Neidio i'r prif gynnwy

Saer coed y BIP Caerdydd a'r Fro â chlefyd Parkinson yn cymryd ymddeoliad cynnar cadarnhaol

02 Mai 2025

Mae Gareth Evans yn cofio'r diwrnod y dechreuodd ei yrfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Gorffennaf 1989 oedd hi, a gollyngodd ei dad ef yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd (CRI).

“Rwy’n cofio ef yn dweud wrtha i, ‘cadw dy drwyn yn lân a bydd gen ti swydd am oes’,” mae Gareth yn cofio. “Doeddwn i ddim yn ei gredu ar y pryd, ond yn wir, 34 mlynedd yn ddiweddarach, cefais fy mhensiwn.”

Gweithiodd Gareth fel Saer Cynnal a Chadw ar draws llawer o safleoedd y bwrdd iechyd, gan gynnwys Rookwood, Lansdowne, CRI, ac Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Roeddwn i wrth fy modd yn bod ar yr offer ac yn caru gwneud yr hyn roeddwn i'n ei wneud - cwrdd â phobl, helpu pobl, a chreu pethau. Doedd dim byd gwell.”

Roedd Gareth hefyd yn frwdfrydig dros rygbi. Trodd at hyfforddi ar ôl i sawl llawdriniaeth ar ei ben-glin ei atal rhag chwarae. “Dyna oedd fy angerdd mewn bywyd. Roeddwn i wrth fy modd â’r teithiau, wrth fy modd â’r sgwrsio, wrth fy modd â phopeth am chwaraeon.”

Ond yng nghanol ei 40au, tua naw mlynedd yn ôl, dechreuodd Gareth brofi problemau iechyd.

“Roedd pethau’n digwydd, a doeddwn i ddim yn ei ddeall. Daw iselder gyda chlefyd Parkinson, ac roeddwn i'n isel fy ysbryd. Dydy llawer o bobl ddim yn hoffi siarad am iselder, ond mae'n rhaid i chi wynebu hynny. Roeddwn i’n dod i'r gwaith ac am ddim rheswm o gwbl roeddwn i'n crio. Doedd dim byd yn gwneud synnwyr.”

Symptom cynnar arall oedd tueddiad i arogli tost.

“Roedd yn rhyfedd,” meddai. “Roeddwn i’n gallu arogli’r arogl llosg hwnnw; arogl hyfryd. Roeddwn i’n dwli arno. Roedd pawb yn meddwl fy mod i'n mynd yn wallgof. Meddyliais, 'Fe wnaf i gadw'n dawel, goddef y peth'. Ar ôl ychydig fisoedd fe wnaeth leddfu rywfaint, ond sylwais fod fy synnwyr arogli’n wael iawn. Dywedodd fy meddyg ymgynghorol, Kathryn Peall, mai un o'r arwyddion cyntaf yw bod pobl yn arogli gwahanol bethau, ac mae tost yn gyffredin.”

Arweiniodd iselder at absenoldeb o'r gwaith am bum mis, rhywbeth y mae'n ei ddisgrifio fel un o adegau isaf ei fywyd. Cyfarfu ei reolwyr ag ef am goffi a'i helpu i ddychwelyd. “Fe wnaethon nhw ddangos tosturi. Ac roeddwn i'n ôl yn y gwaith ar ôl pum mis.”

Ychydig ar ôl dychwelyd sylwodd Gareth ar symptom arall. “Rwy’n cofio sefyll yn y coridor yn y gwaith ac edrychais i lawr ar fy mraich, ychydig uwchben y penelin. Roedd y cyhyr hwnnw'n gwingo, a dechreuais boeni amdano.”

Yn dilyn ymweliad â'r meddyg teulu ac atgyfeiriad at niwroleg, derbyniodd Gareth ei ddiagnosis. “Cefais ddiagnosis o glefyd Parkinson ar yr 21ain o Fedi 2018, 3:50pm yn y prynhawn. Fe wnes i feichio crio. Ond dyna'r dyddiad y dechreuodd pethau wella.”

