwymiad y tîm a chleifion yn Tai Ffordd y Parc i ddatblygu eu gofod tyfu presennol mewn amgylchedd heriol, mae grant Cadwch Gymru’n Daclus wedi’i ddyfarnu i greu gofod therapi garddwriaethol sy’n meithrin amgylchedd sy’n annog cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, i helpu eu proses iacháu.
Mae llawer o sôn am effaith mannau gwyrdd a gweithgareddau garddwriaethol ar iechyd meddwl a lles, a phrofwyd bod cymryd rhan mewn therapi garddwriaethol yn dod â nifer o fanteision corfforol, meddyliol ac emosiynol. Bydd yr Ardd Tyfu Bwyd yn rhoi cyfle i gleifion yn Nhai Ffordd y Parc gysylltu â natur, profi llawenydd meithrin planhigion, a gweld twf a ffrwyth eu hymdrechion. Bydd yr amgylchedd therapiwtig hwn yn hybu pobl i ymlacio, yn lleihau straen a phryder, ac yn gwella eu hymdeimlad cyffredinol o les.
Ar ben hynny, bydd cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu a chynnal a chadw'r ardd yn meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb, gwaith tîm a chyflawniad ymhlith cleifion; gan greu cymuned gefnogol lle gallant gyd-dynnu a dathlu eu llwyddiannau gyda'i gilydd.
Dywedodd Owen Baglow, Rheolwr Ward yn Nhai Ffordd y Parc: “Rydym yn hynod falch o fod wedi derbyn y grant hwn gan Cadwch Gymru'n Daclus a hoffem fynegi ein diolch. Mae ein tîm yn angerddol am fanteision rhagnodi mannau gwyrdd ac wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu ein gofod presennol yn ardal therapi garddwriaethol ac eisoes wedi cael rhywfaint o lwyddiant wrth dyfu bwyd.
“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i drawsnewid ein gofod presennol, gan roi mwy o gyfleoedd i ni feithrin yr ardd ac elwa ar fanteision rhagnodi mannau gwyrdd a manteision dilynol hyn i iechyd meddwl a lles. Ymhellach, bydd y gefnogaeth barhaus gan Cadwch Gymru’n Daclus i’n cefnogi ni i wneud y mwyaf o’r gofod yn amhrisiadwy.”
Mae'r gwaith o drawsnewid yr ardd i fod i ddechrau'r mis hwn, er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.