Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Ward Acíwt yr Asgwrn Cefn wedi'i restru yn yr ail safle yng Ngwobrau Ailadeiladu Bywydau SIA

24 Mehefin 2024

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Tîm Gogledd A5 yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi dod yn ail yng Ngwobrau Ailadeiladu Bywydau SIA.

Mae Gwobrau Ailadeiladu Bywydau'r Gymdeithas Anafiadau i’r Asgwrn Cefn yn cydnabod cyflawniadau eithriadol unigolion a grwpiau sydd wedi cael anaf i’r asgwrn cefn, sy'n ysbrydoli eraill trwy eu gwaith neu hobïau neu yn ystod eu hadferiad.

Mae gwobr Tîm SCI (Spinal Cord Injury) Eithriadol y Flwyddyn yn dathlu timau sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ofal neu driniaeth SCI mewn lleoliadau gofal iechyd, adsefydlu neu leoliadau SCI eraill. Mae’n anrhydedd i ni gael ein rhestru yn yr ail safle yn y categori hwn.

Wrth fynychu’r seremoni yn Milton Keynes ar 13 Mehefin, 2024, dywedodd Rheolwr y Ward Lisa Cook, “Mae wir yn golygu llawer i mi ac i’r staff i gael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym yn ei wneud gydag anafiadau acíwt i’r asgwrn cefn ac mae’n rhoi cyfiawnhad dros waith pellach a chynnydd i’w wneud ar gyfer A5 Gogledd gyda chleifion ag anafiadau i’r asgwrn cefn.”

Mae Ward Acíwt yr Asgwrn Cefn (A5 Gogledd) yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn darparu gofal i gleifion ag anghenion cymhleth a dyma'r tîm cyntaf o bobl y bydd cleifion ag Anafiadau i’r Asgwrn Cefn yn cwrdd â nhw. Mae SCI yn aml yn newid bywydau ac mae'r tîm yn cynnig cymorth nid yn unig i'r claf, ond i'w teuluoedd, perthnasau a gofalwyr hefyd.

Mae'r tîm bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella bywydau eu cleifion. Boed hyn trwy brynu eitemau bob dydd fel cwpanau yfed a dalwyr ffôn, neu newidiadau arloesol fel y siart presgripsiwn coluddyn niwrogenig ar gyfer pob claf i leihau risg rhwymedd, mae'r tîm bob amser yn anelu at wella eu gwasanaeth.

Mae'r tîm hefyd wedi treialu defnyddio ocsigen llif uchel ar y wardiau. Yn cael ei ddefnyddio'n bennaf gan ffisiotherapyddion, y nod yw rheoli cleifion ar y ward er mwyn sicrhau parhad gofal. Heb y treial, byddai hyn yn golygu bod cleifion yn cael eu symud i ward resbiradol na fyddai'n gallu darparu'r gofal arbenigol ar gyfer problemau’r asgwrn cefn.

Yn y dyfodol, maent yn gobeithio uwchraddio ystafell y perthnasau fel bod lle priodol i siarad â theuluoedd a diwygio cynllun y ward i greu lle gwell i ddechrau cyflawni nodau adsefydlu.

Maent yn gweithio'n agos iawn gydag uned adsefydlu’r asgwrn cefn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau drwy gynnal sesiynau dal i fyny mewngymorth rheolaidd i wella taith y claf. Mae'r ganmoliaeth a gaiff y tîm gan gleifion a pherthnasau yn dyst i'r gwaith y maent yn ei wneud.

Mae'r wobr yn adlewyrchiad gwych o'r holl waith caled y mae'r tîm yn ei ddarparu i bobl bob dydd ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi dod yn ail yn y categori hwn.

Dilynwch ni