Yn y bumed bennod o Saving Lives in Cardiff, rydym yn dilyn tri llawfeddyg arall a'u timau wrth iddynt gynnal llawdriniaethau cymhleth a gwneud penderfyniadau pwysig am ofal cleifion.
Yn yr uned niwrolawdriniaeth, mae'r meddyg ymgynghorol George Eralil yn paratoi i roi llawdriniaeth i Mark, 65 oed, sydd wedi bod yn byw gyda niwralgia trigeminol—cyflwr cronig a ddisgrifir yn aml fel un o'r rhai mwyaf poenus y gwyddys amdanynt mewn meddygaeth.
Gall y boen y mae Mark wedi ei dioddef ers 16 mlynedd, daro ar unrhyw adeg ac mae wedi effeithio ar ei allu i fwyta, brwsio ei ddannedd a byw'n annibynnol. Mae angen i George roi llawdriniaeth yn ddwfn y tu mewn i ymennydd Mark gan wybod bod risg o strôc.
Bydd canlyniad y llawdriniaeth yn newid bywyd Mark. Wrth ddisgrifio effaith y llawdriniaeth, mae'n dweud bod George wedi newid ei fywyd ac yn ychwanegu, “Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i'r dyn hwnnw, dim byd ond canmoliaeth. Byddwn i'n rhoi pob ceiniog o’m cyfrif banc iddo am yr hyn sydd wedi digwydd i mi nawr.” I George, eiliadau fel y rhain sy'n rhoi ystyr i'w swydd: “Ydy, mae'n swydd, ond pan fydd y swydd honno'n ymwneud â bywyd rhywun arall, mae'n gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Yn y cyfamser, yn yr uned orthopedeg, mae'r llawfeddyg ymgynghorol Chris Wilson yn wynebu rhestr lawfeddygol lawn gyda phedair llawdriniaeth eisoes wedi'u trefnu. Mae'n gobeithio ychwanegu pumed i Laura, claf 28 oed sydd â choes wedi'i throi, sy'n achosi poen difrifol a phroblemau symudedd.
Wrth fyfyrio ar ei ddegawdau o brofiad, mae'n dweud, “Yn ystod fy oes, rydw i wedi gweld y GIG yn gwneud pethau gwych. Heb ofyn unrhyw gwestiynau, a heb ofyn am unrhyw arian, mae cleifion yn dod i mewn ac yn gweld eu bywydau'n gwella'n aruthrol. Rydw i wedi bod yn falch iawn o fod yn y sefydliad ac o weithio gyda phobl wych ar bob cam. Rydw i wedi gwneud 40 mlynedd; rydw i wrth fy modd â'r swydd a dydw i ddim yn barod yn emosiynol i orffen.”
Hefyd yn y bennod hon mae'r llawfeddyg thorasig Tom Combellack, sy'n rhoi llawdriniaeth i’r gyrrwr lori 50 oed, Chris, sydd wedi cael diagnosis o diwmor niwroendocrin mawr yn ei frest. Gan fesur 13cm ac yn pwyso yn erbyn ei galon, mae'r tiwmor yn cyflwyno her brin a difrifol.
Mae Tom yn siarad am y cymhelliant craidd sy'n ei gadw ef a'i gydweithwyr i fynd, gan ddweud, er gwaethaf yr holl straen arall a'r holl broblemau eraill, helpu'r cleifion hynny yw'r hyn sy'n cymell bob un ohonynt i ddod i'r gwaith bob dydd. “Mae'n sefyllfa freintiedig iawn rydyn ni ynddi, o ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac mae'n yrfa werth chweil iawn.”
Gwyliwch Bennod 5 o Saving Lives in Cardiff nos Lun 5 Mai ar BBC One Wales, a nos Fercher 7 Mai ar BBC Two.
Gallwch wylio pob pennod o gyfres gyntaf ac ail gyfres Saving Lives in Cardiff ar BBC iPlayer.
Os yw’r themâu sy'n ymddangos yn y bennod hon wedi effeithio arnoch, byddem yn eich annog i edrych ar dudalennau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, lle gallwch ddod o hyd i adnoddau ar-lein a gwybodaeth am sut i gael mynediad at gymorth yn eich cymuned.