Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gwyrdd arobryn yn rhoi'r blaned wrth wraidd gofal critigol

27 Awst 2024

Heb fod ofn cwestiynu sut mae pethau'n cael eu gwneud ac ysgogi newid sy'n rhoi gwerth ar gleifion a'r blaned, mae'r 'Tîm ICU Gwyrdd' yn llwyddo i leihau gwastraff, arbed ynni a gwneud arbedion ariannol. 

Bob blwyddyn mae tua 1,200 o gleifion difrifol wael yn cael eu derbyn i'r Uned Gofal Critigol i Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn aml ar beiriannau anadlu, yn cael eu bwydo trwy diwb ac angen gofal 24 awr y dydd, mae'r adnoddau sydd eu hangen i ofalu am y cleifion mwyaf sâl yn yr ysbyty yn sylweddol. 

Yn y sefyllfa hon, byddai'n hawdd diystyru pryderon ecogyfeillgar. Ond mae tîm o glinigwyr a rheolwyr o'r enw 'Tîm ICU Gwyrdd' yn ceisio rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd gofal critigol. Drwy roi llu o newidiadau ar waith yn raddol dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwastraff plastig yn yr uned wedi lleihau tua 2 dunnell y flwyddyn gyda degau o filoedd o bunnoedd yn cael ei arbed bob blwyddyn.

Gwobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang

Ym mis Mehefin gwobrwywyd yr 17 aelod o'r Tîm ICU Gwyrdd am eu hymdrechion pan wnaethant ennill Gwobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru. Wrth siarad am y wobr, dywedodd Jack Parry-Jones, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Gofal Dwys i Oedolion a Chadeirydd y Tîm ICU Gwyrdd: “Roedd y gystadleuaeth yn frwd ond rwy’n meddwl bod y beirniaid yn hoffi ein bod wedi gweithredu ystod o bethau ac roedd yn ymdrech tîm, yn hytrach nag yn unigol.”

]

Dywedodd Jack: “Mae yna'r peth yna mewn athletau y cyfeirir ato fel 'cronni enillion ymylol'. Dyna rydyn ni'n ei wneud. Fe allech chi ddadlau 'beth yw'r pwynt?', ond petaem ni i gyd yn dweud hynny, ni fyddai dim byth yn newid. Mae angen inni i gyd ychwanegu’r enillion bach hynny at ei gilydd. Pan fyddwch chi'n eu rhoi at ei gilydd, maen nhw'n gwneud gwahaniaeth."

Mae'r enillion ymylol hyn yn cynnwys:

  • dad-blygio peiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar ôl iddynt gael eu gwefru’n llawn
  • cadw bagiau awyru sydd heb eu hagor wrth drin claf
  • threfnu i ailgylchu poteli a ddefnyddir i fwydo cleifion
  • cleifion bellach yn yfed dŵr tap yn lle dŵr di-haint
  • clinigau dilynol yn cael eu rhedeg yn rhithwir
  • gosod goleuadau LED
  • safoni faint o diwbiau awyru a ddarperir ar gyfer pob gwely.

Dywedodd Jack: “Mae yna ddiwylliant y mae angen i chi ei newid, felly nid yw mor gyflym â rhoi polisi yn ei le a disgwyl iddo newid dros nos. Bydd yn cymryd amser. Y peth am gynaliadwyedd yw bod pobl eisiau gwneud y peth iawn, ond naill ai dydyn nhw ddim yn gwybod sut i wneud hynny, neu mae yna ddatgymhellion i wneud hynny. Rwy’n meddwl bod rhywfaint ohono’n ymwneud ag addysg, mae rhywfaint ohono ond yn golygu ei gwneud hi’n haws gwneud y peth iawn, ac mae rhywfaint ohono’n golygu siarad yn ddiddiwedd amdano!”

Cryfder y Tîm ICU Gwyrdd yw amrywiaeth y rolau a gynrychiolir, o nyrsys i fferyllwyr, deietegwyr a meddygon. Dywedodd Jack, “Peth defnyddiol iawn am gael tîm amlddisgyblaethol yw bod gennym ni nifer o brosiectau ar y gweill ar yr un pryd.”

