20 Medi 2022
Mae dros 300 o gleifion yr amheuir bod ganddynt sepsis wedi’u cofrestru’n llwyddiannus yn Nhreial PRONTO Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae treial PRONTO (Procalcitonin and NEWS2 for Timely identification of sepsis and Optimal use of antibiotics in the emergency department) yn cael ei ariannu gan NIHR a’i arwain gan Brifysgol Lerpwl.
Dechreuodd Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru recriwtio ar gyfer Treial PRONTO ym mis Gorffennaf 2021 a nod y treial yw gwella triniaeth i gleifion yr amheuir bod ganddynt sepsis ac optimeiddio’r defnydd o wrthfiotigau sbectrwm eang.
Mae sepsis yn adwaith i haint sy’n bygwth bywyd ac mae’r driniaeth optimaidd i gleifion yr amheuir bod ganddynt sepsis yn cynnwys ei ganfod yn gynnar, rhoi gwrthfiotigau yn brydlon a rhoi hylifau mewnwythiennol (IV). Fodd bynnag, mae’r dull presennol a ddefnyddir gan glinigwyr wedi’i gynllunio i adnabod y cleifion mwyaf sâl a gellir rhoi diagnosis o sepsis yn rhy aml. Mae hyn yn golygu nad oes gan lawer o gleifion yr amheuir bod ganddynt sepsis haint bacteriol sylfaenol ac felly ni fyddant yn elwa o wrthfiotigau.
Gall gorddefnyddio gwrthfiotigau diangen achosi ymwrthedd i wrthfiotigau ac yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn fygythiad cynyddol ddifrifol i iechyd cyhoeddus byd-eang.
Gan ddefnyddio’r Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS2) i nodi’r cleifion sy’n wynebu’r risg fwyaf i ddechrau, mae tîm y treial PRONTO yn ymchwilio i weld a yw profion pwynt gofal (PoCT) procalcitonin, prawf gwaed sy’n helpu i nodi haint bacterol, wrth ochr y gwely, yn gwella canlyniadau cleifion a defnydd o wrthfiotigau.
Mae’r PoCT yn darparu canlyniad o fewn 20 munud ac yn amharu cyn lleied â phosib, gan alluogi clinigwyr i ddefnyddio gwell dull o ddosbarthu’r risg o ran yr ymateb i achos tybiedig o sepsis, a helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau er mwyn osgoi defnyddio gwrthfiotigau’n ddiangen.
Hyd yn hyn, mae 308 o gleifion o Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cael eu recriwtio i gymryd rhan yn y treial.
Dywedodd Dr Jonathan Underwood, Prif Ymchwilydd a Meddyg Ymgynghorol Clefydau Heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru: “Mae ein dwy nyrs ymchwil, Non Smith a Lauren Thomas, wedi’u hymgorffori yn ein Huned Achosion Brys, sy’n golygu y gallant adnabod cleifion a allai elwa o fod yn rhan o’r treial yn gyflym. Maent wedi bod yn gwbl anhygoel, a’u brwdfrydedd, eu hymroddiad a’u gwaith caled yw un o’r prif resymau pam fod y treial wedi bod yn gymaint o lwyddiant”.
“Ar hyn o bryd mae’r treial yn aros am gymeradwyaeth i’w ymestyn hyd at Ebrill 2023 ac yn y pen draw, rydym yn gobeithio dangos y gall y profion ychwanegol wrth ochr y gwely wella gofal cleifion a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau diangen”.
Mae gan dreial PRONTO, a gyflwynir fel partneriaeth rhwng Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CTR) a Phrifysgol Lerpwl, y potensial i ddangos bod PoCT yn well na’r drefn bresennol a allai arwain at wella gofal a lleihau’r gorddefnydd o wrthfiotigau.
Dywedodd yr Athro Neil French, Cyd-Brif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Lerpwl: “Mae treial PRONTO yn ceisio darparu’r ateb cliriaf posibl ynghylch sut y gellir defnyddio prawf biofarciwr sydd ar gael yn gyflym i wella canlyniad sepsis a gosod safon ar gyfer datblygiadau mewn diagnosis a gofal sepsis yn y dyfodol”.