26 Hydref 2023
Mae Tai Ffordd y Parc, uned adsefydlu cymunedol 14 gwely Caerdydd a’r Fro, wedi ennill Gwobr Coedwig y GIG yn ddiweddar.
Ychydig fisoedd ar ôl sicrhau grant gan Cadwch Gymru’n Daclus i ddatblygu Gardd Tyfu Bwyd, mae Tai Ffordd y Parc wedi ennill Gwobr Coedwig y GIG am Ymgysylltiad Gweithredol â'r Gymuned.
Gan amlygu gwaith caled ac ymroddiad ein cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a gwirfoddolwyr yn Nhai Ffordd y Parc i greu man gwyrdd cynhwysol a bywiog, mae’r ardd yn Nhai Ffordd y Parc wedi creu man therapi garddwriaethol sy’n meithrin amgylchedd anogol i gleifion allu cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon i helpu eu proses iacháu.
Wrth siarad am y wobr, dywedodd Owen Baglow, Rheolwr Ward yn Nhai Ffordd y Parc: “Credwn fod y cyflawniad hwn nid yn unig yn dyst i’n hymrwymiad i’r gymuned ond hefyd yn gyfle gwych i arddangos effaith gadarnhaol ein mentrau.”
Dechreuodd gwaith ar yr ardd yn Ffordd y Parc nôl ym mis Awst ac mae’r tîm wedi gwneud cynnydd gwych wrth droi’r gofod hwn yn amgylchedd therapiwtig sy’n dangos gwerthoedd cyfrifoldeb, gwaith tîm a chyflawniad.