Neidio i'r prif gynnwy

Cefais anaf dinistriol i'r ymennydd - gwnaeth gwirfoddoli chwarae rhan enfawr yn fy adferiad

4 Mehefin 2024

Newidiodd bywyd Adam Harcombe am byth ar ôl noson allan ym mis Medi 2020.

Wrth gerdded ffrind adref yn oriau mân y bore, ymosodwyd arno gan ddau ddyn a'i daro dro ar ôl tro gyda bat pêl fas.

Cafodd ei ruthro mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru lle roedd angen tynnu rhan o’i benglog oherwydd chwyddo difrifol ar ei ymennydd.

Fe’i roddwyd mewn coma o ganlyniad i’r digwyddiad dychrynllyd a direswm. Ni allai gerdded, ac roedd yn ofni am ei ddyfodol. Ond diolch i’r gofal ac adsefydlu “anhygoel” a gafodd gan gydweithwyr yn BIP Caerdydd a’r Fro, llwyddodd Adam i wella’n rhyfeddol – a hyd yn oed dod yn athletwr a enillodd fedalau.

“Roedd y staff [a oedd yn gofalu amdanaf] yn arbennig. Nhw yw’r rhai wnaeth i mi deimlo fel Adam Harcombe eto,” meddai. “Fe wnaethon nhw fy nghadw i fynd.”

Treuliodd Adam, cyn drydanwr, bedwar mis yn Ysbyty Athrofaol Cymru cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Rookwood yn Llandaf lle dysgodd sut i gerdded eto heb gymorth o fewn ychydig fisoedd yn unig.

Mewn ymgais i roi rhywbeth yn ôl i’r clinigwyr a’i helpodd i wella, mae’r dyn 29 oed wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gwirfoddoli ar ward niwrolawdriniaeth B4 yn Ysbyty Athrofaol Cymru fel “cyfaill cleifion”. Ei rôl yw siarad â chleifion sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd, rhoi hwb i’w hysbryd a rhoi sicrwydd iddynt y gallant ddod allan yr ochr arall.

“Pan oeddwn i ar B4, roedd hi’n adeg Covid, a doedd gen i neb i siarad â nhw pan oeddwn mewn lle anodd iawn,” cyfaddefodd. “Roeddwn i’n meddwl pe bawn i’n gallu dod i mewn fel gwirfoddolwr a helpu pobl sy’n profi pethau tebyg i mi, yna efallai y gallai gyflymu eu hadferiad.

“Mae wedi rhoi boddhad mawr i mi. Rwyf wedi gweld cleifion a gafodd eu parlysu i ddechrau - ac yn meddwl nad oedd ganddyn nhw unrhyw obaith - yn llwyddo i gerdded eto. Rydw i wedi dod yn ffrindiau da iawn gyda rhai o’r cleifion.”

Dywedodd Adam fod ei brofiadau fel gwirfoddolwr gyda’r Bwrdd Iechyd yn “gam anferth” ar ei daith tuag at gael cyflogaeth â thâl.

Mae bellach wedi troi ei law at athletau, gan ennill medal arian yn ei gystadleuaeth para-shotput cyntaf ym Mhencampwriaethau Cymru. Mae hefyd yn hyfforddwr rygbi cymwysedig ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth gyda’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi yn ei dref enedigol, y Porth.

Rhwng 3 - 9 Mehefin, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr, gan dalu teyrnged i’r cannoedd o bobl sy’n rhoi o’u hamser i wneud cymaint o wahaniaeth i gleifion, gwasanaethau a staff.

Yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn, mae rhwng 400 a 500 o bobl yn cefnogi mwy na 35 o brosiectau a rolau gwirfoddol ar draws ein hysbytai a lleoliadau cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gyfeillio â chleifion, yn helpu ymwelwyr i fynd y ffordd iawn, yn mynd â trolïau llyfrgell o amgylch wardiau, yn helpu i arwain gweithgareddau fel celf a chrefft a llawer mwy.

Yn ystod pum mis cyntaf 2024 mae mwy na 5,100 o oriau wedi’u rhoi gan wirfoddolwyr rhwng 13 ac 86 oed. I ddarganfod mwy am Wythnos y Gwirfoddolwyr mae gwybodaeth yma.

Dilynwch ni