Neidio i'r prif gynnwy

Tad i ddau o blant a oedd yn cael gofal yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn priodi ei bartner tra'n dysgu sut i gerdded eto

Gareth and Samantha on their wedding day, with their two children

03.12.2024

Fe wnaeth tad i ddau o blant a oedd yn cael gofal yn Uned Adsefydlu Arbenigol Ysbyty Athrofaol Llandochau briodi ei bartner hirdymor tra'n dysgu sut i gerdded eto. 

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Gareth Morgan 38 oed o Bort Talbot ddarganfod bod ganddo gyflwr iechyd a oedd yn mynd i newid ei fywyd. 

Yn ystod oriau mân y bore, ddydd Sadwrn 20 Ebrill 2024, deffrodd Gareth, gosodwr carpedi a thad i ddau o blant, yn methu teimlo na symud ei goesau. Roedd wedi bod yn dioddef poen yn ei gefn dros yr wythnos flaenorol, a chredodd mai’r cyfan yr oedd wedi’i wneud oedd tynnu cyhyr. 

Aethpwyd â Gareth i Ysbyty Treforys lle darganfuwyd roedd wedi colli teimlad o'i frest i lawr a chafodd lawdriniaeth yr un diwrnod, lle cafodd saith crawniad wedi’u tynnu o’r asgwrn cefn.  

Bum wythnos ar ôl ei lawdriniaeth, cafodd Gareth ei drosglwyddo i'r Uned Adsefydlu Arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Effeithiwyd yn fawr ar ei symudedd, ac roedd ganddo daith hir o’i flaen i wella. 

Gyda chymorth y timau amrywiol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, gweithiodd Gareth yn ddiflino ar ei adsefydlu, gan ganolbwyntio ar sgiliau cadair olwyn a symudedd, wrth geisio delio â byw i ffwrdd oddi wrth ei anwyliaid. 

Er gwaethaf y cyfnod hynod anodd hwn, ar 23 Awst, a thra'n glaf mewnol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, priododd Gareth ei bartner hirdymor, Samantha. 

Roedd y ddau wedi bod gyda'i gilydd am 23 mlynedd cyn priodi ac er gwaethaf yr ychydig fisoedd dinistriol yr oedd y ddau wedi’u profi, fe benderfynon nhw fwrw ymlaen â'u diwrnod mawr. 

“Rydym wedi dyweddïo ers blynyddoedd ond ni allem byth benderfynu pa fath o briodas yr oeddem am ei chael" meddai Gareth.  

"Fe wnaethon ni gynllunio'r briodas mewn chwe wythnos gan ein bod ni eisiau rhywbeth i edrych ymlaen ato ar ôl ychydig fisoedd diflas.  

"Roedd diwrnod y briodas yn anhygoel, yn hamddenol iawn a heb unrhyw straen, roedd yn hyfryd o'r dechrau i'r diwedd." 

Gareth and Samantha on their wedding day

Priododd y pâr yng Ngwesty'r Grand ym Mhort Talbot, yng nghwmni eu hanwyliaid. 

Mae Gareth yn hynod ddiolchgar am y cydweithwyr gofal iechyd yn Uned Adsefydlu'r Asgwrn Cefn am roi'r hyder iddo fwrw ymlaen â’r diwrnod.  

Dywedodd: “Mae uned adsefydlu’r asgwrn cefn wedi rhoi fy annibyniaeth yn ôl i mi; mae'r nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, Dr Shanbhag, yr hyfforddwyr adsefydlu i gyd wedi fy helpu ar hyd y ffordd. Roedd hyd yn oed y glanhawyr wastad ag amser i sgwrsio gyda fi a holi sut oeddwn i.  

"Roedden nhw i gyd yn wych. Fe wnes i ffrindiau anhygoel sydd hefyd wedi helpu gyda fy adferiad, ffrindiau fydd gen i am oes." 

Ar 14 Tachwedd 2024, cafodd Gareth ei ryddhau o'r uned adsefydlu ac mae'r tîm yn hynod falch o'i holl gynnydd a'i natur benderfynol. Mae bellach yn addasu i fyw gartref eto, gyda'i blant a'i wraig newydd, Samantha. 

 

Dilynwch ni