Neidio i'r prif gynnwy

Tîm gofal iechyd yn ennill gwobr

3 Ebrill 2023

Mae tîm o weithwyr iechyd proffesiynol wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog am eu gwaith yn cynyddu nifer y plant sy’n manteisio ar frechiadau yn ystod plentyndod. 

Cyflwynwyd y Wobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant i Glwstwr De-orllewin Caerdydd, sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella iechyd a lles cymunedau yn Nhrelái, Caerau, Treganna, Glan yr Afon a Phontcanna, yn y seremoni ‘Mae Brechu’n Achub Bywydau’ yn Wrecsam ddydd Mercher, 26 Ebrill. 

Ar ôl nodi bod llai na 90% yn manteisio ar y cynllun dos atgyfnerthu cyn-ysgol ar gyfer plant pedair oed, gwnaeth y clwstwr - sy'n cynnwys plant o ystod o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol - weithredu prosiect gwella ansawdd dros dri mis i gynyddu nifer y plant sy'n cael eu brechiadau rheolaidd. 

Gwnaethant sefydlu partneriaeth lwyddiannus yn cynnwys cynrychiolwyr o bractisau meddygon teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y clwstwr, a thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd a'r Fro. Buont yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a gweithredu ystod o gamau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynyddu nifer y plant pum mlwydd oed sy'n byw yn yr ardal sy’n manteisio ar frechlynnau.  

Roedd hyn yn cynnwys proses glanhau data, gwahoddiad i rieni/plant ddod i gael eu brechiadau, wedi'i lywio gan ddull mewnwelediadau ymddygiadol, datblygu adnoddau gwybodaeth a deunyddiau cyfathrebu i gynyddu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth, yn ogystal â hyrwyddo imiwneiddiadau mewn digwyddiadau cymunedol.  

 'Padlet' ar y we gyda holl adnoddau'r ymgyrch gyfathrebu yn cynnwys animeiddiadau am imiwneiddiadau ymhlith plant mewn amrywiaeth o ieithoedd.  

Dywedodd y beirniaid fod hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth arloesol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. 

Gwnaeth Karen Pardy, Rebecca Phillips a Laura Wilson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gasglu’r wobr ar ran Clwstwr De-orllewin Caerdydd. Cynhaliwyd seremoni agoriadol ‘Mae Brechu’n Achub Bywydau’ yn ystod Cynhadledd Imiwneiddio Cymru yng Ngwesty'r Ramada Plaza, Wrecsam. 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: “Brechu yw un o'r ymyriadau gofal iechyd pwysicaf sydd gennym i amddiffyn plant. Rwyf wrth fy modd bod cydweithwyr sy'n gweithio o wahanol dimau wedi cyflawni gwaith rhagorol gyda'i gilydd, gyda'r prif ffocws ar wella cyfraddau brechu plant yn ein cymunedau lleol. Maen nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth hon.” 

Wrth sôn am holl enillwyr y gwobrau, dywedodd Dr Chris Johnson, epidemiolegydd ymgynghorol a phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roedd nifer ac ansawdd y cyflwyniadau ar gyfer ein gwobrau ‘Mae Brechu’n Achub Bywydau’ cyntaf erioed wedi creu argraff fawr arnom.  

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cymaint o dimau ac unigolion yng Nghymru wedi gweithio'n galed i hyrwyddo brechu yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Rydym yn cymeradwyo'r ymrwymiad, yr arweinyddiaeth a'r gwytnwch a ddangoswyd gan bob un o enillwyr gwobrau ‘Mae Brechu’n Achub Bywydau’ ac rydym yn diolch iddynt am eu gwaith anhygoel.” 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni