15.08.2024
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw ffocws cyfres ddogfen chwe rhan y BBC, Saving Lives in Cardiff — a bydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar 20 Awst am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two.
Cafodd Saving Lives in Cardiff ei ffilmio dros sawl mis yn 2023 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, ac mae’n codi’r llen ar sut mae llawfeddygon yn gwneud y penderfyniadau anodd ynghylch pwy sy’n cael eu trin nesaf.
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Bydd y rhaglen yn tynnu sylw at yr heriau anodd y mae timau clinigol yn eu hwynebu bob dydd ac effaith bywyd go iawn rhestrau aros y GIG ar y rhai sydd angen triniaeth a’r rhai sy’n eu darparu. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i egluro’r cymhlethdodau y tu ôl i’r penderfyniadau a wneir, a gwelwn hynny’n digwydd gyda phroffesiynoldeb, arbenigedd a thosturi mawr, gan arddangos gwerthoedd y Bwrdd Iechyd yn glir — dangosir bod darparu’r gofal a’r driniaeth orau i gleifion bob amser wrth wraidd popeth a wnawn.”
Yn y bennod gyntaf, dilynwch y niwrolawfeddyg Mr George Eralil, y llawfeddyg fasgwlaidd Mr Lewis Meecham, a’r llawfeddyg thorasig arweiniol Ms Malgorzata ‘Margaret’ Kornaszewska wrth iddynt achub a newid bywydau ar adeg yr amseroedd aros hiraf mewn hanes.
Yn adran niwrolawdriniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru, mae bron i 200 o bobl yn aros am lawdriniaeth gymhleth, sy’n achub bywyd, ac mae George yn blaenoriaethu Chelsea, 19 oed, sydd â thiwmor hynod brin ar yr ymennydd. Mae ei llawdriniaeth wedi cael ei chanslo unwaith yn barod a, gyda’r newyddion bod y tiwmor yn tyfu, mae’n rhaid ei dynnu ar unwaith.
Os caiff ei ohirio am gyfnod hirach, gallai Chelsea gael ei gadael gydag anableddau parhaol neu gall hyd yn oed beryglu ei bywyd. Mae’r llawdriniaeth yn gymhleth, gan fod y tiwmor yn ddwfn yn ei hymennydd ac yn agos at ardaloedd sy’n rheoli ei lleferydd a’i gallu i gerdded. Ond mae hi’n ymddiried yn llwyr yn George.
Wrth siarad am achos Chelsea, dywedodd George: “Penderfynais gymryd rhan yn Saving Lives in Cardiff am nifer o resymau. Mae yna lawer o waith da iawn sy’n digwydd nad yw’n cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Mae pob arbenigedd yn gwneud gwaith anhygoel bob dydd, ac roedd hwn yn gyfle i ddangos yn union hynny.
“Nid oes unrhyw fath o lawdriniaeth ar yr ymennydd yn bosibl heb gymorth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Yn ystod llawdriniaeth Chelsea, roedd anesthetyddion, ODPs, nyrsys sgryb a rhedwr theatr medrus iawn yn yr ystafell hefyd — mae’n ymdrech tîm gwirioneddol. Ac wrth gwrs, mae yna lawer o dimau ac adrannau na fyddwch chi’n eu gweld ar y rhaglen ond sy’n hollbwysig er mwyn sicrhau bod llawdriniaethau o’r fath yn mynd yn eu blaen.”
Mae’r ysbyty hefyd yn gartref i’r adran fasgwlaidd, sy’n trin cyflyrau sy’n bygwth bywyd ac aelodau o’r corff a achosir gan bibellau gwaed afiach. Mae gan yr adran rai o gyfraddau uchaf yr ysbyty o ran derbyniadau brys ac mae Lewis yn cyrraedd yn gynnar ar fore Llun, yn barod ar gyfer diwrnod llawn o lawdriniaethau wedi’u cynllunio. Ond mae sawl argyfwng wedi codi dros y penwythnos, gan orfodi’r tîm i ganslo pob un o’i lawdriniaethau dewisol namyn un.
