Bydd trydedd bennod Saving Lives in Cardiff yn cael ei darlledu ar BBC One Wales a BBC Two ddydd Mawrth yma—gan ddatgelu’r penderfyniadau torcalonnus, anodd y mae’n rhaid i lawfeddygon eu gwneud cyn mynd i’r afael â’r gwaith beunyddiol o newid bywydau pobl.
Bydd y bennod yn cyflwyno'r llawfeddyg asgwrn cefn Mr Mike McCarthy a Brody, 15 oed, sydd â scoliosis. Mae Mike a'i dîm wedi trin Brody ers yn bump oed ac yn gobeithio cynnal ei 15fed llawdriniaeth - a'r llawdriniaeth olaf - i sythu ei asgwrn cefn.
Fodd bynnag, dim ond os oes gwely dibyniaeth uchel ar gael y gall llawdriniaeth Brody fynd yn ei blaen, ac mae wedi cael ei chanslo bedair gwaith yn ystod y 18 mis diwethaf. Fel yr unig ysbyty plant arbenigol yn y wlad, mae Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru wedi gweld cynnydd mewn achosion brys ac mae teulu Brody yn ofni y gallai ddigwydd eto.
Wrth siarad am gymryd rhan yn y gyfres, dywedodd Mike: “Roedd yn gyfle gwych i fod yn rhan o’r gyfres ac arddangos y gwaith rydym yn ei wneud ar gyfer cleifion scoliosis pediatrig. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod ffocws ar hyd rhestrau aros, mewn scoliosis pediatrig rydym yn rhoi blaenoriaeth i faint y plyg yn yr asgwrn cefn — nid rhestrau aros. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y cleifion sy’n wynebu’r risg fwyaf ac sydd angen triniaeth ar frys.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n eithriadol o galed i addasu ac optimeiddio’r gwasanaeth scoliosis pediatrig a gynigir i gleifion, a thrwy fuddsoddi mewn adnoddau priodol, rydym wedi llwyddo i gyflwyno mwy o gapasiti mewn theatrau a lleihau ein rhestr aros.”
Draw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae tîm arbenigol y genau a'r wyneb yn cynnig gwasanaeth eang ar gyfer pob llawdriniaeth y geg neu'r genau a’r wyneb. Yn y bennod hon, blaenoriaeth y llawfeddyg y genau a’r wyneb ymgynghorol Mr Cellan Thomas yw Maham, 19 oed, y mae ei bywyd wedi newid yn llwyr ers cael gwybod fod yr hyn a edrychai fel lwmp bach ar ei hwyneb yn dyfiant prin ac ymosodol yn ei gên.
Mae cyd-lawfeddyg y genau a’r wyneb Mr Drazsen Vuity yn ymuno â Cellan ac mae dau dîm theatr arbenigol wedi’u rhoi at ei gilydd ar gyfer llawdriniaeth naw awr a fydd yn gweld hanner gên Maham yn cael ei thynnu cyn i’w hwyneb gael ei ailadeiladu gan ddefnyddio asgwrn a phibellau gwaed wedi’u tynnu o’i choes.
Wrth siarad am y bennod, dywedodd Drazsen: “Roedd bod yn rhan o’r rhaglen ddogfen yn gyfle i ni, fel arbenigedd cymharol fach, amlygu gwaith y tîm a’r hyn y gallwn ei gyflawni i gleifion, gan nad oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei wneud.”
Ychwanegodd Cellan: “Rydym yn aml yn cydweithio ac yn gwneud llawdriniaeth ar safleoedd deuol ar yr un pryd; un ar y pen a'r gwddf a'r llall ar safle'r rhoddwr. Nid yw’n ymwneud â ni fel meddygon ymgynghorol yn unig, mae’n ymwneud â’r tîm cyfan, a heb yr ymdrech hon byddai’n ymestyn y llawdriniaeth ac ni fyddem yn gallu darparu’r gofal sydd ei angen ar ein cleifion a dyna’r peth pwysicaf.”
Yn y cyfamser, mae'r llawfeddyg oncoleg gynaecolegol Ms Aarti Sharma yn ymladd i roi mwy o amser gyda'i theulu i fam â phedwar o blant sydd â chanser nad oes modd ei wella. Mae pob claf â chanser yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer llawdriniaeth pan fyddant ar y rhestr aros ac un o’r penderfyniadau anoddaf i dîm Aarti yw dewis rhwng blaenoriaethu cleifion â chanser y gellir ei drin a’r rhai â diagnosis terfynol, y gallai llawdriniaeth gynnig ansawdd bywyd hirach neu well iddynt. .
Mae Shelley, 41 oed, wedi cael diagnosis o ganser terfynol yr abdomen. Gwnaeth Shelley – sydd hefyd ar fin priodi ei phartner ers 20 mlynedd – golli ei mam a’i modryb i ganser ac mae wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau ei risgiau ond yn anffodus, mae ganddi ganser cam pedwar. Gobaith Aarti yw y gallai llawdriniaeth roi ychydig yn fwy o amser gwerthfawr i Shelley gyda'i theulu - ni waeth pa mor hir y bydd hynny.
Dywedodd Arti: “Rydym yn aml yn cyfarfod â chleifion ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau ac mae empathi a charedigrwydd yn rhan sylfaenol o'r hyn a wnawn. Roedd yn bwysig i ni gymryd rhan yn y rhaglen ddogfen gan ei fod yn rhywbeth yr oedd y claf am ei wneud i rannu ei thaith, ond roedd hefyd yn ein galluogi i godi ymwybyddiaeth o'n harbenigedd a'r hyn y gellir ei wneud i gleifion.
“O fewn oncoleg gynaecolegol, rydyn ni’n dîm bach, clos wedi ein rhwymo’n dynn, gyda phawb o staff clinigol i staff ysgrifenyddol yn cydweithio i wneud ein gorau glas dros ein cleifion. Rydym i gyd yn gweithio’n anhygoel o galed, ac mae’r rhaglen ddogfen yn gyfle i ddangos faint y mae’n rhaid inni ei wneud, a beth arall sydd i’w wneud.
“Hyd yn oed i bobl nad ydynt ar restr aros, byddai ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o hyn o’r newyddion, ond bydd y rhaglen ddogfen hon yn helpu i beintio darlun realistig o’r hyn sy’n digwydd yn y GIG a pha heriau a chymhlethdodau sy’n ein hwynebu bob dydd.”
Gwyliwch Saving Lives in Cardiff bob dydd Mawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer.