25 Ebrill 2023
Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS â'r Sefydliad Geneteg Feddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i ddysgu mwy am lansio treial clinigol 'QuicDNA'.
Cafodd Eluned Morgan AS ei chroesawu gan Charles 'Jan' Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd ag arweinwyr y prosiect, Dr Sian Morgan a Dr Magda Meissner o Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS) a’i gwahodd i ddysgu mwy am y treial clinigol a fydd yn gwerthuso manteision prawf biopsi hylifol arloesol mewn pobl yr amheuir bod ganddynt ganser yr ysgyfaint.
Bydd yr astudiaeth newydd hon, y’i gwnaed yn bosibl drwy Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Illumina Technology, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a nifer o sefydliadau partner, yn edrych ar sut y gall defnyddio'r prawf gwaed biopsi hylifol yn gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis, lleihau'r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, ac yn y pen draw hysbysu sut y gellir defnyddio'r dechnoleg hon ar gyfer mathau eraill o ganser.
Disgwylir i fiopsi hylifol fel offeryn mewn meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a darparu gwell dealltwriaeth o afiechydon, gwella canlyniadau i gleifion a thrawsnewid bywydau. Yn y dyfodol mae ganddo'r potensial i ddarparu dull syml, hygyrch a dibynadwy o ymchwilio i achosion o ganser a amheuir a defnyddio dull monitro llai ymledol ar gyfer achosion o ganser sy’n dychwelyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran sut rydym yn integreiddio profion genomig i wasanaethau iechyd er mwyn chwyldroi sut rydym yn darparu gofal iechyd. Gallai biopsau hylifol arwain at fanteision gwirioneddol i gleifion yng Nghymru ac achub bywydau drwy ein helpu i ganfod a thrin canserau yn gynt”
Mae treial clinigol QuicDNA yn rhan o fframwaith ehangach i adfer a gwella gwasanaethau drwy Strategaeth Ddiagnostig Cymru