Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliadau allweddol yn ymuno i lansio adroddiad blynyddol newydd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd

Daeth sefydliadau ledled Caerdydd a’r Fro ynghyd ar gyfer lansiad ffurfiol adroddiad blynyddol newydd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd.

Wedi'i gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 28 Ebrill, roedd y digwyddiad yn gyfle i rannu canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd - a'r Asesiad Anghenion Iechyd y Blynyddoedd Cynnar cysylltiedig - ac archwilio sut y gallai partneriaid gydweithio i wella canlyniadau i'n poblogaeth ieuengaf.

Yn dwyn y teitl 'Blaenoriaethu'r Blynyddoedd Cynnar - Buddsoddi ar gyfer y Dyfodol', mae'r adroddiad yn tanlinellu effaith hollbwysig plentyndod cynnar (0 i bum mlwydd oed) ar iechyd gydol oes a ffyniant cymunedol. Mae hefyd yn amlygu’r bwlch cynyddol mewn canlyniadau iechyd rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf cefnog Caerdydd a’r Fro.

Mae'r adroddiad yn amlinellu argymhellion y gellir gweithredu arnynt, o gryfhau rhaglenni brechu plant, i wella cefnogaeth i fwydo ar y fron, i fuddsoddi mewn rhaglenni gweithgarwch corfforol a maeth. Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.

Ymhlith y siaradwyr ar y diwrnod roedd cydweithwyr o Chwarae Cymru, BIP Caerdydd a'r Fro a'i Fwrdd Ieuenctid, Cyngor Bro Morganwg, Cyngor Caerdydd a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Fe wnaethon nhw rannu eu gwybodaeth a'u profiad o'u rolau ac ysbrydoli'r rhai oedd yn bresennol i drafod syniadau i'w cyflwyno fel camau gweithredu ar gyfer Rhaglen Dechrau'n Dda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i'w goruchwylio.

Yn y prynhawn, mwynhaodd y 75 o fynychwyr sesiwn ddawns ar eu heistedd gyda Rubicon Dance, sy'n gweithio'n lleol gyda phob oed mewn lleoliadau fel ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd BIP Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad, yn enwedig y siaradwyr am roi o’u hamser i rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth i helpu i arwain ein sgyrsiau.

“Mae pob plentyn yn haeddu ffynnu, a dyna pam mae fy adroddiad yn nodi sut mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn creu sylfaen ar gyfer iechyd a lles gydol oes. Mae'r bwlch mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn parhau i dyfu ac mae angen sylw a gweithredu parhaus arno.

"Mae anghydraddoldebau iechyd yn effeithio ar deuluoedd ar draws cenedlaethau, gan effeithio ar lesiant unigol a ffyniant cymunedol.

“Mae canolbwyntio ymdrechion ar rieni, babanod a phlant ifanc yn rhoi’r cyfle inni ddarparu’r amodau a all hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol da gyda’r manteision a brofir wrth iddynt dyfu’n oedolion.”

Gallwch gael mynediad at adroddiad llawn Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd drwy'r ddolen hon.

Dilynwch ni