Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ail-lansio ein Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded

13 Chwefror 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ail-lansio’r Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded er mwyn helpu i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol wrth ailddosbarthu offer i’r gymuned.

Wrth gael gofal yn un o’n safleoedd ysbytai, bydd pâr o faglau, ffon gerdded neu ffrâm gerdded ar gael i rai cleifion. Ond beth sy’n digwydd i’r cymhorthion cerdded hyn pan nad oes eu hangen mwyach? 

Fel rhan o’n hymrwymiad i ailgylchu ac atal cymhorthion cerdded diangen rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi, mae parthau gollwng ar gyfer offer meddygol wedi’u sefydlu ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg lle gall staff cymorth ein tîm Ffisiotherapi lanhau ac adnewyddu eitemau nad oes eu heisiau. 

Yn 2021, llwyddodd tîm y gwasanaeth cymhorthion cerdded i ailgylchu dros 1,500 o fframiau cerdded a 2,000 pâr o faglau a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Roedd hyn yn cyfateb i werth tua £28,000 o offer ond dim ond yn cyfrif am 50% o gymhorthion cerdded a roddwyd. 

Eleni, gyda chymorth ein cymuned leol, rydym yn gobeithio y bydd y Cynllun Ailgylchu Cymhorthion Cerdded yn parhau i ddarparu ateb cynaliadwy ar gyfer offer diangen. Trwy gydweithio, gallwn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd lleol drwy ddewis ailgylchu ac ailddefnyddio. 

Mae’r cynllun hwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Prawf Carchardai EM, sy’n darparu cefnogaeth ychwanegol i lanhau ac adnewyddu’r offer hwn wrth gael cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gwaith ystyrlon ac i ddatblygu sgiliau. 

Mae parthau gollwng wedi’u lleoli ym mhob adran Ffisiotherapi ar draws Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys: 

  • Storfa Offer ar y Cyd, Parc Busnes Caerdydd, Uned 2-3 Lambourne Crescent, Llanisien, CF14 5PW 

  • Storfa Offer ar y Cyd, Ystâd Ddiwydiannol West Point, Uned 5b, Heol Penarth, Caerdydd, CF11 8JQ 

  • Cleifion Allanol Ffisiotherapi, Llawr 1, Adain Glan-y-Llyn, YAC, Caerdydd, CF14 4XW 

  • Prif Gyntedd, YAC, Caerdydd, CF14 4XW 

  • Cleifion Allanol a Derbynfa, YALl, Heol Penlan, Llandochau, CF64 2XX 

  • Prif Fynedfa, Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH 

  • Prif Fynedfa, Ysbyty Dewi Sant, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9XB 

  • Prif Fynedfa, Ysbyty Rookwood, 18-20 Heol y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2YN 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen we Gwasanaeth Cymhorthion Cerdded

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Rob Skellett ar 01443 661759. 

Os hoffech ddychwelyd unrhyw offer meddygol arall yn ogystal â chymhorthion cerdded, ffoniwch Storfa Offer ar y Cyd BIP Caerdydd a’r Fro: 

  • 02920873669 ar gyfer Gogledd a Dwyrain Caerdydd 

  • 02920712555 ar gyfer ardaloedd y De, Gorllewin a’r Fro 

Os hoffech ddychwelyd cadair olwyn, ffoniwch y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ar 02920313905. 

Dilynwch ni