Y tîm wedi llunio o’r chwith i’r dde: Alex Croose (Ymarferydd Scrwb), Laszlo Szabo (Llawfeddyg), Elijah Ablorsu (Llawfeddyg), Rana Tahawar (Llawfeddyg), Adam Ewart (Ymarferydd Scrwb)
Mae'r Gwasanaeth Tynnu Organau Cenedlaethol (NORS) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi defnyddio techneg arloesol yn llwyddiannus i dynnu organau gan gynnwys afu a wrthodwyd yn wreiddiol gan ganolfannau eraill oherwydd swyddogaeth wael.
Gwnaeth tîm NORS Caerdydd, sef un o'r timau cyntaf yn y DU i ddefnyddio Darlifiad Rhanbarthol Normothermig (NRP) arloesol, lwyddo i dynnu organau’r abdomen gan ddau roddwr. Cafodd yr organau eu trawsblannu'n llwyddiannus mewn gwahanol ganolfannau ar draws y DU. Achubwyd pum bywyd o ganlyniad, gan gynnwys pedwar derbynnydd arennau ac un derbynnydd afu.
Roedd yr afu wedi'i wrthod yn wreiddiol gan bob canolfan drawsblannu yn y DU oherwydd ei swyddogaeth wael, ond gyda thechnoleg NRP, cafodd yr afu ei adnewyddu a'i dderbyn a'i drawsblannu wedi hynny mewn claf yr oedd angen trawsblaniad afu brys arno.
Mae Caerdydd bellach yn un o'r ychydig ganolfannau yn y DU sy'n cynnal rhaglen NRP annibynnol ochr yn ochr â Chaergrawnt a Chaeredin, a'r gobaith yw y bydd y dechnoleg newydd yn caniatáu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dynnu mwy o organau a fyddai wedi cael eu gwrthod fel arall.
Sut mae’n gweithio?
Mae'r NRP yn dechneg tynnu chwyldroadol a ddefnyddir yn benodol i gael organau gan roddwyr yn dilyn marwolaeth gylchredol (a elwir hefyd yn rhoddwyr DCD).
Mae’r dechnoleg NRP yn adnewyddu organau drwy gylchredeg gwaed ocsigenedig drwy organau’r abdomen drwy bwmp gwaed cyn iddynt gael eu tynnu o roddwr DCD. Yn sylfaenol, yr hyn a wneir yw ailwefru'r organau ar gyfer derbynnydd y trawsblaniad.
Pam mae hyn yn bwysig?
Dros y degawd diwethaf, mae cyfradd ehangu gyflym y gronfa rhoddwyr Rhoi Organau yn dilyn Marwolaeth Gylchredol (DCD) yn y DU wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn trawsblannu organau.
Fodd bynnag, yn dilyn ataliad ar y galon, gall hypocsia (diffyg cyflenwad ocsigen i'r organau) achosi anaf i organau ac arwain at organau o ansawdd isel a nifer is o organau yn cael eu tynnu i’w trawsblannu.
Mae'r broses hon yn adnewyddu ac yn gwella ansawdd organau a chanlyniadau trawsblannu cyffredinol. Mae hefyd yn galluogi'r tîm tynnu organau i asesu ansawdd organau cyn eu trawsblannu.
Yn ogystal, mae'r dechneg lawfeddygol hon yn arafach ac yn fwy diogel, gan leihau'r risg o niwed llawfeddygol i'r organau a dynnwyd.
Dywedodd Elijah Ablorsu, Llawfeddyg Trawsblannu Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Tynnu Organau, a sefydlodd y rhaglen NRP yng Nghaerdydd ac a arweiniodd y tîm i gyflawni'r ddwy broses dynnu NRP gyntaf: "Mae'r dechneg hon yn helpu i adnewyddu organau sydd wedi cael eu niweidio o bosib gan isgemia (cyfyngu ar gyflenwad gwaed i organ) yn ystod marwolaeth gylchredol sydd wedyn yn arwain at wella canlyniadau trawsblannu."
Penodwyd Mr Ablorsu yn feddyg ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2010 ac mae wedi helpu i sefydlu un o'r timau tynnu organau sy'n perfformio orau yn y wlad.
