Neidio i'r prif gynnwy

'Roeddwn i'n byw gyda hepatitis C heb yn wybod am 20 mlynedd - mynnwch brawf os ydych chi'n meddwl eich bod mewn perygl'

17 Medi 2024

Pan gafodd Andrew Eadie datŵ ar ei fraich dde tua 20 mlynedd yn ôl, ychydig a wyddai am y difrod y byddai'n ei achosi iddo yn ddiweddarach mewn bywyd.

Aeth i weld ei feddyg teulu ym mis Ebrill 2022 am ei fod yn amau fod ganddo haint ar y frest, a dywedwyd wrtho fynd i Ysbyty Athrofaol Cymru pan ddechreuodd y meddyg boeni mwy am y chwydd sylweddol ar ei stumog.

Yn dilyn profion gwaed, cadarnhawyd bod Andrew wedi bod yn byw gyda sirosis yr afu wedi’i achosi gan hepatitis C, feirws sy’n cael ei ledaenu trwy gyswllt gwaed-i-waed.

“Roedd yn sioc o’r mwyaf” meddai ei wraig, Julie Eadie. “Roeddwn i wedi clywed am hepatitis C o’r blaen, ond doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano, sut mae’n effeithio ar bobl na sut mae pobl yn ei gael yn y lle cyntaf.

“Ar ôl trafodaethau gyda’r meddygon ymgynghorol, fe sylweddolon ni mai’r unig ffordd y gallai fod wedi’i gael oedd trwy waed heintiedig o’r gynnau tatŵ yr oedd wedi’u defnyddio rhyw 20 mlynedd yn ôl. Roedd y feirws yn cuddio, yn aros i godi ei ben. ”

Gelwir hepatitis C yn aml yn “llofrudd distaw” gan nad yw llawer o bobl yn sylweddoli bod ganddyn nhw’r clefyd hyd nes iddyn nhw gael diagnosis o sirosis yr afu, clefyd yr afu cam olaf, neu hyd yn oed canser yr afu.

Yn achos Andrew, fe allai’r feirws yn hawdd fod wedi ei ladd - ond diolch i gynllun meddyginiaeth llym roedd yn glir o’r haint o fewn ychydig wythnosau.

Ychwanegodd Julie, sy’n byw yn y Barri ac yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai: “Ni allaf ddiolch digon i’r GIG. Gwnaeth y meddygon ymgynghorol ymateb ar unwaith a chafodd fasged enfawr o feddyginiaeth i gymryd dros 12 wythnos. Yn wythnos wyth fe sylwon nhw fod ei hepatitis C wedi diflannu, sy'n anhygoel.

“Gallai’r feirws fod wedi cael ei drosglwyddo i mi hefyd, a oedd yn frawychus, ond diolch byth fe gefais brawf negatif.”

Mae Andrew, a fu’n gweithio fel llawfeddyg coed cyn mynd yn sâl, wedi annog eraill sy’n ofni y gallent fod mewn sefyllfa debyg i gael prawf hepatitis C.

“Ewch i gael prawf er mwyn cael tawelwch meddwl” meddai. “Gallai fod yna lawer o bobl sy’n byw gyda hepatitis C nad ydyn nhw’n gwybod bod ganddyn nhw’r clefyd.”

Amcangyfrifir bod 8,000 o bobl yn byw gyda hepatitis C yng Nghymru. Nid oes gan lawer o bobl sydd â'r feirws unrhyw symptomau nes bod eu hafu wedi cael ei niweidio’n gynyddol.

Mae’r symptomau, er nad ydyn nhw bob amser yn glir, yn gallu cynnwys:

  • Symptomau tebyg i ffliw fel poenau yn y cyhyrau a thymheredd uchel (twymyn)
  • Teimlo wedi blino drwy’r amser
  • Dim chwant bwyd
  • Poen yn yr abdomen (stumog)
  • Teimlo eich bod yn mynd i chwydu, neu chwydu

Er ei bod yn hysbys bod tatŵio a thyllu’r corff gan ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio yn lledaenu hepatitis C, y brif ffordd o’i ledaenu yw drwy rannu offer cyffuriau. Mewn achosion prin, gellir ei drosglwyddo hefyd trwy gyswllt rhywiol neu o'r fam i'r babi cyn neu yn ystod genedigaeth.

