Neidio i'r prif gynnwy

"Tu ôl i bob claf mae stori. A'm gwaith i yw gwella fy nghlaf" | Gwyliwch bennod pedwar o Saving Lives in Cardiff

28 Ebrill 2025

Darlledir pennod pedwar o Saving Lives in Cardiff nos Lun yma am 9pm ar BBC One Wales a ddydd Mercher am 9pm ar BBC Two. Mae’n cynnig cipolwg ar waith medrus iawn y timau llawfeddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r cleifion y mae eu bywydau’n dibynnu arnynt.

Mae'r bennod yn agor gyda'r Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol Mr Lewis Meecham yn wynebu gorfod canslo dwy lawdriniaeth gynlluniedig. “Os caiff eich llawdriniaeth ei chanslo,” meddai Lewis, “nid yw hyn oherwydd ein bod ni eisiau ei chanslo. Mae'n llythrennol oherwydd nad oes gwelyau, ac mae yna argyfyngau."

Yn benderfynol o wneud y gorau o amser y theatr, mae ef a’i gyd-lawfeddyg Huw Davies yn cynnal llawdriniaeth ar goes Maureen, 86 oed. Mae Maureen wedi cael ei derbyn oherwydd madredd yn ei throed, a achoswyd gan rydwelïau afiach yn ei choes.

Heb y llawdriniaeth mae Maureen mewn perygl o golli ei choes ac o bosibl ei bywyd. Mae’n optimistaidd iawn cyn y llawdriniaeth, a meddai: “Y ffordd rydw i’n edrych arno, dyma un o’r ysbytai gorau ym Mhrydain, felly mae’n debyg bod gen i rai o’r meddygon gorau.”

Dewisodd Lewis, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ers 2021, lawdriniaeth fasgwlaidd fel arbenigedd oherwydd ei heffaith. “ Mae'r cyflyrau hyn yn bygwth coesau neu'n bygwth bywyd. Mae'n fywyd neu’n aelod o’r corff. Mae'n gymysgedd o lawdriniaeth fawr iawn, a llawdriniaeth gain, ysgafn hefyd. 

“Pan fyddwch chi'n gweld rhywun yn y clinig wedyn, yn mynd yn ôl i fyw'n annibynnol neu maen nhw’n ddi-boen, dyna sy'n gwneud i chi feddwl 'dyma pam rydw i'n gwneud yr hyn rydw i'n ei wneud'.  Dyna’r peth sy'n eich cadw i ddod yn ôl.”

Text

Mae'r bennod hefyd yn cynnwys tad 41 oed i ddau o blant, Alyn sydd â thiwmor yn tyfu y tu mewn i soced ei lygad chwith yn agos at y nerf optig. Er ei fod yn ddiniwed, mae'r tiwmor wedi ymdreiddio i'r benglog ac yn bygwth ei olwg.

Mae ardal tiwmor Alyn mor gymhleth fel bod angen grŵp arbenigol o lawfeddygon a elwir yn dîm Gwaelod y Benglog i gynnal y llawdriniaeth. Mae'r llawdriniaeth yn gydweithrediad rhwng y Niwrolawfeddyg Ymgynghorol Mr Amr Mohamed, Llawfeddyg Ymgynghorol y Genau a'r Wyneb Mr Satyajeet Bhatia a'r Ymgynghorydd Offthalmoleg Ms Anjana Haridas.

“Rydyn ni i gyd yn dod â'n setiau sgiliau gwahanol i’r llawdriniaeth,” meddai Satyajeet. “Ni allaf i wneud niwrolawdriniaeth; ni all Amr wneud llawdriniaeth ar yr wyneb. Ni all y ddau ohonom wneud llawdriniaeth ar y llygaid. Felly, rydym i gyd yn darparu'r mewnbwn gyda'n gilydd. A thrwy hynny rydyn ni’n hollol siŵr ein bod ni’n darparu’r gofal gorau posib.”

