Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Caffi ANCLE yn ennill Gwobr John Horder 2025 am drawsnewid gofal clwyfau

5 Medi 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o gyhoeddi bod tîm Caffi ANCLE wedi ennill Gwobr Tîm Ymarferydd John Horder 2025, gwobr genedlaethol fawreddog sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn cydweithio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Wedi'i sefydlu er cof am Dr John Horder gan y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol (RSM) a'r Ganolfan er Hyrwyddo Addysg Ryngbroffesiynol (CAIPE), mae'r wobr hon yn dathlu gwaith tîm ac arloesedd rhagorol, gyda ffocws penodol ar fentrau mewn gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae Caffi ANCLE (Allied Health and Nursing Collaborative Leg Engagement) yn fenter a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a'r gweithlu myfyrwyr, mewn cydweithrediad â'r gwasanaethau Hyfywedd Meinwe a Lymffodema.

Mae tîm caffi ANCLE yn cydweithio i ail-ddylunio gofal clwyfau, addysg a chynaliadwyedd y gweithlu er mwyn gwella canlyniadau cleifion wrth gefnogi datblygiad Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd y dyfodol.

Mae'r Caffi yn darparu lle croesawgar a hygyrch i gleifion sy'n byw gydag wlserau cronig yn y goes, cyflwr sy'n aml yn gysylltiedig ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae cleifion yn derbyn triniaeth mewn ystafelloedd safonol preifat y GIG ac yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr sydd wedi'u cynllunio i wella eu lles a'u galluogi i feithrin cysylltiadau â chleifion a gofalwyr eraill.

Dywedodd Vicki Hayman-Teear, Uwch Nyrs yn Ardal y Fro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu’r gorau o ran gwaith tîm, partneriaeth ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar y claf yma yng Nghaerdydd a’r Fro.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi Caffi ANCLE, o ryddhau cydweithwyr a blaenoriaethu cleifion, i gynnal llwybrau atgyfeirio a mynd yr ail filltir i gyflenwi, cyfnewid a datrys problemau yn ystod cyfnodau prysur. Llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm â gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl!”

Yn ogystal ag ennill y wobr fawreddog hon, mae Caffi ANCLE hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru eleni.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a oedd ynghlwm â'r cyflawniad gwych hwn!

Dilynwch ni