Neidio i'r prif gynnwy

Tad a gafodd diwmor angheuol ar ei dafod wedi'i dynnu yn apelio i blant gael y brechlyn HPV sy'n atal canser

Roedd Anthony Perriam, tad i ddau o blant, newydd ddychwelyd o wyliau teuluol ym mis Mawrth 2023 pan sylwodd ar lwmp bach, caled o dan ochr dde ei ên.

Er nad oedd unrhyw boen, dim dolur gwddf, a dim symptomau eraill, penderfynodd ymweld â'i feddyg teulu dim ond i fod yn saff.

“Gan nad oedd yn brifo, doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn ddifrifol,” meddai Anthony, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd. “Fe wnes i hyd yn oed drafod a oedd hi’n werth mynd at y meddyg. Wrth edrych yn ôl, gallai'r oedi hwnnw fod wedi bod yn dyngedfennol.”

Ar ôl yr apwyntiad gyda'r meddyg teulu, cafodd Anthony ei atgyfeirio at lwybr canser y pen a'r gwddf y GIG a'i anfon am sgan uwchsain.

Er iddo gael ei sicrhau i ddechrau y byddai popeth yn iawn, cafodd apwyntiadau dilynol trylwyr a chyflym iawn, a gododd bryderon. O fewn wythnosau, cafodd fiopsi a sgan CT yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), ac yna sgan MRI ar ei ben-blwydd yn 39 oed.

Yn fuan wedyn, cafodd ei alw yn ôl i'r ysbyty a rhoddwyd y diagnosis torcalonnus iddo.

“Dywedon nhw wrtha i fod y biopsi wedi dod yn ôl a’i fod yn ganser,” meddai. “Roedd gen i blentyn tair oed a phlentyn chwech oed ar y pryd.  Y peth cyntaf nes i feddwl amdano oedd yr effaith arnyn nhw, nid fi. Roeddwn i’n ofnus iawn drostyn nhw.”

Cadarnhaodd meddygon fod y canser yn bresennol mewn nod lymff ond ni allent leoli'r tiwmor sylfaenol i ddechrau. Datgelodd profion pellach ei fod yn ganser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig â HPV, math o'r clefyd sydd yn aml yn hawdd ei drin pan gaiff ei ganfod yn gynnar.

“Roeddwn i ond wedi clywed am HPV mewn pethynas â chanser ceg y groth” meddai. “Doedd gen i ddim syniad y gallai achosi canserau fel hyn, yn enwedig mewn dynion.”

Gan ddefnyddio robot Da Vinci arloesol YAC, gwnaeth llawfeddygon lwyddo i leoli'r canser yn y pen draw, ar waelod ei dafod, yn agos at y man lle cafodd ei donsiliau eu tynnu flynyddoedd ynghynt. Yn ystod y llawdriniaeth, tynnodd llawfeddygon 44 o nodau lymff o'i wddf hefyd.

“Dywedon nhw wrtha i eu bod nhw wedi’i ddal mewn pryd,” ychwanegodd Anthony, sydd bellach yn 41 oed. “Roedd un o’r nodau lymff ar fin rhwygo. Pe bai wedi mynd ymhellach, gallai fod wedi lledu.”

Ar ôl y llawdriniaeth, treuliodd Anthony dros wythnos yn YAC ac yna cafodd chwe wythnos o radiotherapi a chemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre i sicrhau bod yr holl ganser wedi'i dynnu.

“Ar y pwynt hwnnw, does dim ots gennych chi beth mae'r driniaeth yn ei wneud i chi,” meddai. “Y cyfan rydych chi’n gwneud yw canolbwyntio ar oroesi. Ond yn fy marn i, roedd y llawdriniaeth yn hawdd iawn o'i gymharu â'r radiotherapi a'r cemotherapi.