Mae’r cyfrifoldeb dros y llawdriniaeth yn pwyso arnyn nhw. Dywed Amr: “Pe na fydden ni wedi gwneud y llawdriniaeth, byddai Alun wedi colli ei olwg, sy’n gallu bod yn beth dinistriol i unrhyw unigolyn. Os byddai’n mynd yn ddall, beth fyddai’n digwydd iddo ef, ei deulu a'r gymuned o'i gwmpas?  Rydym yn gyfrifol am gynnal lles y bod dynol hwn. “Tu ôl i bob claf mae stori. A’m gwaith i yw gwella fy nghlaf.”

Image

(C-D): Mr Satyajeet Bhatia, Ms Anjana Haridas a Mr Amr Mohamed.

Image

Athro Indu Deglurkar

Text

Yn y cyfamser, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gofynnir i’r Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, yr Athro Indu Deglurkar am ail farn i benderfynu a all Stephen, trydanwr 68 oed, gael llawdriniaeth i achub ei fywyd. Dioddefodd Stephen ataliad ar y galon yn y gwaith a stopiodd ei galon guro am 25 munud. Cafodd driniaeth sioc naw gwaith gan gydweithwyr a pharafeddygon gyda diffibriliwr ar y safle. Ar ôl cael ei adfywio am 30 munud, mae angiogram coronaidd yn datgelu na fydd angioplasti i wella llif y gwaed i galon Stephen yn bosibl oherwydd bod ei rydwelïau'n rhy gul ac wedi'u blocio.

“Rwy’n credu bod y bobl y mae’n gweithio gyda nhw yn yr is-orsaf drydanol wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn ei adfywio,” meddai Indu. “Ni allaf ganmol ddigon ei gydweithwyr na roddodd y gorau iddi ar yr unrhyw adeg. Mae 25 munud yn amser hir i ddal ati mewn lleoliad anfeddygol ac mae Stephen yn ddyledus am ei fywyd i'r bobl hynny.

“Rwy’n meddwl ei fod yn pwysleisio’r angen am ymwybyddiaeth gyhoeddus o adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn achos ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty a pha mor fawr yw’r rôl y gall ei chwarae wrth newid y canlyniad a dod â rhywun yn ôl yn fyw. Dyna pam yr wyf yn meddwl y dylai hyfforddiant fod yn orfodol yn yr ysgol ar gyfer adfywio cardio-pwlmonaidd a thechnegau diffibrilio. Bydd hynny’n cael effaith enfawr ar fywyd cyhoeddus.”

Yn anffodus, mae calon Stephen wedi'i niweidio'n ddrwg. Rhaid i Indu benderfynu a all ei helpu gan y byddai cynnal y llawdriniaeth yn risg uchel, heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant.

Text

Dywed Indu: “Fe wnes i gyfarfod ag ef, a’i wraig, a chawsom sgwrs hir a gonest am yr hyn i’w ddisgwyl. Credais fod y llawdriniaeth ar y ffin, ond roedd yn dal i fod yn ymarferol. Roeddwn yn barod i gynnig y llawdriniaeth iddo, ar yr amod ei fod yn deall yr holl risgiau a oedd yn gysylltiedig.

“Fyddwn i ddim yn atal y cyfle i wella bywyd rhywun os yn bosib. Ac os yw'n golygu ysgwyddo ychydig mwy o gyfrifoldeb, dyna ni.”

Text

Cyngor cymorth cyntaf sylfaenol gan Achub Bywyd Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n goroesi ataliad y galon yng Nghymru.

Gwyliwch Saving Lives in Cardiff ddydd Llun 28 Ebrill am 9pm ar BBC One Wales a ddydd Mercher 30 Ebrill am 9pm ar BBC Two. Gallwch ddal i fyny ar y gyfres gyntaf a'r ail gyfres o Saving Lives in Cardiff ar BBC iPlayer. 

Image
Achub Bywyd Cymru |
Dilynwch ni