Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn ymfalchïo mewn bod yn lle gwych i hyfforddi a gweithio ac rydym yn angerddol am ddenu, recriwtio a chadw aelodau gwerthfawr o staff a all helpu i lunio ein gweithlu.
Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth leol, mae’r Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar adeiladu ein gweithlu i’r dyfodol ac un o’r ffyrdd y gwneir hyn, yw drwy fuddsoddi mewn cynlluniau prentisiaeth gwerthfawr.
Un cynllun yn arbennig sydd wedi gweld llwyddiant diweddar yw Prentisiaeth Gweinyddu Busnes Gofal Sylfaenol, sydd wedi gweld tri unigolyn yn ymuno â’r tîm Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol (PCIC) dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu eu sgiliau, eu profiad a’u gwybodaeth i gychwyn ar yrfa o fewn Gofal Sylfaenol.
Mae Rhys Pepper, Jennifer Searle a Beatrice Ferda-Riley wedi treulio’r deuddeg mis diwethaf yn cefnogi gyda gweinyddiaeth, busnes a rheoli contractau, dyletswyddau derbynfa, cyfathrebu a gwaith data a mynychu amrywiaeth o gyfarfodydd. Treuliodd pob prentis wyth mis o’u lleoliad gyda phractis meddyg teulu a’r 4 mis arall yn gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Gofal Sylfaenol yn y Bwrdd Iechyd i gael profiad eang o bractis cyffredinol gweithredol, rheoli contractau a chynllunio strategol.
Dyma’r tro cyntaf i'r Tîm Gofal Sylfaenol groesawu prentisiaid, felly mae cymorth Rhys, Jennifer a Beatrice wedi bod yn allweddol ac mae'r tri unigolyn wedi cael cynnig swyddi parhaol gyda'u practis meddyg teulu ble oeddent ar leoliad.
“Mae llwyddiant y prentisiaid yn dangos cymaint o ddylanwad y maen nhw wedi’i gael yn ystod eu cyfnod ar leoliad. Mae’r galw am wasanaethau Gofal Sylfaenol ar draws y system wedi cynyddu’n aruthrol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae awydd a phenderfyniad y prentisiaid i gefnogi yn ystod cyfnodau heriol wedi bod yn drawiadol iawn. Dangosodd pob prentis egni a phenderfyniad i ymateb i anghenion y practis, rheoli eu cyfrifoldebau eu hunain a datblygu eu set sgiliau. Mae'r adborth a dderbyniwyd gan y practisau wedi bod yn hynod gadarnhaol. Dymunwn bob llwyddiant i Jennifer, Beatrice a Rhys gyda’u gyrfaoedd newydd,” meddai Josie Smith, Rheolwr Contractau a Datblygu Gofal Sylfaenol.
Wrth siarad am eu hamser gyda’r Bwrdd Iechyd, dywedodd Jennifer: “Roedd y brentisiaeth hon yn cwmpasu pob agwedd ar yr hyn roeddwn yn edrych amdano ar ôl gadael y coleg. Roeddwn yn gallu dilyn gyrfa mewn gweinyddiaeth busnes, rhoi cynnig ar wahanol rolau o fewn hyn ac ennill cymhwyster Lefel 2. Yr hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yw bod pob diwrnod yn wahanol ac rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd. Hefyd, mae’r timau wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw ac wedi fy helpu i ddysgu a thyfu mewn sawl ffordd. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r practis yn barhaol ar ôl i’m prentisiaeth ddod i ben.”
Eglurodd Rhys: “Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r brifysgol felly roeddwn i wedi bod yn chwilio am gynlluniau prentisiaeth a fyddai o fudd i’m dyfodol. Roeddwn yn chwilio am rôl a fyddai’n gwella fy set sgiliau, o fudd i’r gymuned leol ac o ddiddordeb i mi bob dydd ac roedd gan y rôl gyda’r Bwrdd Iechyd hynny i gyd. Bob dydd mae her newydd neu rywbeth gwahanol i’w ddysgu ac rwyf wedi cael cefnogaeth lwyr gan fy holl gydweithwyr sydd wedi cynorthwyo fy natblygiad proffesiynol. Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle hwn a’m penderfyniad i ddechrau ar y brentisiaeth hon ac edrychaf ymlaen at ddechrau yn fy rôl newydd ym mis Medi.”
Eisoes yn gweithio yn ei swydd barhaol fel Clerc Presgripsiwn ym Meddygfeydd Brynderwen a’r Gweinidog, dywedodd Beatrice: “Dewisais i ddechrau ar brentisiaeth gan fy mod eisiau ehangu fy ngwybodaeth o fewn Gofal Sylfaenol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi dysgu cymaint am yr amgylchedd gwaith, wedi datblygu sgiliau newydd ac wedi cwrdd â phobl newydd, rwyf hefyd yn teimlo fy mod wedi magu cymaint o hyder ers dechrau, sy'n fy helpu ym mhob agwedd ar fy mywyd. Mae prentisiaeth yn ffordd ymarferol o ddysgu sgiliau yn y gwaith a sgiliau cyfathrebu, tra’n ennill arian – byddwn yn cynghori unrhyw un i roi cynnig arni!”
Pob lwc i Jennifer, Rhys a Beatrice wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd gyda Chaerdydd a’r Fro!
I ddarganfod mwy am y cyfleoedd swyddi a phrentisiaethau ar draws ein Bwrdd Iechyd, cliciwch yma i ymweld â'n tudalen swyddi pwrpasol.