14 May 2025
Mae'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Hannah Rosewell wedi cael ei henwi'n Arwr Iechyd mis Mai i gydnabod ei gofal a'i thosturi rhagorol tuag at gleifion gynaecoleg brys.
Am y deng mlynedd diwethaf, mae Hannah wedi gweithio ar Ward Gynaecoleg Ysbyty Athrofaol Cymru, lle mae hi'n gweithio sifftiau ar y penwythnos a gyda’r nos.
Mae'r ward wedi'i rhannu'n ddwy adran ar gyfer cleifion oncoleg a chleifion gynaecoleg brys. Daw llawer o'r cleifion brys i mewn gyda chymhlethdodau beichiogrwydd cynnar, fel gwaedu neu boen, wedi'u hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau neu'r Uned Achosion Brys.
Wrth fyfyrio ar ei chleifion, dywed Hannah: “Gall fod yr amser gwaethaf yn eu bywydau. Mae'n peri ofn, mae'n frawychus.”
Tynnwyd sylw at ofal eithriadol Hannah gan glaf a'i henwebodd ar gyfer gwobr yr Arwr Iechyd. Dyma’r hyn a ddywedwyd yn yr enwebiad: “Mae Hannah yn ased caredig, gofalgar a gwybodus iawn i’r tîm gynaecoleg. Mae hi'n ofalgar ac yn rhoi gofal rhagorol i'w chleifion.
“Es i’r uned a chefais fy nghyfarch gan Hannah ac roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus ar unwaith gyda’r ffordd y gwnaeth Hannah fy nghroesawu i’r uned a gofalu amdanaf yn ystod oriau mân y bore nes i mi gael fy rhyddhau gan feddyg yn ddiweddarach. Sylwais i a’m partner pa mor eithriadol oedd ei gofal a'i thosturi. Tra roedd hi ar y ward roeddech chi'n gallu gweld pa mor ymroddedig oedd hi i roi'r gofal gorau i'w chleifion."
O ystyried natur gwaith Hannah a'r heriau emosiynol y mae cleifion yn eu hwynebu, mae'n brin derbyn y math hwn o adborth. “Rwy'n credu oherwydd yr amgylchiadau, nad yw ein cleifion mewn lle i ddiolch i unrhyw un. Felly, roedd yn braf clywed hyn oherwydd dydyn ni ddim yn cael llawer o ddiolchiadau.
“Dw i’n dod i’r gwaith i wneud fy swydd yn unig, a dw i’n trin pawb fel y byddwn i eisiau i fy mam, fy chwiorydd, fy ffrindiau gael eu trin.
Pan ofynnwyd iddi sut y daeth yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, soniodd Hannah am ei mam a'i dwy chwaer sydd hefyd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dywedodd: “Dw i’n meddwl ei fod yn ein gwaed ni!”.
Yr hyn mae Hannah yn ei fwynhau fwyaf am ei gwaith yw'r amrywiaeth mae pob sifft yn ei gynnig a'r cyfle i ddysgu. “Rydyn ni’n dîm da iawn,” meddai hi. “Mae yna ymdrech tîm dda ar y ward. Rydyn ni wastad yn dysgu, yn addysgu pethau newydd i'n gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd ac yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn ni.”
Noddir y wobr Arwr Iechyd yn garedig gan Park Plaza Caerdydd. Fel Arwr Iechyd mis Mai, bydd Hannah yn derbyn te prynhawn traddodiadol i ddau.
Ydych chi'n adnabod aelod o staff sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gofal rhagorol? Dywedwch ddiolch trwy eu henwebu fel Arwr Iechyd!