Neidio i'r prif gynnwy

System Cadeiriau Olwyn Hunanwasanaeth Newydd yn Gwella Hygyrchedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi dechrau treial i wella mynediad i gadeiriau olwyn i gleifion ac ymwelwyr sy'n mynychu Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol neu'n ymweld â pherthnasau a ffrindiau.

Mae Wheelshare yn system sydd wedi'i dylunio i wella argaeledd cadeiriau olwyn, gwella hygyrchedd a chefnogi symudedd annibynnol i'r rhai sydd ei angen.

Mae'r cadeiriau olwyn Wheelshare wedi'u lleoli'n strategol mewn ardaloedd prysur, felly mae’n hawdd i bobl gael gafael arnynt wrth fynd i mewn i'r ysbyty. Gellir dod o hyd iddynt yn y man gollwng ger y cyntedd ac yn y maes parcio aml-lawr, gan sicrhau bod gan ymwelwyr fynediad cyflym a hawdd o ddechrau eu taith. 

Un o’r pethau gorau am y system hon yw’r ffaith ei bod yn syml ac yn hawdd ei defnyddio. Mae'r model hunanwasanaeth yn galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i gadair olwyn a chael gafael arni’n hawdd heb fod angen dibynnu ar staff yr ysbyty. Boed yn glaf yn mynychu apwyntiad neu’n ymwelydd yn cynorthwyo anwylyd, mae’r system newydd yn cynnig ateb cyfleus i heriau symudedd.

Yr hyn sy'n gwneud y gwasanaeth hwn hyd yn oed yn fwy cyfeillgar i gleifion yw ei fod yn hollol rhad ac am ddim am y chwe awr gyntaf. Mae hyn yn sicrhau y gall ymwelwyr a chleifion ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf - derbyn gofal a mynychu apwyntiadau - heb boeni am gludiant o gwmpas yr ysbyty.

Drwy roi’r system cadeiriau olwyn hon ar waith, mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn parhau i flaenoriaethu hygyrchedd, gan wella’r profiad ysbyty i bawb sy’n dod drwy ei ddrysau.

Dilynwch ni