Neidio i'r prif gynnwy

Seicosis ôl-enedigol: Fy nhaith wella ar ôl genedigaeth fy mabi

Pan roddodd Rachel Flynn enedigaeth i’w mab iach Finley mewn uned dan arweiniad bydwragedd ym mis Mawrth 2017, roedd hi wrth ei bodd yn dod yn fam am y tro cyntaf.

Ond dim ond 10 diwrnod yn ddiweddarach cafodd ei hun yn ôl yn yr un ysbyty ac angen cymorth seiciatrig acíwt ar ôl i'w hiechyd meddwl waethygu’n sylweddol, ac yn gwbl annisgwyl.

Darganfuwyd bod gan Rachel seicosis ôl-enedigol, cyflwr sy’n effeithio ar gymaint ag un o bob 500 o ferched, ac arweiniodd at ddioddef hwyliau manig, ei meddyliau am rasio a hyd yn oed rhithweledigaethau brawychus.

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau 2024, sy’n rhedeg o ddydd Llun, 29 Ebrill tan ddydd Sul, 5 Mai, mae’r fenyw 31 oed wedi rhannu ei thaith wella i helpu eraill sy’n wynebu profiadau tebyg.

“Roedd fy meichiogrwydd yn hwylus, a chefais enedigaeth syml iawn,” esboniodd Rachel, sy’n gweithio fel Cynorthwyydd Personol yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a’r Fro. “Cefais ofal da iawn ar yr uned, felly gwnaeth hynny beth ddigwyddodd i mi wedyn hyd yn oed yn fwy annisgwyl.”

Tua 24 awr ar ôl iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty, dywedodd Rachel fod ei gŵr wedi sylwi ar newidiadau yn ei hymddygiad. “Roeddwn yn canolbwyntio gymaint ar wneud cymaint o laeth y fron â phosibl fel na allwn fwyta na chysgu,” meddai.

“Roeddwn i methu stopio siarad. Roedd gen i gymaint i'w ddweud, ond meddyliais fod hynny oherwydd y cyffro o ddod yn fam newydd. Doeddwn i wir ddim yn meddwl bod dim byd o'i le arnaf.

“Roeddwn i’n gwbl ymroddedig i’m swydd a bob amser yn eithaf cyflym yn gwneud popeth beth bynnag, felly i ddechrau roedd yn anodd i fy nheulu sylweddoli nad oedd rhywbeth yn iawn.”

Ond datblygodd pethau yn gyflym, a thua wythnos ar ôl yr enedigaeth cafodd Rachel ei hun yn gaeth i'w gwely a dim ond yn gallu symud ei braich dde.

“Mae'n rhaid fy mod i wedi gorflino. Roedd fy mhen yn dal i rasio, ond yn gorfforol doeddwn i ddim yn gallu symud. Roedd fy ymennydd yn anfon signalau ond doedd dim byd yn digwydd. Achosodd hynny banig a phryder yn y pen draw.”

Yn dilyn apwyntiad gyda’i bydwraig gymunedol, a wnaeth ei hatgyfeirio at Feddyg Teulu, gwelwyd Rachel am asesiad iechyd meddwl yn yr ysbyty a rhoddwyd meddyginiaeth iddi. Ond nid oedd hynny'n ddigon i'w hatal rhag cael ei derbyn i ward seiciatrig a olygai amser i ffwrdd oddi wrth ei gŵr a'i mab bach.

“Dim ond 10 diwrnod ar ôl profi diwrnod gorau fy mywyd, roeddwn yn ôl yn yr un ysbyty mewn cyflwr seicotig ac yn methu â phrosesu unrhyw beth oedd yn digwydd,” meddai. “Fe aeth fy nheulu a fy mab bach i un cyfeiriad ac es i i’r cyfeiriad arall – a doeddwn i ddim yn gwybod pam.”

Ychydig ddyddiau ar ôl iddi gael diagnosis swyddogol o seicosis ôl-enedigol, trosglwyddwyd Rachel i uned mamau a babanod cleifion mewnol arbenigol yn Nottingham gan nad oedd uned o’i fath yng Nghymru ar y pryd. Mae hyn wedi newid ers sefydlu Uned Gobaith, Uned Iechyd Meddwl Amenedigol Cleifion Mewnol arbenigol yn Ysbyty Tonna, Castell-nedd, sydd bellach yn gwasanaethu mamau o Gymru. Gallwch ddarganfod mwy amdani yma.

Dywedodd Rachel mai'r uned mamau a babanod oedd y lle gorau iddi, a'i bod yn caniatáu iddi dreulio amser gwerthfawr gyda Finley. “Roedd yn teimlo mor gartrefol. Roedd yna chwe ystafell wely ar wahân, ystafell fwyta ac ystafell fyw a matiau chwarae i fabanod ar y llawr. Roedd y staff yn ymarferol iawn, ond roedden nhw eisiau fy ngrymuso i wneud pethau gyda Finley. Roedd popeth wedi'i ddogfennu, o fwydo i newid cewynnau.

