Neidio i'r prif gynnwy

Teitl Gorau yn y Sioe i Horatio's Garden yn Sioe Flodau Chelsea

Mae Horatio’s Garden Chelsea wedi ennill y teitl Gorau yn y Sioe yn Sioe Flodau RHS Chelsea.

Bu Owen Griffiths, Prif Arddwr yn Horatio’s Garden Cymru, yn helpu i ddod â gardd arddangos yr elusen yn fyw. Mae Owen yn arwain y tîm i ofalu am bobl a phlanhigion yng ngardd hardd Horatio’s Garden Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Adsefydlu Arbenigol yr Asgwrn Cefn a Niwro Cymru yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae Horatio’s Garden yn hybu lles yn dilyn anaf i’r asgwrn cefn, gan gynnig therapi garddwriaethol a rhaglenni celfyddydol i gleifion.

Ymunodd Owen â thîm adeiladu’r elusen dan arweiniad Ryan Alexander Associates yn Chelsea i helpu i greu gardd arddangos fawreddog yr elusen yn sioe flodau fwyaf blaenllaw’r byd, gyda chefnogaeth Project Giving Back.

Horatio’s Garden Chelsea yw gardd arddangos gyntaf y digwyddiad gydag anghenion symudedd yn ganolog iddi. Wedi’i dylunio gan Charlotte Harris a Hugo Bugg o Harris Bugg Studio, a fu’n ymgynghori’n eang â chymuned Horatio’s Garden i lywio’r dyluniad, mae’n hafan adferol, ymdrwythol – y gwrthwyneb i amgylchedd prysur, clinigol yr ysbyty. Ar ôl Chelsea, bydd yn teithio i Princess Royal Spinal Injuries Centre Sheffield fel ei gartref etifeddol, a dyma fydd yr wythfed o erddi Horatio’s Garden.

Dywedodd Owen Griffiths: “Mae bod yn rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am greu’r ardd odidog hon yn Sioe Flodau Chelsea wedi bod yn brofiad gwefreiddiol. Gyda hygyrchedd yn greiddiol iddo, mae’r dyluniad yn arddangos pŵer byd natur er budd iechyd a lles. Alla i ddim aros i’r ardd ddod i’r Princess Royal Spinal Injuries Centre lle bydd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i gynifer o bobl.”

Mae pob elfen yn yr ardd wedi’u llywio gan brofiadau cleifion ag anafiadau i’r asgwrn cefn. Mae’r gwaith plannu’n haenog i fodloni gwahanol ffyrdd o weld, ac mae’r ystafell ardd yn cynnig rhyddhad sydd mawr ei angen o’r ward brysur. Mae llwybrau terrazzo llyfn, di-sment yn ystyriol o gleifion, yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn ddeniadol, gydag ôl troed carbon 77 y cant yn is o’i gymharu â sment arferol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ardd arobryn, ewch i https://www.horatiosgarden.org.uk/chelsea/

Dilynwch ni