Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd Ffisiotherapi yn troi ei waith yn ailgylchu cymhorthion cerdded yn brosiect arobryn

23 Gorffennaf 2024

Mae’r Technegydd Ffisiotherapi, Rob Skellett yn angerddol am y blaned. 15 mlynedd yn ôl, wrth weithio ar y Wardiau Trawma yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sylwodd fod baglau, ffyn cerdded a fframiau cerdded a ddefnyddiwyd yn cael eu taflu yn hytrach na’u hailddefnyddio.

Roedd meddwl am y gwastraff yn ei wneud yn anghyfforddus. “Allwn ni ddim taflu’r pethau hyn i ffwrdd,” meddyliodd ac felly, ar ei ben ei hun, fe ddechreuodd eu hadnewyddu ac ymgyrchu i newid yr arfer. “Nid ailgylchu oedd y peth i’w wneud bryd hynny, ond roeddwn i’n gwybod mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Roedd yn rhaid i mi gredu ynddo a brwydro i’w gyflawni. Yn bersonol, rydw i’n falch iawn o’r man rydyn ni wedi cyrraedd”.

Erbyn hyn, Rob yw’r Rheolwr Cymhorthion Cerdded sy’n cynnal Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded BIP Caerdydd a’r Fro ac, ym mis Mehefin, enillodd y Wobr ‘Lledaeniad a Graddfa’ yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru.

“Roeddwn i’n teimlo’n falch o dderbyn y wobr”, meddai. “Rwy’n angerddol am gynaliadwyedd felly roedd wedi fy mhlesio’n fwy nag y byddai unrhyw wobr arall wedi’i wneud.” Mae Rob yn disgrifio ei hun fel “boi sy’n mwynhau’r awyr agored”. “Rwy’n pysgota, rwy’n caru fy nghŵn, rwyf wrth fy modd ym myd natur. Rwy’n caru ein planed. Ond rydyn ni mewn cymaint o lanast. Rydw i eisiau gwneud unrhyw beth bach posibl i helpu. A gallaf wneud hynny trwy fy swydd.”

Chwe blynedd yn ôl, ehangodd ei ymgyrch ailgylchu wrth iddo gyfarfod ag un o reolwyr Gwasanaeth Prawf EF Caerdydd yn y coridor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Dywedodd Rob wrtho, “Trueni na allwch chi wneud hynny gyda’r cymhorthion cerdded. Rydw i wrthi’n adnewyddu cymhorthion cerdded byth a hefyd!”. Trwy’r cyfarfyddiad hwnnw y sefydlwyd y bartneriaeth.

Mae Rob bellach yn hyfforddi’r goruchwylwyr prawf i lanhau i safonau IP&C ac yn darparu’r offer glanhau. Yna maen nhw’n hyfforddi pobl ar brawf i wirio ac adnewyddu’r cymhorthion cerdded. “Mae’n gweithio’n dda iawn. Maent wrth eu bodd yn helpu’r GIG ac mae’n darparu llif cyson o waith. Mae’n helpu i gadw eu cleientiaid yn brysur trwy wneud gwaith ystyrlon ac yn eu hyfforddi i lanhau’n dda, gyda rhai yn symud ymlaen at swyddi glanhau. Roeddem yn arfer treulio llawer o amser clinigol yn adnewyddu. Ond mae lle rydyn ni arni nawr yn lefel wahanol.”

Y llynedd, dychwelwyd ac adnewyddwyd 1943 o gymhorthion cerdded, 1799 o faglau a 208 o ffyn cerdded. “Eleni rydym ar y trywydd iawn i arbed tua £60k”, meddai.

Pan fydd darn o offer yn cael ei ddychwelyd, mae’r tîm yn cynnal gwiriad diogelwch i sicrhau ei fod yn addas i’w ailgylchu. Os na, maent ar hyn o bryd yn treialu polisi dim gwastraff, gan dynnu’r offer yn ddarnau i’w deunyddiau cydrannol a’u hailgylchu’n briodol. Os yw’n ddiogel, caiff ei lanhau yn unol â safonau IPC.

Mae Rob yn angerddol am ailgylchu’r offer ac mae’n gwneud ymdrech wirioneddol i ledaenu ei frwdfrydedd. “Rwy’n mynd o le i le yn hyfforddi adrannau Ffisiotherapi i allu adnabod darn da o offer a sut i lanhau’r cymhorthion, ac rwy’n dweud, “rydyn ni’n mynd i lanhau, rydyn ni’n mynd i fod yn wyrdd!”. Yn ddiweddar, cafodd gyfle i siarad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’u helpu i sefydlu cynllun tebyg. “Roeddwn i mor gyffrous”, meddai. “Mae llwyddiant y cynllun yn ddibynnol ar ba mor ymroddedig yw’r clinigwyr a’r cleifion.”

Dywedodd Rob, “Ar hyn o bryd, mae tua 60% o gymhorthion cerdded yn cael eu dychwelyd gan gleifion ond mae lle i wella”.

I gael gwybod sut a ble i ddychwelyd y cymhorthion cerdded, cliciwch yma.

Dilynwch ni