Gweithiodd Gareth am bum mlynedd arall, gan symud i’r swyddfa i wneud rôl canfod beiau yn yr adran Ystadau. “Cefais bob cymorth,” meddai. “Roedd iechyd a diogelwch yn wych. Popeth roeddwn i'n ei wneud, bydden nhw'n cadw llygad arna i ac yn rhoi cyngor i mi. Roedd fy rheolwyr yn y tîm Ystadau yn wych - pob un ohonyn nhw.”

Yn y pen draw, penderfynodd ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd. “Ystyriais y sefyllfa a meddyliais, wel, mae gen i wyrion. Nawr yw fy amser i oherwydd dw i'n gwybod beth sydd i

ddod. Dyna oedd y penderfyniad iawn. Ac ar hyn o bryd, rydw i'n byw bywyd. Dw i wrth fy modd wedi ymddeol.”

Mae ei gyflwr wedi gwaethygu, ac mae rhai dyddiau'n anodd. “Rwy’n cael llawer o dystonia, dyspracsia, crampiau, haint. Ambell ddydd, os nad ydw i'n cymryd fy nhabledi, alla i ddim hyd yn oed cerdded. Cefais bwl o dyspracsia bach pan oeddwn i'n cerdded y ci ac roeddwn i'n sownd yn y cae, yn y glaw am 40 munud cyn i mi allu ymlacio digon i ddechrau cerdded eto. Fy mai i yn unig oedd hynny oherwydd anghofiais gymryd fy nhabledi y bore hwnnw.”

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae Gareth yn parhau i fod yn actif. Mae wedi dechrau chwarae golff a bocsio trwy elusennau clefyd Parkinson. “Mae’n dda i mi oherwydd ei fod yn ymarfer corff ac mae symudiadau mawr yn dda ar gyfer clefyd Parkinson. Taro’r bêl, mae'n symudiad mawr. Mae'r cyfan yn dda.”

Mae hefyd wedi codi arian sylweddol ar gyfer elusennau clefyd Parkinson trwy gwisiau, marathonau a gemau rygbi.

“Maen nhw'n dweud nad yw'n etifeddol, ond dw i'n poeni am fy mhlant. Dyma pam rwy'n hoffi codi arian i’r elusen, oherwydd efallai na fyddaf yn dod o hyd i iachâd yn fy amser i. Rydw i eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n dod o hyd i iachâd i'r plant yn y dyfodol. Oherwydd gall unrhyw un ei gael.”


Ddydd Sul, 4ydd o Fai, bydd Gareth yn ymgymryd â'i ymdrech codi arian ddiweddaraf: digwyddiad eillio’r pen a wacsio noddedig mewn diwrnod hwyl yn y Malsters Arms yn Whitchurch. “Rydyn ni’n gobeithio codi llawer o arian a dyma’r peth hawsaf i mi erioed orfod ei wneud - eistedd yno a gadael i rywun eillio fy mhen. Mae pobl yn gofyn, 'onid wyt ti'n poeni am edrych yn dwp?' Ond rydw i wedi edrych yn dwp ers amser maith. Rwy'n cerdded o gwmpas yn ysgwyd, ac rwy'n crynu weithiau. Felly, dydy e ddim yn fy mhoeni i!”


Ar hyn o bryd mae tua 8,300 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd Parkinson, cyflwr niwrolegol cynyddol sy'n deillio o ddiffyg dopamin yn yr ymennydd. Gyda symptomau echddygol fel crynu, stiffrwydd, arafrwydd symud a symptomau nad ydynt yn echddygol sy’n llai cyffredin fel anhwylderau cwsg, problemau cof, rhwymedd, ymhlith eraill, mae rheoli clefyd Parkinson yn effeithiol yn gofyn am ddull cydweithredol gan ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i helpu pobl i reoli'r cyflwr.

Mae'r Gwasanaeth Clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnwys nid yn unig meddygon ymgynghorol ac arbenigwyr nyrsio, ond hefyd deietegwyr, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a thîm seicoleg, sy'n cynnwys seicolegydd clinigol, seicolegydd cynorthwyol a seicolegydd dan hyfforddiant, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal cyfannol wedi'i bersonoli. Darllenwch fwy am Gwasanaeth Clefyd Parkinson yma.

Dilynwch ni