Neidio i'r prif gynnwy

Treial PRONTO Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru yn recriwtio dros 100 o gleifion

A number of blood test tubes on a table

Mae sepsis yn haint bacterol cymhleth a allai fygwth bywyd, ac mae ei ganfod yn gynnar a defnyddio gwrthfiotigau mewnwythiennol (IV) yn brydlon yn bwysig er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

Fodd bynnag, nid oes gan lawer o gleifion sydd ag achos tybiedig o sepsis ac sy'n dod i’r Uned Achosion Brys, haint bacterol sylfaenol, ac felly ni fyddent yn elwa ar wrthfiotigau. Gan ei bod yn anodd canfod pwy sydd â haint bacterol i ddechrau, a phwy nad oes ganddynt haint, caiff gwrthfiotigau eu presgripsiynu’n aml, 'rhag ofn'. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn gysylltiedig ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, y bernir ei fod yn fygythiad mawr i iechyd pobl dros y degawdau nesaf, felly mae cael y cydbwysedd iawn o ran pryd i ddefnyddio gwrthfiotigau yn hanfodol.

O ganlyniad, lansiodd Uned Achosion Brys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro y Treial PRONTO ym mis Gorffennaf 2021, gyda'r nod o wella gofal sepsis, canlyniadau cleifion a gwneud y defnydd gorau posibl o wrthfiotigau ymhlith cleifion ag achosion tybiedig o sepsis. Gellir gweld gwybodaeth fanwl am y treial a'i nodau yn y fideo hwn.

Wedi'i reoli gan Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) Prifysgol Caerdydd, a’i noddi gan Brifysgol Lerpwl, mae'r Treial PRONTO yn recriwtio cleifion ar hyn o bryd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a hyd yma mae wedi llwyddo i gofrestru dros 100 o gleifion sydd ag achosion tybiedig o sepsis.

Gan ddefnyddio'r Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS2) i nodi'r cleifion sy’n wynebu’r risg fwyaf i ddechrau, mae tîm y treial yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ymchwilio i weld a yw profion pwynt gofal (PoCT) procalcitonin, prawf gwaed sy'n helpu i nodi haint bacterol, wrth ochr y gwely, yn gwella canlyniadau cleifion a defnydd o wrthfiotigau.

Mae'r prawf hwn yn galluogi clinigwyr i ddefnyddio gwell dull o ddosbarthu’r risg o ran yr ymateb i achos tybiedig o sepsis, a helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau er mwyn osgoi defnyddio gwrthfiotigau'n ddiangen.

Mae tîm treialu PRONTO wedi'i leoli yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn galluogi'r uned i barhau i ddarparu gofal heb ei drefnu, ac ar yr un pryd, yn rhoi’r cyfle i gleifion fod yn rhan o dreial aml-ganolfan yn y DU gyda chyn lleied o amharu â phosibl.

Dywedodd Dr Jonathan Underwood, Prif Ymchwilydd a Meddyg Ymgynghorol Clefydau Heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Mae ein dwy nyrs ymchwil ymroddedig, Lauren Thomas a Non Smith, wedi'u hymgorffori yn ein Huned Achosion Brys, ac felly gallant adnabod cleifion yn gyflym a allai fod yn gymwys ar gyfer y treial hwn. Maent wedi bod yn wych a dyma'r prif reswm pam mae’r treial hwn wedi bod mor llwyddiannus, a’n bod wedi gweld cymaint o gleifion yn cael eu recriwtio. Er gwaethaf yr heriau y mae'r Uned Achosion Brys yn eu hwynebu, rydym yn dal i ddarparu ymchwil arloesol a fydd yn gwella ansawdd a dyfodol gofal cleifion â sepsis."

"Mae'r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd treialon clinigol ar gyfer gwella canlyniadau cleifion. Mae parhau i wneud ymchwil er gwaethaf yr heriau a wynebir yn bwysig nid yn unig er budd y cleifion yn y treialon, ond hefyd i annog gwell canlyniadau a gwell gofal yn fwy cyffredinol. Rydym wedi gweld gwelliant mewn mesurau sepsis yn gyffredinol ers i'r treial ddechrau, sy'n bennaf oherwydd gwaith caled Lauren a Non."

Gan gyfeirio at gyflawni'r garreg filltir o recriwtio dros 100 o gleifion i'r Treial PRONTO, esboniodd Non Smith, Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Ar ôl bod yn nyrs ers dros 20 mlynedd, rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at ddyfodol posibl triniaeth sepsis mewn ffordd mor flaengar. Mae'n ddiddorol bod yn rhan o dîm y treial, cynnal ymchwil flaengar a gwneud gwahaniaeth mewn amgylchedd heriol."

Mae PRONTO yn dreial aml-ganolfan, a ariennir gan y rhaglen NIHR-HTA (cyf17/136/13), dan arweiniad yr Athro Neil French ym Mhrifysgol Lerpwl, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei reoli gan Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen y Ganolfan Treialon Ymchwil ar wefan Prifysgol Caerdydd.

 

14/12/2021

Dilynwch ni