Mae’r bobl sydd â’r risg uchaf o gael hepatitis C yn cynnwys:

  • Y rhai a gafodd drallwysiadau gwaed neu gynhyrchion gwaed cyn 1996
  • Trosglwyddiad mam i fabi, er bod y risg yn isel
  • Y rhai a aned mewn gwledydd lle ceir nifer uchel o achosion fel De-ddwyrain Asia, Tsieina, Affrica Is-Sahara a Basn yr Amazon,  Dwyrain a De Ewrop, y Dwyrain Canol, neu'r rhai a deithiodd ac a dderbyniodd driniaeth ddeintyddol neu feddygol yn yr ardaloedd hyn
  • Y rhai sydd wedi chwistrellu neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon ac wedi rhannu offer fel nodwyddau, llwyau, papurau, gwellt a phadelli
  • Y rhai a gafodd gyfathrach rywiol heb ddiogelwch Mae pobl sy'n wynebu risg uwch yn cynnwys dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM), yn dibynnu ar arferion rhywiol a'r defnydd o 'gyffuriau parti'
  • Y rhai sydd wedi cael tatŵs neu dyllau mewn llefydd didrwydded
  • Y rhai sy'n chwistrellu cyffuriau sy'n gwella delwedd fel steroidau
  • Y rhai sydd wedi cael profion gweithrediad annormal yr afu (LFTs) yn eu gwaed
  • Pobl sydd wedi cael triniaethau cosmetig fel botox, llenwyr, microlafnu gan ymarferwyr heb drwydded neu ymarferwyr sy’n defnyddio offer heintiol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i geisio dileu hepatitis C fel bygythiad cyhoeddus erbyn 2030. Dywedir bod meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi triniaeth hepatitis C fel y gellir ei drin bellach mewn dros 98% o bobl a gwella ohono.

Dywedodd Delyth Tomkinson, nyrs glinigol arbenigol mewn feirysau a gludir yn y gwaed gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Gall unrhyw un gael hepatitis C, ond un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw gwneud pobl yn ymwybodol o’r ffactorau risg. Mae'r profion a'r driniaeth ar gyfer hepatitis C yn hawdd - ac yn bwysicaf oll, mae modd ei drin a gwella ohono."

Yr unig ffordd i wybod yn sicr a oes gan berson hepatitis C yw cael prawf:

  • Mae pecyn rhad ac am ddim a fydd yn profi am HIV, syffilis, hepatitis B a hepatitis C ar gael o Test and Post
  • Gall pobl hunanatgyfeirio neu gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i dudalen Hepatitis Feirysol BIP Caerdydd a’r Fro neu drwy ffonio 029 21843618 neu e-bostio BBV.outreach.Cav@wales.nhs.uk
  • Mae gan GIG 111 Cymru hefyd wybodaeth helaeth am hepatitis C ar ei wefan. Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

Gallwch leihau eich risg o gael eich heintio drwy:

  • Beidio â rhannu unrhyw offer chwistrellu cyffuriau â phobl eraill - gan gynnwys nodwyddau ac offer arall fel chwistrelli, llwyau a ffilterau
  • Peidio â rhannu raseli na brwsys dannedd a allai fod wedi'u halogi â gwaed
  • Cael triniaethau cosmetig, fel tatŵs neu driniaeth ddeintyddol, mewn llefydd trwyddedig.

Mae'r risg o gael hepatitis C trwy ryw yn isel iawn. Fodd bynnag, gall fod yn uwch os bydd gwaed yn bresennol, fel gwaed mislif neu o fân waedu yn ystod rhyw rhefrol. Mae condomau yn syniad da i'w defnyddio wrth gael rhyw rhefrol neu ryw gyda phartner newydd.

Dilynwch ni