Neidio i'r prif gynnwy

Thalasaemia: Taith un dyn ag anhwylder gwaed prin

Pan gafodd Dimitri Azzopardi ei eni yng Nghaerdydd 43 mlynedd yn ôl, doedd gan ei deulu ddim syniad beth oedd ar y gweill iddo.  

Yn ddwy oed cafodd ddiagnosis o thalasaemia, anhwylder genetig prin lle nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o haemoglobin sy'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd coch y gwaed i gludo ocsigen o amgylch y corff.  

O ganlyniad i’r cyflwr roedd gan Dimitri anemia cronig ac roedd angen iddo gael trallwysiadau gwaed cyson. Dywedodd fod thalasaemia wedi effeithio ar bob rhan o'i fywyd, o'i iechyd corfforol, i'w les meddyliol, i'w benderfyniad i beidio â chael plant.  

“Rhwng chwe mis a dwy flwydd oed, roedd mam yn arfer mynd â fi at y meddyg teulu bob penwythnos gan ei bod hi’n gwybod bod rhywbeth o’i le,” cofiodd. “Doeddwn i ddim yn gallu cerdded i fyny’r grisiau, doeddwn i ddim bwyta, ac roeddwn i’n cysgu drwy’r amser. Allwn i ddim gwneud unrhyw beth.”  

Mae thalasemia yn effeithio'n bennaf ar bobl o darddiad Môr y Canoldir, De Asia, De-ddwyrain Asia a'r Dwyrain Canol. Mewn achosion difrifol, gall achosi anffurfiad. Dywedodd Dimitri, y mae ei deulu’n hanu o Wlad Groeg, iddo gael diagnosis o’r cyflwr yn y pen draw pan oedd ei lefelau haemoglobin mor isel ei fod yn “agos at farw”.  

“Roeddwn i’n cael pum bag [o waed] bob pedair wythnos pan oeddwn i’n blentyn, a dyma’r 80au pan nad oedd unrhyw beth yn cael ei hidlo. Yna i wrthsefyll yr haearn yn y gwaed, roeddwn i'n arfer cael pigiadau isgroenol yn fy stumog a'm braich a oedd yn cael eu gadael mewn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.   

“Roedd mam yn 20 oed pan gafodd hi fi, felly roedd hi dal yn ifanc iawn a doedd hi ddim yn gwybod beth oedd wedi ei tharo. Cafodd effaith sylweddol ar fy nheulu yn bendant.”  

Pan briododd mam a thad Dimitri yn Corfu, dywedodd eu bod wedi cael prawf gwaed i wirio a oedd ganddynt y nodwedd ar gyfer thalasaemia. Daeth yn ôl yn negatif, felly fe benderfynon nhw gael babi.  

“Roedd ganddyn nhw’r nodwedd wedi’r cyfan - ac fe'i trosglwyddwyd i fi,” ychwanegodd.  

Cafodd Dimitri ei driniaeth thalasaemia ym ystod ei blentyndod gyda’r elusen Latch yn Ysbyty Athrofaol Llandochau cyn symud i fod o dan ofal Ysbyty Athrofaol Cymru pan oedd yn 21 oed. Ar yr adeg hon, bu'n rhaid iddo gael gwared ar ei ddueg o ganlyniad i'w drallwysiadau cyson.  

Mae’r preswylydd o’r Barri bellach ar 36 o dabledi’r dydd, yn cael trallwysiadau cyson ac wedi gorfod rhoi’r gorau i rai o’i hobïau – gan gynnwys hoci rholio a hoci iâ – gan na all ei gorff ei gymryd mwyach.  

Ond dywedodd nad yw wedi gadael i'w gyflwr ei ddiffinio. “Roedd fy mam bob amser yn dweud bod yn rhaid i fi fwrw ymlaen a byw gyda’r cyflwr” meddai. “Os allwch chi gymryd eich meddyginiaeth a gwneud eich triniaeth, gall thalasaemia fod yn y cefndir.”  

Dywedodd Dimitri y bydd pethau ychydig yn haws i’r genhedlaeth nesaf o gleifion thalasaemia yn ne Cymru. Mae grŵp cymorth bellach yn bodoli yn ne Cymru ar gyfer y llond llaw o bobl y gwyddys fod ganddynt y cyflwr, ac mae canolfan arbenigol ar gyfer cleifion thalasaemia a chlefyd y crymangelloedd ym Mae Caerdydd hefyd.   

Ychwanegodd Dimitri, sy’n gweithio yn adran haematoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n dod ymlaen yn dda iawn gyda’r meddygon a’r nyrsys yng Nghaerdydd – maen nhw’n dîm gwych ac yn ymroddedig iawn. Rwy'n gwerthfawrogi popeth maen nhw'n ei wneud i'm cadw mor heini ag y gallaf fod.  

“Wrth gwrs, mae’n helpu bod triniaeth thalasaemia wedi gwella’n fawr dros y blynyddoedd; mae meddyginiaethau chelating drwy’r geg wedi gwneud bywyd gymaint yn haws ac mae trallwysiadau yn gyflymach ac yn haws nag yr oeddent yn arfer bod. A dweud y gwir, mae gen i lawer iawn mwy na hynny i ddiolch i fy mam amdano. Roedd hi bob amser yn llawn anogaeth pan oeddwn i’n ifanc.”  

Ddydd Iau, Mehefin 22 rhwng 11am a 7pm, mae stondin yn cael ei gosod ar lawr isaf Canolfan Siopa Dewi Sant lle gall pobl gael prawf ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia. Yna gall pobl y canfyddir eu bod yn cario'r nodwedd wneud dewis gwybodus ynghylch a ddylent gael plant, y byddai ganddynt un siawns allan o bedwar o gael thalasaemia os yw eu dau riant yn gludwyr.  

“Dewisais i beidio â bod yn dad oherwydd fyddwn i ddim eisiau i’m plentyn brofi’r hyn rydw i wedi’i brofi,” ychwanegodd Dimitri, sydd bellach yn cael tri bag o waed bob tair wythnos, ynghyd â chymorth iechyd meddwl a ffisiotherapi. “Mae mor bwysig i bobl gael prawf. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’u tras.  

“Po fwyaf o amrywiaeth ethnig sydd gennym yn ein cymunedau, y mwyaf o siawns sydd y bydd pobl yn cael thalasaemia.” 

Ychwanegodd: “Hoffwn ddweud 'diolch' enfawr wrth fy mam, Sonia Azzopardi a'i chwaer Sofia Hillman. Oni bai amdanyn nhw, fyddwn i ddim yma.” 

Dywedodd Dr Indu Thakur, Haematolegydd Pediatrig Ymgynghorol ac arweinydd ar gyfer anhwylderau celloedd gwaed coch yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd: “Mae Wythnos Genedlaethol Patholegyn cychwyn ddydd Llun, 19 Mehefin gyda'r thema 'Patholegwyr a Chleifion'. I ychwanegu at hyn, mae'r Gwasanaeth Anemia Etifeddol - sy'n gofalu am Dimitri - wedi trefnu Diwrnod Sgrinio yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd.  

“Bydd y tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys meddygon arbenigol, nyrsys, cwnselwyr genetig a staff labordy ar gael ar y llawr isaf i godi ymwybyddiaeth ac ateb cwestiynau am anhwylderau gwaed etifeddol. I bobl sy'n dewis cael prawf, mae cyfleuster wedi'i drefnu i gynnal profion gwaed ar y llawr uchaf ar yr un diwrnod. Bydd taflenni gwybodaeth ategol ar gael.” 

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Patholeg ewch yma. I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Thalasaemia'r DU, ewch yma

Dilynwch ni