Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ICU Gwyrdd yn rhannu llwyddiannau cynaliadwyedd mewn adnodd newydd ar gyfer Unedau Gofal Dwys y DU

27 Mawrth 2025

Mae'r Llyfr Ryseitiau Cynaliadwyedd Amgylcheddol Gofal Dwys yn ganllaw ymarferol newydd sydd wedi'i gynllunio i helpu Unedau Gofal Dwys (ICUs) i leihau eu hôl troed carbon.

Wedi'i gynhyrchu gan Brifysgol Brighton, y Gymdeithas Gofal Dwys (ICS), y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys (FICM), a Chynghrair Nyrsio Gofal Critigol y DU (UKCCNA) gyda chyllid gan y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), bydd y canllaw yn cael ei ddosbarthu i bob ICU ledled y DU - gan roi'r 'cynhwysion' a'r 'dulliau' allweddol iddynt leihau gwastraff a chynyddu cynaliadwyedd.

Mae'r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos gan Dîm ICU Gwyrdd BIP Caerdydd a'r Fro, sy'n amlygu ei brofiad o geisio lleihau gwastraff, arbed ynni a gwneud arbedion ariannol.

Mae’r mentrau hyn yn cynnwys:

  • ailddefnyddio bagiau awyru heb eu hagor yn lle cael gwared arnynt
  • dad-blygio peiriannau â gwefr lawn a gosod goleuadau LED
  • rhoi dŵr yfed safonol yn lle dŵr di-haint meddygol

Gyda chleifion yn aml ar beiriannau anadlu, yn cael eu bwydo trwy diwb ac angen monitro 24 awr y dydd, Unedau Gofal Dwys yw un o'r meysydd gofal iechyd sy'n defnyddio'r adnoddau mwyaf. Mae'r canllaw yn mynd i'r afael â phynciau fel atal, grymuso cleifion a theuluoedd a dewisiadau amgen carbon isel. Wedi'i strwythuro fel llyfr ryseitiau, mae pob adran yn cynnig dulliau a chynhwysion cam wrth gam ar gyfer gweithredu newid.

Dywedodd Dr Jack Parry-Jones, Cadeirydd y Tîm ICU Gwyrdd, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Dwys i Oedolion ac Is-Ddeon y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys: “Pobl, Planed ac Elw. Mae pob elfen o’r llinell waelod driphlyg hon yn hanfodol, gyda’r llyfr ryseitiau hwn yn darparu rhai o’r arfau angenrheidiol i dimau amlddisgyblaethol gofal critigol gyfrannu at warchod planed sy’n werth goroesi salwch critigol ar ei chyfer, i leihau gwastraff, a gwella effeithlonrwydd.”

Mae’r llyfr Ryseitiau Cynaliadwyedd Amgylcheddol Gofal Dwys ar gael i’w lawrlwytho yma. 

Llun: Aelodau o Tîm ICU Gwyrdd, Nyrs Datblygu Clinigol Jacqueline Sweetingham, Dr Jack Parry-Jones ac Arweinydd Ansawdd a Diogelwch Hayley Valentine

Dilynwch ni