26.08.2024
Bydd ail bennod Saving Lives in Cardiff yn darlledu ar BBC One Wales a BBC Two ddydd Mawrth (27 Awst) ac yn cyflwyno tri llawfeddyg anhygoel arall, straeon cleifion, a thimau amlddisgyblaethol medrus iawn.
Mae adran gardioleg Ysbyty Athrofaol Cymru yn gwasanaethu poblogaeth o bron i 1.5m o bobl, a blaenoriaeth y llawfeddyg cardiaidd, Dheeraj Mehta yw Malcolm, gweithiwr rheilffordd 65 oed wedi ymddeol.
Ar ôl profi poen annioddefol yn ei frest, aeth Malcolm mewn tacsi i'r Uned Achosion Brys, heb wybod ei fod yn cael trawiad difrifol ar ei galon. Datgelodd profion helaeth niwed difrifol i galon Malcolm a'i unig opsiwn yw llawdriniaeth risg uchel sy’n rhoi dim ond 40% o siawns o oroesi.
Bydd y llawdriniaeth yn cymryd o leiaf ddeg awr ac mae angen i Dheeraj a'i dîm atal calon Malcolm wrth iddynt ailosod falf, yn ogystal â chynnal pum llawdriniaeth ddargyfeiriol - yr uchafswm y gallant ei wneud - i ddargyfeirio gwaed o amgylch ei rydwelïau heintiedig. Bydd yn gyfnod gofidus iawn o aros i wraig Malcolm a’i deulu tra ei fod yn y theatr, ond mae Dheeraj yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i roi gobaith o ddyfodol i Malcolm.
Er bod hwn yn ddiwrnod arferol i Dheeraj a'i dîm, bydd gwylwyr yn cael cipolwg unigryw ar lawdriniaethau critigol a medrus iawn y mae clinigwyr yn eu cyflawni bob dydd - a'r penderfyniadau a wneir i sicrhau bod llawdriniaethau critigol o ran amser yn cael eu blaenoriaethu.
Wrth siarad am y bennod, dywedodd Dheeraj: “Rwy’n gobeithio mai un o’r pethau mae’r ffilmio wedi’i ddangos yw nad yw’n ymdrech unigol, mae’r cyfan rydyn ni’n ei wneud yn ymdrech tîm. Rydyn ni'n dibynnu'n llwyr ac yn gyfan gwbl ar wahanol aelodau fy nhîm. Nid yn unig y llawfeddygon, ond yr Anesthetyddion, Staff Darlifo, Staff Sgryb, Personél Theatr Perthynol ond hefyd y timau ehangach sy’n gofalu am y cleifion ar y ward ac mewn ardaloedd gofal dwys.”
“Rwy’n meddwl mai’r agwedd sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw gweld y gwahaniaeth y gall llawdriniaeth gardiaidd ei gael ar ansawdd bywyd claf. Mae ganddyn nhw gyflyrau sylweddol iawn a allai fod yn fygythiad i fywyd cyn y llawdriniaeth, ac mae gennym ni gyfle i newid hynny’n ddramatig iawn iddyn nhw, a hefyd i’w teuluoedd a’u cymunedau estynedig.”
Yn y maes offthalmoleg, mae Adam, 29 oed, ar fin cael ei unfed llawdriniaeth ar ddeg mewn tair blynedd. Dioddefodd Adam ymosodiad dinistriol a digymell a wnaeth achosi anafiadau trychinebus i'w ymennydd, a oedd yn golygu bod angen iddo ddysgu cerdded eto. Cafodd ei olwg ei niweidio'n wael hefyd ac mae'n gobeithio y bydd y llawdriniaeth olaf hon yn adfer ei olwg. Gan ei fod methu â dychwelyd i'w swydd fel trydanwr oherwydd ei olwg cyfyngedig, mae Adam bellach yn gwirfoddoli ar y ward niwrolawdriniaeth lle treuliodd sawl mis fel claf.
Yr arweinydd clinigol, yr offthalmolegydd ymgynghorol Magdalena Popiela sy'n cynnal y driniaeth. Mae Magda yn arbenigo mewn llawdriniaeth ar y gornbilen a segment blaen y llygad, sy'n golygu ei bod hi'n bennaf yn gofalu am ran blaen y llygad.
