17 Ebrill 2025
Mae canwr-gyfansoddwr o Gymru a gafodd lawdriniaeth agored ar y galon wedi disgrifio’r tîm cardioleg a wnaeth gynnal ei lawdriniaeth fel “archarwyr hudolus”.
Cafodd Gary Ryland, sy’n cael ei adnabod yn annwyl fel Ragsy, ddiagnosis o glefyd etifeddol ar y galon a chafodd ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ar 28 Fawrth ar gyfer llawdriniaeth ddargyfeiriol ddwbl ar y galon.
Gwnaeth y canwr roc â’r gwallt gwyllt o Aberdâr, a ymddangosodd ar y sioe dalent The Voice ac a gafodd ei fentora gan Syr Tom Jones, gyfaddef ei fod yn hynod ofnus yn yr eiliadau cyn mynd i mewn i’r theatr.
Ond dywedodd y dyn 46 oed fod caredigrwydd, tosturi ag agwedd ddigynnwrf staff yr ysbyty - o'r llawfeddygon i'r porthorion - wedi ei helpu drwy’r profiad.
“Wir i chi, mae’r criw yna yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn archarwyr hudolus,” meddai. “Roedd pawb wnes i gyfarfod â nhw [yn YAC] trwy gydol yr holl beth yn anhygoel. Fe wnaethon nhw achub fy mywyd a byddaf yn ddiolchgar am byth.”
Dywedodd Ragsy, y dioddefodd ei ddiweddar dad ei drawiad cyntaf ar y galon yn 21 oed, ei fod wedi sylwi gyntaf fod rhywbeth o'i le ar ei iechyd ei hun pan ddechreuodd golli anadl yn haws nag arfer.
“Rwy’n feiciwr brwd ac roeddwn i’n arfer mynd allan i reidio o leiaf bedwar neu bum diwrnod yr wythnos i gael fy nghalon a fy ysgyfaint i bwmpio,” cofiodd. “Gan fy mod yn gyn-gogydd, rydw i hefyd yn gofalu amdanaf fy hun gyda bwyd da, maethlon.
“Ond sylwais ar bethau’n newid tua Rhagfyr 2022. Rwy’n gweithio fel hyfforddwr ysgrifennu caneuon mewn ysgolion a cholegau chweched dosbarth, ac rwy’n cofio cerdded ar draws un o feysydd parcio’r ysgol i mewn i’r dderbynfa, a theimlo poenau ar draws fy mrest a’m breichiau.
“Roedd yn teimlo fel pe bawn i wedi rhedeg ras ac roeddwn yn aros i'm corff i adfer. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd i mi.”
Ar ôl profi'r un symptomau am bythefnos neu dair, aeth Ragsy at ei feddyg teulu a'i hatgyfeiriodd i gael archwiliad pellach a sganiau. Ym mis Medi 2023, ymwelodd ag Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i gael gwybod bod ganddo glefyd etifeddol ar y galon.
“Mi wnes i feichio crio,” cyfaddefodd. “Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth o'i le ond fe wnes i feddwl mai dim ond straen ydoedd, achos fy mod i’n ychydig o ‘workaholic’.
“Y peth cyntaf wnes i feddwl amdano oedd fy nau blentyn. Roeddwn am eu gweld yn tyfu i fyny. Doeddwn i ddim yn barod i adael eto.”
Pan dderbyniwyd Ragsy i Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer llawdriniaeth agored ar y galon, cyfaddefodd ei fod yn bryderus, yn enwedig gan fod achos o norofeirws wedi ei atal rhag cael ymwelwyr. “Rydych chi yn y cyflwr mwyaf bregus y byddwch chi byth ynddo gan eich bod chi'n rhoi eich bywyd yn nwylo rhywun arall,” esboniodd.
“Roeddwn i’n beichio crio cyn y llawdriniaeth, ond fe wnaeth y nyrs, y porthor a’r anesthetydd a oedd gyda mi fy dawelu fy meddwl a gwneud i mi deimlo cystal ag y gallwn.”
Ar ôl sawl awr o lawdriniaeth, cafodd Ragsy ei ddeffro gyda'r nos ar 28 Mawrth a rhoddodd fawd mawr i'r clinigwyr i gadarnhau ei fod yn iawn. O fewn pum niwrnod o fonitro agos a gwella roedd yn ôl adref yng Nghwm Cynon.
Bydd nawr yn cael apwyntiadau aml a ffisiotherapi i wirio ei gynnydd. Cyn belled â bod popeth yn mynd yn ôl y bwriad, ei obaith yw mynd yn ôl ar y llwyfan a pherfformio o fewn y chwe mis nesaf.
“Mae gen i ambell i beth ar y gweill o ran y canu a’r cyfansoddi”, meddai Ragsy, a berfformiodd ar y fersiwn Gymraeg, Y Llais, ym mis Mawrth cyn ei lawdriniaeth. “A dwi’n gyffrous i fynd yn ôl ar y beic yn y pen draw – mae wedi bod yn rhy hir.”
“Llawer o gariad a chwtshus mawr i holl staff yr ysbyty oedd yn gofalu amdanaf. Alla’ i ddim aros i’w gweld nhw i gyd eto ar ran nesaf y daith.”