“Daeth fy nghellwair yn ôl o fewn ychydig wythnosau, a chwrddais â mamau newydd yr wyf dal i fod mewn cysylltiad â nhw flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Nid oedd hyd yn oed yn teimlo fy mod yn yr ysbyty.”

Cyfaddefodd Rachel ei bod wedi cymryd amser i gael y cydbwysedd yn iawn ar ei meddyginiaeth gwrth-seicotig er mwyn osgoi sgil-effeithiau gwanychol megis yr wyneb yn disgyn. Ond o fewn wythnosau fe ddechreuodd ei hiechyd meddwl wella ac yn raddol fe gafodd adael yr uned i weld ei theulu. Cafodd ei rhyddhau adref i dde Cymru ar ôl tri mis yn Nottingham.

“Doeddwn i ddim yn fi fy hun am ddwy flynedd ar ôl i hyn ddigwydd, ac ar adegau roedd hi’n anodd wynebu’r dydd. Ond gall bregusrwydd fod yn gryfder, a gall cael y sgyrsiau agored hynny gyda phobl am eich iechyd meddwl fod yn beth cadarnhaol,” meddai.

“Roeddwn i mor ofnus ynghylch sut y byddai hyn yn effeithio ar ddatblygiad Finley, ond mewn gwirionedd rwy'n meddwl ei fod wedi ei wneud yn blentyn gwell. Mae wir yn deall fy emosiynau, a byddwn yn dweud y gall Finley fy rheoleiddio yn fwy nag y gall unrhyw oedolyn. Rwy'n teimlo y gallaf fod yn fi fy hun yn gyfan gwbl gydag ef. Mae’n fachgen bach gofalgar iawn.”

Mae Rachel bellach yn gweithio gydag Action on Postpartum Psychosis (APP), elusen ar gyfer mamau a theuluoedd y mae’r cyflwr wedi effeithio arnynt. Ychwanegodd: “Gall pobl â seicosis ôl-enedigol fyw bywyd normal wedyn. Am gymaint o amser roeddwn i'n meddwl tybed pryd y byddwn i'n gweld golau ar ddiwedd y twnnel. Alla i ddim bod y person oeddwn i cyn i mi ddod yn fam, ond rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n bwysig yw bod fy mhersonoliaeth yn ôl – a dwi’n teimlo fel ‘fi’ eto.”

Er bod seicosis ôl-enedigol yn fwy cyffredin ymhlith y rhai sydd â hanes o anhwylder deubegynol, gall effeithio ar bobl heb unrhyw hanes o salwch meddwl. I rai mae'n datblygu'n gyflym ac mewn eraill gall fod yn fwy graddol.

Os cewch ddiagnosis o seicosis ôl-enedigol, bydd gennych un neu fwy o'r symptomau hyn:

  • Rhithdybiau: mae rhithdybiau yn gredoau cryf nad yw eraill yn eu rhannu. Gallai hyn gynnwys credoau bod eich meddyliau’n cael eu darllen, eich bod yn cael eich dilyn neu fod eich babi’n gysylltiedig â Duw neu’r diafol mewn rhyw ffordd.
  • Rhithweledigaethau: Rhithweledigaethau yw pan fyddwch yn clywed, gweld, teimlo neu arogli pethau nad ydynt yno, neu bethau na fydd eraill yn gwneud.
  • Mania: Mania yw pan fydd gennych hwyliau uchel iawn, yn ymddwyn mewn ffordd orweithgar a chyffrous sy'n cael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.
  • Dryswch: Efallai y bydd eich meddyliau yn teimlo fel pe baent yn mynd mor gyflym fel eu bod allan o reolaeth. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo bod eich meddwl yn symud yn gyflym iawn o un syniad i'r llall, gan wneud cysylltiadau nad yw pobl eraill yn eu gweld
  • Mae arwyddion eraill yn cynnwys teimlo'n llawen, yn isel, yn bryderus, yn bigog, ac yn teimlo fel nad oes angen cwsg arnoch.

Mae llawer o bobl yn profi gofid a phryder yn ystod ac ar ôl eu beichiogrwydd, ac mae'r rhan fwyaf ohono'n normal iawn. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a GIG Cymru yn gyffredinol.

Mae bydwragedd cymunedol a dosbarthiadau cyn geni yn lleoedd da i deuluoedd ddechrau. Mae'r timau'n brofiadol iawn o ran helpu teuluoedd a allai fod angen mynediad at gymorth a byddant yn gwrando ar unrhyw bryderon. Yn yr un modd, bydd meddygfeydd, ymwelwyr iechyd a bydwragedd yn ymwybodol o'r tîm Iechyd Meddwl Amenedigol, Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol a'r tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a sut i atgyfeirio pobl sydd ei angen.

Am ystod o wybodaeth a chyngor iechyd meddwl, ewch i wefan Stepiau yma. I'r rhai sydd mewn argyfwng iechyd meddwl uniongyrchol, ffoniwch ein tîm 111 Pwyswch 2 sy'n gweithredu 24/7. 

Mae gwefan Action on Postpartum Psychosis i'w gweld yma.

Dilynwch ni