Wrth siarad am ei rhan yn y rhaglen, dywedodd Magda: “Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn Saving Lives in Cardiff yn gyntaf i dynnu sylw at y ffaith bod gennym ni is-arbenigeddau gwahanol o fewn y tîm offthalmoleg. O fewn yr uned llygaid mae cyfanswm o 14 o feddygon ymgynghorol, pob un yn is-arbenigo mewn gwahanol feysydd. Er mai organ fach yw'r llygad, mae'n eithaf cymhleth ac oherwydd datblygiadau yn y ffordd y caiff clefydau'r llygaid eu trin a'r llu o weithdrefnau llawfeddygol, mae pob un o'r meddygon ymgynghorol yn gofalu am wahanol rannau o'r llygad. Yn sicr ni allwn wneud fy swydd heb y tîm anhygoel sydd gennyf o'm cwmpas a rhaid diolch yn arbennig i'm hysgrifennydd, fy nghydlynydd rhestr a'r nyrsys sgryb a fu'n ymwneud â'm llawdriniaethau.
“Yn ail, rwyf am godi ymwybyddiaeth o drawsblaniadau’r cornbilen a’r angen i roi meinwe’r cornbilen. Mae prinder deunydd cornbilen ar draws y DU ac mae cleifion yn aros yn hir am eu llawdriniaeth i achub golwg. Rwyf am wneud gwylwyr yn ymwybodol o’r posibilrwydd a’r angen i roi llygaid—rwy’n mawr obeithio y bydd rhai yn ystyried rhoi eu llygaid os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Cafodd dau o'm cleifion yn y gyfres drawsblaniad cornbilen o feinwe a roddwyd. Gall rhoi cornbilenni roi rhodd golwg i rywun.”
Draw yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru —yr unig ysbyty plant penodedig yn y wlad, mae’r llawfeddyg gastroberfeddol pediatrig ymgynghorol Oliver Jackson yn wynebu brwydr. Ynghanol diwrnod theatr llawn dop, un o’i brif flaenoriaethau yw Jasmine, 17 wythnos oed, sydd wedi bod yn aros traean o'i bywyd byr am lawdriniaeth ar y coluddyn.
Jasmine yw'r lleiaf o dripledi ac fe'i ganed yn gynamserol yn pwyso dim ond 600g. Mae hi wedi treulio ei bywyd cyfan yn yr ysbyty ac wedi cael ei gwahanu oddi wrth ei chwiorydd ers iddi gael ei geni. Byddai'r llawdriniaeth olaf hon yn golygu y gall hi ddychwelyd adref o'r diwedd a chael cwrdd â'i chwiorydd.
Mae'r tîm nyrsio yn cael trafferth dod o hyd i wely dibyniaeth uchel ar gyfer babi Jasmine, a heb un, ni all y llawdriniaeth fynd yn ei blaen. Mae Oliver yn pwysleisio pa mor uchel yw'r risgiau os caiff llawdriniaeth Jasmine ei gohirio ymhellach ac mae'n ymdrech tîm gwirioneddol i sicrhau y gall llawdriniaeth Jasmine fynd yn ei blaen. Wrth i’r oriau fynd heibio, mae’r uwch nyrsys yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i ateb, ond gyda’r realiti difrifol “dim gwelyau ym Mhrydain” sy’n amlwg iawn yn yr ysbyty y diwrnod hwnnw, does dim llawer o siawns ganddynt.
Wrth siarad yn ystod y rhaglen, dywedodd Oliver: “Rwy’n falch iawn o weithio i’r GIG, ac rwy’n meddwl ei fod oherwydd y bobl rwy’n gweithio gyda nhw. Byddwn yn cael trafferth gwneud unrhyw beth hebddynt.
“Mae’r gwobrau o’r swydd hon yn drech o lawer na’r pethau negyddol a dwi’n meddwl mai dyma pam rydw i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud.”
Gwyliwch Saving Lives in Cardiff bob dydd Mawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer.
Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi pob ward, adran, ysbyty, gwasanaeth cymunedol a maes ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro drwy ddilyn y ddolen hon.