Mae Aleshagul Khan yn treulio cymaint o amser yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ag y mae hi yn ei chartref ei hun. Wedi’i geni gyda chlefyd genetig yr arennau, mae disgwyl i’r plentyn saith oed ymweld â’r nyrsys hyd at bedair gwaith yr wythnos i gael triniaeth dialysis hir.
I wneud pethau’n waeth, mae ei chyflwr yn cyfyngu ar faint mae hi’n cael ei yfed bob dydd i 600ml yn unig, tua dwy gwpan a hanner. Os yw hi’n yfed mwy na hynny mae ei bola’n chwyddo, gan deimlo’n anghyfforddus iawn, ac mae angen mwy fyth o ddialysis i gael gwared â’r dŵr ychwanegol yn ei gwaed.
“Mae’r rhan fwyaf o rieni yn dadlau gyda’u plant dros eu hymddygiad neu am beidio â rhoi eu teganau heibio - fy mrwydr i yw dweud wrth fy merch i beidio ag yfed gormod,” eglurodd ei mam Shehlagul Niaz, o Grangetown, Caerdydd. “Mae’n rhaid iddi gael ei phaned o de bob bore, ac mae ei chyfyngiad dyddiol o ran hylif hefyd yn cynnwys pethau fel iogwrt a chwstard, felly mae’n rhaid i mi gadw llygad arni’n gyson. Mae’n anodd iawn.”
Am flynyddoedd lawer, roedd faint o hylif y gallai Alesha ei gael bob dydd hefyd yn cynnwys y meddyginiaethau hylif yr oedd eu hangen arni yn rheolaidd i ostwng ei phwysedd gwaed a helpu gyda’i hesgyrn. “Mae’n anochel bod hynny wedi cael effaith fawr ar faint o’i hoff ddiodydd y gallai fy merch eu hyfed - neu hyd yn oed i yfed pan oedd syched arni,” ychwanegodd Shehlagul.
Ond diolch i KidzMedz Cymru, cynllun arloesol i Gymru yn gyntaf sy’n addysgu plant dros bump oed sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel, mae Alesha bellach yn gallu yfed mwy o’r diodydd mae hi’n eu hoffi.
“Roedd hi’n arfer cymryd yr holl feddyginiaethau [hylif] yma a byddai rhai ohonyn nhw’n blasu’n ofnadwy, felly byddai Alesha eisiau yfed rhywbeth arall wedyn a byddai’n rhaid ei ychwanegu at ei chyfrif hylif dyddiol. Nawr mae hi wedi dysgu i lyncu tair neu bedair tabled ar unwaith gan gymryd un neu ddau sip. Dydw i ddim yn poeni amdani hi bellach yn gofyn am ddiod ychwanegol ar ôl pob meddyginiaeth.”
Dywedodd Shehlagul fod Alesha, sydd wrth ei bodd yn neidio ar ei thrampolîn ac yn caru unrhyw beth pinc, wedi derbyn ei holl driniaethau yn ddigwyno. “Mae hi’n ferch mor hapus. Dyw hi byth yn cwyno ac mae hi’n cymryd ei meddyginiaeth gyda gwên ar ei hwyneb,” ychwanegodd. “Mae hi ar y rhestr aros am drawsblaniad aren felly tan iddynt ddod o hyd i un sy’n cydweddu, bydd hi’n parhau i gael y dialysis a chymryd ei meddyginiaeth.”
Gorffennodd trwy ddweud: “Mae staff yn yr ysbyty plant fel ail deulu. Maen nhw’n dîm hollol anhygoel. Maen nhw’n helpu lle bynnag y gallan nhw ac mae Alesha yn cael cymaint o hwyl. Mae hi’n mynychu gwersi dawns yma yn ogystal â sesiynau therapi cerddoriaeth. Mae ganddynt wirfoddolwyr gwych a fydd yn dod i chwarae gyda hi.”
Lansiwyd KidzMedz Cymru yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ym mis Mehefin 2023 ar ôl derbyn grant gan Gronfa Loteri’r Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dros y 12 mis nesaf, bydd tua 400 o blant a phobl ifanc yn dysgu sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel.
Y gobaith yw y bydd y defnydd o feddyginiaethau hylif a roddir ar bresgripsiwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gostwng 40%. Ar ôl y cyfnod prawf cychwynnol o 12 mis, y nod yw cyflwyno KidzMedz Cymru ledled Cymru.
Mae arbenigwyr yn yr ysbyty plant o’r farn bod gan dabledi nifer o fanteision dros feddyginiaeth hylif i gleifion, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Bethan Davies, Fferyllydd Arweiniol Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru: “Rydyn ni wedi cael llwyddiant mawr gyda KidzMedz hyd yn hyn - yn enwedig gydag un claf a oedd yn derbyn ei feddyginiaethau yn flaenorol trwy gastrostomi. Trwy ddysgu sut i gymryd tabledi a chapsiwlau, rydym wedi gallu cael gwared ar y gastrostomi ac mae ansawdd ei fywyd wedi gwella’n fawr. Mae ei deulu wedi gallu mynd ag ef ar wyliau am y tro cyntaf yn ddiweddar.
“Rydym yn gobeithio parhau i weld llwyddiant mawr o’r prosiect hwn ac yn anelu at sicrhau bod 400 o blant yn dysgu sut i gymryd tabledi a chapsiwlau erbyn diwedd y flwyddyn.”
Mae plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu sut i lyncu tabledi’n ddiogel gan ddefnyddio techneg chwe cham sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Maent yn dechrau trwy ddewis diod - naill ai dŵr neu sudd ffrwythau heb siwgr - a byddant yn gweithio trwy gyfres o losin o wahanol feintiau yn raddol.
Unwaith y byddant wedi cwblhau’r rhaglen ac yn gallu llyncu tabledi neu gapsiwlau yn ddiogel ac yn hyderus, byddant yn derbyn pecyn addysg sy’n cynnwys pecyn tabledi, potel ddŵr a thystysgrif. Bydd rhieni a gofalwyr hefyd yn derbyn taflen wybodaeth.
Datblygwyd y cynllun gyntaf yn Ysbyty Plant Great North yn Newcastle yn 2020 ac mae wedi ennill Gwobr Cynaliadwyedd y GIG, Gwobr Gwerth HSJ am Fferylliaeth ac Optimeiddio a Gwobr Syniadau Da mewn Iechyd am Ddangos Effaith ar Wella Ansawdd.