“Dydy’r radiotherapi ddim yn brifo, ond ar ôl pob sesiwn rydych chi’n teimlo’n waeth. Roeddwn i'n sâl iawn, ac fe gollais bwysau'n gyflym iawn. Pan ddechreuais fy nhriniaeth, roeddwn i tua 72 kilo (tua 11 stôn a 4 pwys) ac yn y diwedd roeddwn i tua 50 kilo (7 stôn a 12 pwys).

“Diflannodd fy holl boer. Roedd hyd yn oed yfed yn anodd wrth i bopeth droi’n bowdr yn fy ngheg. Roeddwn i mor wan nes i mi fod angen cadair olwyn yn y pen draw. Roedd cael fy ngwthio i lawr y coridor ac i mewn i radiotherapi yn dechrau effeithio ar fy iechyd meddwl.

“Ond rhoddodd fy nheulu’r cymhelliant i mi ei wynebu - ac roeddwn i eisiau byw i weld fy mhen-blwydd yn 40 oed.”

Er bod y driniaeth wedi gadael sgil-effeithiau parhaol - gan gynnwys niwed i'r nerfau, colli cyhyrau, a cholli blas dros dro - mae bellach mewn gofal dilynol hirdymor.

Penderfynodd rannu ei stori i annog eraill i beidio ag anwybyddu symptomau heb eu hesbonio ac i godi ymwybyddiaeth o ganserau sy'n gysylltiedig â HPV.

“Os dewch o hyd i lwmp, hyd yn oed os nad yw’n brifo, ewch i gael archwiliad,” meddai. “Nid yw’r math hwn o ganser yn cael ei drafod ddigon, yn enwedig ymhlith dynion. Mae gweithredu’n gynnar wir yn achub bywydau.”

HPV (feirws papiloma dynol) yw’r enw a roddir ar grŵp cyffredin iawn o feirysau sy’n cael eu trosglwyddo drwy gyswllt croen-i-groen ac sydd i’w cael fel arfer ar y bysedd, y dwylo, y geg a’r organau cenhedlu.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heintio â HPV yn clirio'r feirws o'u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl. Ond i rai gall achosi dafadennau gwenerol, neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser gan gynnwys canser y pen a'r gwddf (sy’n fwyaf cyffredin ymhlith dynion) a chanser ceg y groth ymhlith menywod.

Fodd bynnag, mae'r brechlyn HPV wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.

Bob blwyddyn, mae Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a'r Fro yn ymweld ag ysgolion ledled y rhanbarth i roi'r brechlyn HPV i blant Blwyddyn 8, ynghyd â'r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a'i fethodd ym Mlwyddyn 8. 

Dywedodd Sandeep Berry, llawfeddyg y pen a’r gwddf ac Otolaryngolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae’r brechlyn HPV wedi cael ei ddefnyddio ledled y byd ers blynyddoedd, mae’n ddiogel ac yn effeithiol ac mae’n rhan o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol yng Nghymru. Mae'n helpu bechgyn a merched i aros yn iach, yn atal canser sy'n gysylltiedig â HPV ac yn cryfhau iechyd y cyhoedd yn gyffredinol.

“Rhoddir y brechlyn ym Mlwyddyn 8 gan mai dyna pryd mae'r system imiwnedd yn ymateb gryfaf - a chyn i weithgarwch rhywiol ddechrau. Byddwn yn eich annog yn ddiffuant i sicrhau bod eich plant yn cael y brechlyn HPV pan gaiff ei gynnig yn yr ysgol.”

Meddai Anthony: “Mae’n wych bod y brechlyn HPV bellach yn cael ei gynnig i bob plentyn ysgol uwchradd. Rwy'n ystyried fy hun yn ffodus fy mod i'n dal i allu bwyta a siarad, ond pe bawn i wedi'i adael llawer yn ddiweddarach, gallwn i fod wedi colli fy nhafod neu hyd yn oed wedi marw. Gall y brechlyn HPV helpu i atal y math o ddioddefaint a wynebais i a fy nheulu.”

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen brechu HPV mewn ysgolion ewch i wefan BIP Caerdydd a'r Fro.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni