Er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn mwynhau dathliadau Calan Gaeaf yn ddiogel, byddwch yn saff ac osgoi unrhyw ofnau gofal iechyd y gellir eu hosgoi trwy ddilyn y cyngor diogelwch isod.
1. Gwiriwch y label
Mae llawer o wisgoedd Calan Gaeaf yn fflamadwy iawn. Cyn prynu, gwiriwch labeli gwisgoedd am farciau UKCA neu CE ac osgoi fflamau agored.
2. Cerfiwch eich pwmpen yn ofalus
Os ydych chi’n bod yn greadigol wrth gerfio pwmpen, cymerwch ofal arbennig i osgoi anafiadau diangen. Cerfiwch eich pwmpenni mewn golau da, defnyddiwch yr offer cywir a pheidiwch â gadael unrhyw beth miniog o gwmpas y lle. Gadewch y gwaith cerfio i oedolion bob amser – gall eich helpwyr bach gefnogi gyda thynnu lluniau a sgwpio pwmpenni.
3. Gofalwch am iechyd eich llygaid
Ydych chi’n ychwanegu at eich gwisg gyda lensys cyffwrdd iasol? Chwiliwch am y marc CE ar becynnau i sicrhau bod eich lensys cyffwrdd yn bodloni safonau diogelu. Peidiwch â rhannu eich lensys ag unrhyw un arall, peidiwch â’u gwisgo am gyfnodau estynedig o amser a sicrhewch eich bod yn eu tynnu cyn mynd i gysgu.
4. Gallwch drin mân anhwylderau eich plentyn gartref
Gallwch drin eich plentyn gartref os oes ganddo fân salwch neu anhwylder fel dolur gwddf neu beswch, ergydion neu gleisiau.
Os ydych chi wedi trefnu gweithgareddau hwyliog ar gyfer Calan Gaeaf, byddwch yn barod gyda meddyginiaethau hanfodol megis paracetamol ac ibuprofen sy’n briodol i’r oedran, plastrau a thermomedr.
Peidiwch â dod i’r Uned Achosion Brys yn ddiangen y Calan Gaeaf hwn.
Yn ystod Calan Gaeaf, mae ein Huned Achosion Brys yn gweld cynnydd mewn achosion nad ydynt yn rhai brys y gellid eu trin mewn mannau eraill yn y gymuned. Dewiswch wasanaethau yn briodol a’n helpu i sicrhau bod gofal ar gael i’r rhai sydd wirioneddol ei angen.
Cofiwch y dylech fynd i’r Uned Achosion Brys os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd/anaf difrifol yn unig, a all gynnwys:
• Anymwybyddiaeth
• Anhawster anadlu
• Amheuaeth o drawiad ar y galon
• Anaf difrifol neu golli gwaed yn drwm
• Gwendid sydyn neu broblemau lleferydd
Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, neu pa gyngor meddygol sydd ei angen arnoch, gall gwefan GIG 111 Cymru helpu trwy gynnig cyngor, arweiniad, cyfeiriadur gwasanaethau a gwiriwr symptomau.
Os yw eich cyflwr yn fater brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, gallwch ffonio 111 i gael mynediad at y gwasanaeth y tu allan i oriau a’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Barri.
Gallwch helpu i sicrhau bod gofal ar gael i’r rhai sydd ei angen ar frys trwy fynd i’r uned mewn argyfwng yn unig.