Neidio i'r prif gynnwy

Theatrau Endosgopi ychwanegol yn agor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau

8 Chwefror 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi agor dwy theatr endosgopi newydd yn yr adran endosgopi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn ddiweddar.

Wrth ehangu, gellir darparu capasiti ychwanegol ochr yn ochr â 4 theatr bresennol yr uned yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae’n rhan o raglen adferiad y Bwrdd Iechyd ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn dilyn effeithiau’r pandemig.

I gyd-fynd â strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, ‘Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd’, bydd ehangu’r gwasanaeth yn cefnogi’r rhaglen waith genedlaethol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau endosgopi. At hynny, bydd yn galluogi rhagor o ofal sy’n canolbwyntio ar y claf, i gynnwys gweithdrefnau diagnostig, triniaeth a gwyliadwriaeth endosgopig, mewn modd amserol.

Dywedodd Matt Temby, Cyfarwyddwr Gofal wedi’i Gynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae gwasanaethau endosgopi yn rhan hanfodol o ymchwilio i achosion lle mae amheuaeth o ganser a helpu i wneud diagnosis o gyflyrau difrifol eraill, felly mae mynediad amserol at weithdrefnau a gwyliadwriaeth endosgopig yn flaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Wrth i’r galw am wasanaethau endosgopi gynyddu ac wrth i ni barhau i fynd i’r afael â’r rhestrau aros, bydd ehangu’r uned endosgopi yn ein galluogi i ddarparu dros 5,000 yn fwy o driniaethau bob blwyddyn, gan helpu i leihau’r rhestrau aros a gwella mynediad at wasanaethau endosgopi i gleifion yng Nghaerdydd a’r Fro.”

Agorwyd y theatrau endosgopi newydd yn swyddogol ar 7 Chwefror gan Dr Jill Swift a theulu Jan Kirk. Mae’r theatrau wedi’u henwi ar eu hôl. Bu Dr Jill Swift yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau fel Endosgopydd Ymgynghorol am dros 20 mlynedd.

Roedd y diweddar Jan Kirk yn uwch nyrs, a fu’n gweithio fel Rheolwr yr Uned Endosgopi rhwng 2012 a 2017, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n ddylanwadol yn y gwaith o ehangu a datblygu’r uned. Agorwyd Theatr Jan Kirk gan ei theulu fel teyrnged i’w gwaddol o fewn gwasanaethau endosgopi.

 

Dr Jill Swift yn agor y Theatr Jill Swift

Agorwyd Theatr Jan Kirk gan ei theulu fel teyrnged i’w gwaddol o fewn gwasanaethau endosgopi.

Dilynwch ni