John yw’r cyntaf i’r theatr, a gafodd ei dderbyn i’r ysbyty ar frys ar ôl llewygu. Mae bywyd John o dan fygythiad yn sgil ymlediad aortaidd yn yr abdomen, a elwir yn A Driphlyg ac mae angen llawdriniaeth frys arno. Mae Lewis yn ymwybodol faint sydd yn y fantol yn y frwydr i achub bywyd John gan mai’r dyn 74-mlwydd oed yw unig ofalwr ei wraig. Mae Lewis yn gwneud galwad ffôn anodd i siarad â gwraig John gartref, felly mae’n ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r sefyllfa.
Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Lewis: “Bydd y rhaglen yn dangos yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal, a’r pryder aruthrol a brofir yn ystod y cyfnodau llawn straen hyn. Fodd bynnag, bydd hefyd yn dangos pa mor galed y mae staff yn gweithio i ddarparu’r gofal gorau posibl, er gwaethaf y cyfyngiadau sefydliadol y maent yn gweithio oddi tanynt ar hyn o bryd.”
Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Margaret yw’r unig arbenigwr yng Nghymru sy’n dal i gyflawni un llawdriniaeth sy’n newid bywyd yn rhan o’r GIG, sef trin anffurfiant y frest pectus excavatum. Mae’n gyflwr sy’n effeithio ar fechgyn yn bennaf, lle mae asgwrn y fron, yn hytrach na bod yn ar yr un lefel â’r asennau, yn suddo.
Gydag achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael blaenoriaeth yn eu hadran, mae’n golygu bod yn rhaid i Margaret a’i thîm fanteisio ar unrhyw fwlch yn y rhestr theatr ar gyfer llawdriniaeth pectus. Nesaf mae’r chwaraewr rygbi 17 oed Rhys, sydd wedi bod yn aros dwy flynedd am ei lawdriniaeth.
Mae’r cyflwr yn achosi pwysau ar ei galon a’i ysgyfaint ac anawsterau anadlu. Mae hefyd wedi effeithio ar ei hunan-barch a’i iechyd meddwl ers ei fod yn ifanc yn sgil y ffordd y mae’n effeithio ar ei ymddangosiad corfforol. Bydd y llawdriniaeth yn heriol gan mai’r oedran delfrydol ar gyfer llawdriniaeth pectus yw rhwng 14 a 16. Ond mae Margaret, Rhys a’i deulu i gyd yn gobeithio y bydd y llawdriniaeth y mae wedi aros cyhyd amdano, yn trawsnewid ei fywyd.
Esboniodd Margaret: “Fi yw’r unig lawfeddyg yng Nghymru sy’n cyflawni’r math hwn o lawdriniaeth ac roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y gyfres i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, fy adran a’n hysbyty. Roedd hefyd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o rai triniaethau, a gobeithio bod y bennod yn dangos pa mor bwysig yw hi i sicrhau lle i lawdriniaethau fel hyn gan eu bod yn cael effaith ffisiolegol a seicolegol anhygoel ar gleifion fel Rhys.
“Fel llawfeddyg, ni allwn wneud fy ngwaith heb gefnogaeth fy nhîm a phawb sy’n cymryd rhan ar hyd y ffordd ac fe wnaeth y rhaglen ein galluogi i ddangos nad oes unrhyw le i weithio unigol yn y GIG. Mae pawb yn chwarae rhan hynod bwysig drwy gydol y broses gyfan, o glaf sy’n cael ei archwilio ar y cychwyn cyntaf hyd at ar ôl i’r llawdriniaeth ddigwydd. Rydym yn dibynnu cymaint ar y tîm cyfan, ac ni allem fodoli hebddynt.”
Gwyliwch Saving Lives in Cardiff ddydd Mawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer.