20 Medi 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o noddi treial clinigol newydd ac maent yn un o 40 o safleoedd ar draws y DU sy’n ymchwilio i effeithiolrwydd PIPAC, sef Pressurised IntraPeritoneal Aerosolised Chemotherapy wrth reoli canserau’r colon, yr ofari a’r stumog.
Bydd canser y coluddyn, yr ofari a'r stumog yn aml yn lledaenu (metastaseiddio) i leinin (peritonewm) ceudod yr abdomen. Pan fydd y math hwn o ymlediad yn digwydd, mae cleifion fel arfer yn cael gwybod nad oes modd gwella eu clefyd. Mae cleifion â metastasis peritoneol fel arfer yn cael cemotherapi neu feddyginiaethau biolegol naill ai trwy ddrip (yn fewnwythiennol) neu drwy ei gymryd ar ffurf tabledi, neu drwy gyfuniadau o'r rhain.
Mae metastasis peritoneol yn anodd ei drin â chyffuriau gwrth-ganser confensiynol. Mae PIPAC yn ddull newydd sy’n rhoi cemotherapi fel chwistrelliad i geudod yr abdomen trwy lawdriniaeth twll clo.
Trwy erosoli’r cemotherapi, mae mwy o gyffur yn cyrraedd y dyddodion canser yn y peritonewm, gyda llai o sgil-effeithiau gan nad yw'r cyffur yn cylchredeg yn y gwaed.
Nod Treial PICCOS yw pennu a fydd y ffordd newydd hon o ddarparu cemotherapi fel chwistrelliad yn uniongyrchol i'r ceudod peritoneol mewn cleifion â metastasis peritoneol yn gwella goroesiad o gymharu â chemotherapi confensiynol trwy ddrip (yn fewnwythiennol). Bydd hefyd yn asesu effaith y driniaeth hon ar ansawdd bywyd y claf.
Karen Arndell yw'r nyrs ymchwil arbenigol ac arweinydd cenedlaethol ar gyfer PICCOS;
“Mae'n wych bod yn rhan o astudiaeth mor gyffrous sy'n defnyddio technoleg newydd i ddarparu cemotherapi i gleifion â metastasis peritoneol lle mae angen dybryd am well triniaethau. Mae fy rôl i yn allweddol i hwyluso'r llwybrau i sicrhau darpariaeth effeithiol rhwng y safleoedd llawfeddygol ac oncoleg. Bydd y treial yn cynnwys 40 o safleoedd o amgylch y DU ac felly bydd angen cydgysylltu sylweddol i sicrhau bod llwybr y claf yn rhedeg yn esmwyth.”
Y ffordd fwyaf effeithiol o wybod yn wyddonol a yw un driniaeth yn well nag un arall yw cynnal math o ymchwil a elwir yn hap-dreial rheoledig (RCT). Mae RCT yn fath o astudiaeth ymchwil lle mae cleifion yn cael eu dyrannu ar hap yn ddau grŵp - grŵp arbrofol sy'n derbyn y driniaeth newydd a grŵp rheoli sy'n derbyn triniaeth arferol. Mae gan gleifion yr un siawns o gael eu dyrannu i'r grŵp arbrofol neu reoli. Mae hyn yn galluogi cymhariaeth deg i weld pa driniaeth sy'n gweithio orau. Bydd yr RCT hwn wedyn yn caniatáu i PIPAC gael ei gymharu â thriniaeth cemotherapi safonol ar gyfer cleifion â metastasis peritoneol mewn canser y colon a’r rhefr, yr ofari a’r stumog.”
Sylwadau cleifion
“Byddai’n hollol wych pe bawn i’n gallu cael cemotherapi yn syth i’m bol a bod yn ymgeisydd ar gyfer y driniaeth hon”
“Mae canser peritoneol yn tyfu’n gyflym. Dim ond un person ydw i o lawer o gleifion canser eraill sydd eisiau byw a pheidio â gadael eu teuluoedd.”
“Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael achubiaeth gyda’r treial newydd hwn”
I gael rhagor o wybodaeth am y treial PICCOS e-bostiwch PICCOS@cardiff.ac.uk neu ewch i'r wefan.