Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae elusen Mentro i Freuddwydio yn helpu cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru

28 Mehefin 2024

Oeddech chi’n gwybod yr amcangyfrifir bod bron i hanner yr holl oedolion yng Nghymru yn byw gydag o leiaf un salwch hirsefydlog? O’r rheini, mae bywydau dros hanner naill ai wedi’u cyfyngu i raddau neu’n ddifrifol gan eu salwch.

Mae Mentro i Freuddwydio, elusen sy’n canolbwyntio ar gymorth emosiynol i gleifion sy’n oedolion, wedi helpu i drawsnewid ardaloedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru er budd lles emosiynol y rhai yn ein gofal.

Hyd yn hyn, mae Mentro i Freuddwydio wedi creu nifer o fannau diogel i gleifion, eu teuluoedd a’r staff sy’n gofalu amdanynt.

Mae Ystafelloedd Tawel mewn ysbytai yn fannau pwysig iawn. Dyma’r ystafelloedd a ddefnyddir ar gyfer sgyrsiau anodd gyda chleifion a’u teuluoedd ac mae’n hanfodol eu bod yn gysurlon i’r rhai mewn angen. I gefnogi iechyd emosiynol cleifion, mae bellach nifer o ystafelloedd tawel wedi’u hadnewyddu yn yr ysbyty o fewn Llawfeddygaeth Gyffredinol, Gofal Critigol, Arenneg a Chardioleg. Gellir dod o hyd i’r ystafell dawel fwyaf newydd yn yr ysbyty yn yr Adran Meddygaeth Integredig.

Yn ddiweddar, mae Mentro i Freuddwydio wedi bod yn canolbwyntio ar wella lles emosiynol cleifion o fewn Gofal Critigol. Mae’r ‘Tŷ Bach i Ymwelwyr’ wedi’i adnewyddu’n ddiweddar i wella hygyrchedd ac mae’n cynnwys sedd wal sy’n plygu fel y gall defnyddwyr gofidus neu fregus eistedd yn ddiogel tra’n treulio amser yn tawelu. Mae’n noddfa ac yn lle i fod ar eich pen eich hun ac mae’n ofod sy’n cyd-fynd â’r Ystafell Dawel a’r Ystafell i Berthnasau yn yr adran Gofal Critigol yr oedd yr elusen eisoes wedi’u trawsnewid. Yn ôl amcangyfrif ceidwadol uwch glinigwyr Gofal Critigol, bydd yr ystafelloedd yn effeithio ar tua 43,000 o bobl bob blwyddyn.

 
Dilynwch ni