"Mae hwn yn gamp enfawr i sefydlu rhaglen newydd ac unigryw yn ystod y pandemig ac mae'n gosod Caerdydd ymhlith unedau tynnu a thrawsblannu organau mwyaf blaenllaw’r DU," ychwanegodd.
"Bydd y dechneg hon yn cael ei defnyddio i dynnu organau gan bob rhoddwr DCD ac mae'n helpu i gynyddu nifer y trawsblaniadau, gan wella canlyniadau trawsblannu."
Mae tri llawfeddyg a dau ymarferydd sgrwb sy'n rhan o dîm NORS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach wedi cymhwyso'n llawn mewn techneg tynnu NRP.
Dywedodd y Llawfeddyg Trawsblannu Ymgynghorol, Mr Laszlo Szabo, un o'r llawfeddygon NRP ardystiedig a oedd yn gysylltiedig â'r ddwy broses dynnu NRP gyntaf: "Roedd yn gyflawniad gwych i ni fod y cyntaf i gyflawni hyn a dysgu gan dimau Caergrawnt a Chaeredin sydd wedi arloesi'r rhaglen NRP yn y DU.
"Mae'r dechnoleg hon yn gwella ansawdd yr organau sy'n cael eu tynnu ac yn helpu'r llawfeddygon trawsblannu i ddewis yr organau addas i'w trawsblannu. Drwy ganiatáu inni weld statws adfer yr organau, gallwn benderfynu'n fwy hyderus a ddylid trawsblannu organ i dderbynnydd.
"Bydd y dechneg hon yn ein galluogi i dynnu mwy o organau a fyddai fel arall wedi cael eu gwrthod o'r blaen ac felly heb eu derbyn i'w trawsblannu. Wrth i hyn esblygu, bydd yn golygu gallu cynnal mwy o drawsblaniadau yn y dyfodol. I'r rhoddwyr, mae'r dechnoleg yn helpu i anrhydeddu eu penderfyniad i roi eu horganau i achub bywyd rhywun."
Roedd yn ofynnol i dîm yr NRP ymgymryd â rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, a chyflawnwyd y rhan fwyaf ohoni yn ystod uchafbwynt y pandemig COVID-19 ac yn aml y tu allan i oriau gwaith arferol y staff. Bu'n rhaid i'r tîm hefyd gyflawni proses ddilysu a chymeradwyo cyn cael awdurdod i agor y rhaglen NRP.
Meddai Alex Croose, Ymarferydd Sgrwb ac NRP yn NORS Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Gwnaethom ein gorau i sicrhau y gallai'r rhaglen fynd yn ei blaen, hyd yn oed drwy gydol y cyfnod anodd ac ansicr. Nid oedd yn beth hawdd i'w gyflawni.
"Effeithiodd y pandemig ar lawer o wasanaethau a phobl, gan roi llawer iawn o straen ar fywydau pawb. I ni, fel tîm roedd yn heriol parhau â'r hyfforddiant oherwydd cawsom ein hadleoli a'n defnyddio mewn gwahanol feysydd oherwydd ein set sgiliau.
"Gwnaethom bob ymdrech lle y gallem, hyd yn oed darllen protocolau gartref neu yng nghefn ambiwlans pan oeddem ar alwad. Roedd yn werth yr ymdrech i gwblhau'r hyfforddiant.
"Mae'r rhaglen NRP mor bwysig. Drwy alluogi'r organ i adfer i'w lefel orau posibl, mae'n sicrhau bod y sawl sy'n derbyn yr organ yn cael yr organ orau posibl, gan roi'r cyfle gorau iddynt gael bywyd newydd. Mae hyn yn wirioneddol anhygoel i'r rhoddwr hefyd, sydd wedi rhoi rhodd bywyd, ac i'r derbynwyr."
Dim ond drwy ymroddiad ac ymrwymiad y tîm ac Uned Trawsblannu Caerdydd y llwyddwyd i gyflawni hyn, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru.
Mae'r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi derbyn clod gan NHS Blood and Transplant am gyflawni’r garreg filltir hon.
Darganfyddwch fwy am roi organau a sut i gofrestru i fod yn rhoddwr organau.