Neidio i'r prif gynnwy

'Rwy'n byw gyda ffeibrosis systig ac yn hyfforddi i rwyfo 3,200 o filltiroedd ar draws Môr yr Iwerydd'

23 Mai 2024

Mae claf â ffeibrosis systig yn anelu at ddod y person cyntaf â'r clefyd prin i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd.

Bydd Sophie Pierce, ynghyd â dwy fenyw arall, yn treulio tua 60 diwrnod yn rhwyfo 3,200 milltir o Lanzarote i Antigua i godi arian hanfodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig, Emily's Entourage a Paul Sartori Hospice at Home.

Nid yn unig y bydd yn rhaid iddi ymgodymu â thonnau cefnfor enfawr, unigedd a blinder llethol, bydd yn rhaid iddi hefyd reoli ei ffeibrosis systig - gan gynnwys ei threfn feddyginiaeth gaeth - ar fwrdd y cwch cefnfor 10m o hyd.

Mae’r ddynes 31 oed wedi bod o dan ofal Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ers dros ddegawd, a’i thîm amlddisgyblaethol sy’n gyfrifol am ei chyflwr sefydlog a’i mynediad at gyffur arloesol o’r enw Kaftrio.

“Wrth wneud y rhwyfo, rydw i eisiau dangos bod pobl â ffeibrosis systig yn gallu gwthio eu hunain - a gwneud mwy nag y mae cymdeithas yn dweud wrthyn nhw y gallan nhw,” meddai. “Mae ffeibrosis systig yn salwch llym iawn i fyw gydag ef, ac felly mae'r bobl rydw i wedi dod ar eu traws â'r cyflwr ymhlith y rhai mwyaf gwydn rydw i erioed wedi cwrdd â nhw.”

Cafodd Sophie, o Hwlffordd, ddiagnosis o ffeibrosis systig yn ddim ond tri mis oed. Mae'r cyflwr a allai gyfyngu ar fywyd yn achosi i'r ysgyfaint a'r system dreulio gael eu llenwi â mwcws gludiog, gan ei gwneud hi'n anodd anadlu a threulio bwyd.

“Po hiraf yr oeddwn yn byw gyda ffeibrosis systig, y mwyaf o heintiau ar y frest yr oeddwn yn eu cael,” esboniodd. “Mae hynny wedi achosi creithiau ar fy ysgyfaint sy’n arwain at niwed anwrthdroadwy i’r ysgyfaint. Erbyn i mi gyrraedd canol fy 20au roeddwn i’n dod i’r ysbyty dair i bum gwaith y flwyddyn, am bythefnos ar y tro, yn cael gwrthfiotigau mewnwythiennol ac roedd iechyd fy ysgyfaint yn dal i ddirywio.”

Drwy gydol ei bywyd, mae Sophie wedi gorfod defnyddio nebiwleiddwyr i helpu i glirio mwcws ei hysgyfaint a chymryd rhwng 20 a 30 o gyffuriau y dydd. “Mae'n rhaid i mi hefyd gymryd tabledi bob tro rwy'n bwyta oherwydd nid yw fy mhancreas yn gweithio'n iawn,” ychwanegodd.

Fodd bynnag, yn 27 oed, newidiodd pethau er gwell i Sophie. Diolch i'r tîm ymchwil yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, cafodd fynediad i dreial ar gyfer y cyffur Kaftrio sydd wedi gwella ei hiechyd cyffredinol ac ansawdd ei bywyd yn aruthrol.

“Mae nifer y triniaethau sydd eu hangen arnaf wedi lleihau’n sylweddol, ac mae fy iechyd yn llawer mwy sefydlog nawr. Bellach rwy’n cael gwrthfiotigau yn yr ysbyty efallai unwaith y flwyddyn ar y mwyaf, ac o ddydd i ddydd mae fy iechyd yn llawer mwy rhagweladwy.”

Mae gan Sophie fynediad at dîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, gan gynnwys nyrsys arbenigol, staff wardiau, ffisiotherapyddion, meddygon ymgynghorol, deietegwyr, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr.

“Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen arnaf i fyw cystal ag y gallaf gyda ffeibrosis systig,” meddai. “Mae’r staff yn anhygoel, ac rydw i wedi adnabod llawer ohonyn nhw ers i mi ddefnyddio’r ganolfan gyntaf yn 18 oed. Mae llawer ohonyn nhw dwi nawr yn eu hystyried yn ffrindiau.”

Ym mis Ionawr 2025, bydd Sophie yn cychwyn ei thaith i rwyfo’r Iwerydd ochr yn ochr â’i chyd-aelodau o Glwb Rhwyfo Neyland, Janine Williams (a fydd yn 70 oed pan fydd yr her yn dechrau) a Polly Zipperlen – ac mae’r hyfforddiant eisoes wedi dechrau o ddifrif.

“Mae'n rhaid i ni baratoi ein hunain i fod yn rhwyfwyr cefnfor a dod yn gorfforol ffit ar gyfer yr her. Ar ben hynny, mae'n rhaid i ni ystyried fy mod yn byw gyda ffeibrosis systig a sut y byddaf yn llwyddo i ofalu am fy hun mewn amgylchedd anodd iawn,” meddai.

“Bydd gennym ni oergell ar y cwch rhwyfo cefnfor ar gyfer un o fy meddyginiaethau, a’r unig bŵer fydd gyda ni yw pŵer solar. Bydd yn rhaid i mi wneud fy nebiwlyddion dyddiol o hyd a chymryd fy holl feddyginiaethau yn ystod y rhwyfo.”

Eglurodd Sophie y bydd y cwch mewn perygl o droi drosodd pan fydd y tonnau ar eu mwyaf. “Mae marlyniaid hefyd yn hoffi gwneud tyllau mewn cychod, sydd ddim yn ddelfrydol o ystyried y byddwn ni yng nghanol yr Iwerydd, ar ein pennau ein hunain, yn gorfod delio â thrwsio cwch i'n hatal rhag suddo,” meddai.

“Mae chwe deg diwrnod wedi’i gyfyngu i gwch 10m o hyd yn amser hir i fod i ffwrdd o gysuron cartref. Mae angen i’n cyfathrebu, a’n morâl, fod yn dda drwyddi draw.”

Un o’r clinigwyr sy’n gofalu am Sophie yng Nghanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yw Jamie Duckers, sydd hefyd yn Arweinydd Arbenigol Anadlol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn Arweinydd Clinigol ar gyfer Clefydau Prin ledled Cymru.

“Mae Sophie yn enghraifft ryfeddol o sut nad yw clefyd prin fel ffeibrosis systig yn eich atal rhag dod y cyntaf yn y byd i gyflawni rhywbeth,” meddai.

“Mae hi wedi cymryd rhan mewn amryw o astudiaethau ymchwil ffeibrosis systig gan gynnwys treialu cyffuriau newydd, gofal ac offer i helpu i wella bywyd y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr heddiw ac yn y dyfodol.

“Yn aml ni fyddai plant a anwyd â ffeibrosis systig yn y 1940au yn cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf. Nawr, diolch i rym y gymuned ffeibrosis systig, datblygiadau mewn gofal, data ac ymchwil sy’n achub bywyd fel ein un ni, disgwylir i bobl a anwyd â'r cyflwr heddiw fyw bywyd llawn a chynllunio eu hymddeoliad.

“Yng Nghanolfan Ffiebrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, rydym yn agor treialon therapi genetig ac wedi bod wrth wraidd treialon ymchwil arloesol o gyffuriau newydd a thechnolegau deallusrwydd artiffisial a allai ragweld symptomau anadlol sy’n gwaethygu cyn i gleifion a thimau clinigol ddod yn ymwybodol ohonynt.

“Rydyn ni wedi dod mor bell ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud o hyd, ac rydyn ni’n dibynnu ar bobl fel Sophie i godi ymwybyddiaeth a chymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil i helpu gyda’n datblygiadau.”

I gael rhagor o wybodaeth am her Sophie a’i thîm, o’r enw Cruising Free, edrychwch yma neu yma. I ddarganfod mwy am y Ganolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau edrychwch yma.

Dilynwch ni