Mae cyfraniad Rheolwr Caffael yr uned, Ian Sidney, wedi bod yn allweddol. Mae Jack yn esbonio. “Mae o leiaf 60% o gynaliadwyedd yn gysylltiedig â chaffael.” Nyrs Gofal Critigol a'r Arweinydd Ansawdd a Diogelwch Hayley Valentine hefyd wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Dywedodd Jack: “Mae'r rhan fwyaf o'n gweithlu yn nyrsys. Mae dros 300 o nyrsys gofal critigol. Gall polisi a gweithredu synhwyrol wneud gwahaniaeth mawr ond mae angen rhywun uchel i fyny sy’n cael ei barchu ac sy’n gallu arwain y newid.”

Ymgyrch Gloves Off

Un o'r newidiadau presennol sy'n cael ei dreialu yw'r ymgyrch Gloves Off, sy'n ceisio lleihau faint o fenig nad ydynt yn ddi-haint sy'n cael eu gwisgo. Yn ystod y pandemig cynyddodd y defnydd o'r menig hyn fel y gwnaeth y gost. Er bod y menig yn ddefnyddiol pan fo staff mewn perygl o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu gemegau, nid oes eu hangen mewn llawer o ryngweithiadau eraill. Gall gwisgo menig nad ydynt yn ddi-haint yn wrthreddfol gynyddu'r risg o haint gan eu bod yn eich atal rhag golchi dwylo.

Meddai Jack, “Mae pobl yn gwisgo menig a dydyn nhw ddim yn golchi eu dwylo. Mae tueddiad i feddwl po fwyaf y byddwch chi'n ei wneud, y gorau, ond nid felly y mae. Yn ystod COVID roeddem yn gwario bron i £400k y flwyddyn ar fenig nad oeddent yn ddi-haint. Nawr mae tua £110k. Fe wnaethom edrych ar ba mor aml y dylem fod yn eu gwisgo, ac rydym yn eu gwisgo tua 50% yn fwy nag y dylem. Gyda’r ymgyrch Gloves Off fe ddylem fod yn gallu arbed tua £50k.” Mae hyn yn cyfateb i arbediad plastig o tua 30 pâr o fenig fesul claf y dydd.

Y tu hwnt i'r uned

Mae'r Tîm ICU Gwyrdd yn rhannu’r gwersi maent yn eu dysgu yn weithredol, ac yn ddiweddar anogodd y Rhwydwaith Gofal Critigol yng Nghymru i fabwysiadu cynaliadwyedd fel un o'u prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn yn y gobaith y bydd newidiadau'n cael eu cyflwyno ledled y wlad.

Yn ogystal ag edrych ar newidiadau i arferion yn yr uned, mae’r Tîm ICU Gwyrdd hefyd yn ysbrydoli cydweithwyr i edrych yn ehangach, megis sut maent yn teithio i'r gwaith, rhannu ceir a chymryd rhan mewn prosiect plannu coed. 

Dywedodd Jack: “Roeddwn i eisiau coffáu’r staff, cleifion a pherthnasau yn ystod y pandemig felly fe wnaethon ni godi arian ar y cyd â’r elusen Stump Up for Trees. Codwyd £5,000 a defnyddiwyd yr arian hwnnw i blannu 1500 o goed, pum rhywogaeth frodorol, ym Mannau Brycheiniog. Fe wnaethon ni blannu’r coed a gofalu am y coed, ac mae’r elusen yn gofalu am y tir.”

I Jack, a gafodd ei fagu yng nghefn gwlad, mae bioamrywiaeth yng Nghymru yn angerdd ysgogol. “Rydym yn difetha bioamrywiaeth – ein hafonydd, ein môr a chefn gwlad. Rydyn ni eisiau i bobl oroesi salwch difrifol mewn gwlad y mae’n werth byw ynddi.”

 

Llun: Aelodau o’r Tîm ICU Gwyrdd gan gynnwys Rob Cross, Jo Clements, Jack Parry-Jones, Daniel Gregory, Dr Esther Godfrey a Daniel Harrison.

Dilynwch ni