Neidio i'r prif gynnwy

Teulu Anhygoel yn Codi Arian ar gyfer Ymchwil Gofal Dwys

Mae teulu lleol wedi codi dros £35,000 i ariannu ymchwil i ofal cleifion sydd wedi cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

Mae ffrindiau ac aelodau teulu Greg Lloyd wedi codi arian i'w anrhydeddu a'i gofio, ar ôl ei farwolaeth drasig ac annisgwyl o ataliad ar y galon yn 2022.

Gwnaeth tua 120 o ffrindiau, aelodau o'r teulu a chydweithwyr Greg redeg Hanner Marathon Caerdydd gan godi swm rhyfeddol o arian i'r Adran Ymchwil Gofal Critigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Esboniodd yr Athro Matt Wise, Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol a Phrif Ymchwilydd y DU ar gyfer treial Stepcare mai “Un o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros dderbyn cleifion i ofal critigol yw ataliad ar y galon. Mae'r rhan fwyaf o gleifion sy'n goroesi dadebru yn dal i fod yn anymwybodol pan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty ac mae angen triniaeth arbenigol mewn uned gofal critigol arnynt. Yn ystod ataliad ar y galon gall gwaed stopio llifo i'r ymennydd yn iawn a gall hyn ei gwneud hi'n anodd rhagweld a yw claf yn debygol o wella o'i ataliad ar y galon ac a fydd yn cael ei adael â difrod niwrolegol parhaol.

“Bydd yr arian a godir gan deulu Greg Lloyd yn ein galluogi i brynu peiriant EEG parhaus, a fydd yn edrych ar y tonnau ymennydd mewn cleifion sydd wedi cael ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a ydyn nhw'n debygol o fod yn dioddef o ddifrod niwrolegol ac a allai hyn effeithio ar eu hadferiad.”

Meddai Lucie Barrett, Rheolwr yr Elusen Iechyd,

“Mae'r cyfraniad anhygoel hwn yn golygu cymaint i ni a bydd yn cael effaith barhaol ar ein hymchwil. Rydym yn ddiolchgar iawn i Louise, ei theulu, a ffrindiau am eu haelioni. Roedd hi'n hyfryd iawn cwrdd â theulu Lloyd yn ein Swyddfa Ymchwil ar y Cyd yng Nghaerdydd i ddiolch iddyn nhw a dathlu eu hymgyrch codi arian, a rhoi gwybod iddynt pa mor ddiolchgar ydyn ni. Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd yn rhan o hyn.”

STEPCARE - CEDAR - Centre for Healthcare Evaluation

Cardiff & Vale Health Charity | Official charity of Cardiff and Vale University Health Board

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni